Cystadleuaeth Cân Eurovision 2011

Oddi ar Wicipedia
Cystadleuaeth Cân Eurovision 2011
"Feel Your Heart Beat"
("Teimlwch Eich Curiad Calon")
Dyddiad(au)
Rownd cyn-derfynol 110 Mai 2011
Rownd cyn-derfynol 212 Mai 2011
Rownd terfynol14 Mai 2011
Cynhyrchiad
LleoliadYr Almaen
CyflwynyddionAnke Engelke
Judith Rakers
Stefan Raab
Perfformiad agoriadolPerfformiodd Stefan Raab a Lena "Satellite"
Cystadleuwyr
Tynnu'n ôlNeb
Canlyniadau
◀2010   Cystadleuaeth Cân Eurovision   2012▶
Cyflwynwyr: Anke Engelke, Judith Rakers, Stefan Raab

Cystadleuaeth Cân Eurovision 2011 oedd y 56fed Cystadleuaeth Cân Eurovision. "Running Scared" oedd y gân fuddugol, a berfformir gan Ell a Nikki a gynrychiolai Aserbaijan. Cynhaliwyd y gystadleuaeth yn Düsseldorf, Yr Almaen ar ôl i Lena Meyer-Landrut ennill y Gystadleuaeth Cân Eurovision 2010 gyda'i chân "Satellite". Cynheliwyd rowndiau cyn-derfynol ar 10 a 12 Mai gyda'r rownd derfynol ar 14 Mai.[1] Mae'r gwledydd sydd wedi dychwelyd i'r gystadleuaeth wedi cynnwys Awstria, sydd wedi dychwelyd ar ôl absenoldeb o dair blynedd, Yr Eidal, sydd wedi cystadlu am y tro cyntaf ers 1997 ac yn awr aelod o'r "Big 5", Hwngari, ar ôl absenoldeb o ddwy flynedd, a San Marino, a oedd yn cystadlu am y tro cyntaf ers 2008.

Man cyfarfod[golygu | golygu cod]

Cynhelir y gystadleuaeth yn yr Esprit Arena, Düsseldorf.[2][3] Hwn fydd y trydydd tro i'r gystadleuaeth gael ei chynnal yn yr Almaen (fe'u cynhaliwyd yn yr Almaen yn flaenorol yn 1957 a 1983). Hefyd hwn fydd y tro cyntaf y cynhelir y gystadleuaeth yn yr Almaen fel gwlad unedig. Enillydd cyntaf y '4 Mawr' yw'r Almaen. Cyfranoga'r '4 Mawr' y mwyaf o bres i'r UDE: yr Almaen, y Deyrnas Unedig, Ffrainc a Sbaen - sydd felly yn eu caniatáu i gystadlu yn y rownd derfynol, a hynny ers i'r rheol gael ei chyflwyno yn 2000.

Dewis man cyfarfod[golygu | golygu cod]

Mynegodd sawl dinas eu diddordeb i gynnal Cystadleuaeth Cân Eurovision 2011. Bu gan Berlin, Cwlen, Düsseldorf, Frankfurt am Main, Gelsenkirchen, Hamburg, Hannover a München ddiddordeb yn wreiddiol i gynnal y gystadleuaeth yn 2011.[4][5][6] Cyhoeddodd NDR eu rhestr fer o ddinasoedd a allai gynnal y gystadleuaeth a oedd yn cynnwys Berlin, prifddinas Yr Almaen; Hamburg, dinas ail fwyaf Yr Almaen; Hannover, tref enedigol Lena; a Düsseldorf, prifddinas rhanbarth Nordrhein-Westfalen.

Esprit Arena[golygu | golygu cod]

Gall stadiwm yr Esprit Arena ddal 24,000 o wylwyr ar gyfer y Gystadleuaeth Cân Eurovision.[7] Gall Düsseldorf ddarparu 23,000 o welyâu a 2,000 mwy yn yr ardal gyfagos ac ar longau ar Afon Rhein. Mae Maes Awyr Rhyngwladol Düsseldorf yn agos i'r man cyfarfod, a bydd arena athletau, sydd yn gyfagos hefyd, yn cael ei ddefnyddio fel canolfan y wasg i letya 1,500 o newyddiadurwyr.

Cysyniad y Gystadleuaeth[golygu | golygu cod]

Ar 13 Hydref 2010 cyhoeddodd Thomas Schreiber, cydlynydd i ARD, fanylion am y cysyniad: bydd yr Esprit Arena yn cael ei rhannu'n ddwy ran. Adeiladir y llwyfan ar un ochr a bydd yr ochr arall yn cael ei defnyddio fel ystafelloedd gwisgo ac ystafelloedd i gyd-weithwyr yr artistiaid. Bydd tocynnau ar gael ar gyfer saith o sioeau yn gyfan gwbl (y rownd derfynol, y ddau rownd cyn-derfynol a phedwar ymarfer gwisg).

Fformat[golygu | golygu cod]

Gall 4 gwlad "4 Mawr" a'r wlad sy'n cynnal y gystadleuaeth gystadlu yn y rownd derfynol yn unig, gan osgoi'r rowndiau cynderfynol. Yng nghystadleuaeth 2011, bydd un o'r "4 Mawr" a gwlad gynnal y gystadleuaeth yr un peth, sef yr Almaen, ac o ganlyniad mae hyn wedi gadael man gwag. Yn y cyfarfod Grŵp Cyfeireb ym Melgrade, penderfynwyd y byddai llai o gyfranogwyr yn y rownd derfynol. Bydd 24 gwlad yn cystadlu yn lle 25.[8] Sut bynnag, mae'r Eidal wedi dychwelyd i'r gystadleuaeth ac wedi dod un o'r "5 Mawr" felly bydd Yr Eidal yn perfformio yn y rownd derfynol yn awtomatig sy'n golygu y bydd 25 o wledydd yn perfformio yn y rownd derfynol.

Ar 30 Awst 2010, cyhoeddodd Svante Stockselius y byddai'n ymddeol fel Goruchwyliwr Gweithredol Cystadleuaeth Cân Eurovision ar 31 Rhagfyr 2010.[9] Ar 26 Tachwedd 2010, cyhoeddodd yr UDE y bydd Jon Ola Sand yn Oruchwyliwr Gweithredol newydd Cystadleuaeth Cân Eurovision.[10]

Dyraniadau pot[golygu | golygu cod]

Cafodd y gwledydd sy'n cystadlu eu rhannu'n chwe pot, yn seiliedig ar batrymau bleidleisio hyd at 2010 ar 17 Ionawr 2011. Cafodd y gwledydd eu dewis o'r potiau i benderfynu a fyddant yn cystadlu yn y rownd cyn-derfynol cyntaf neu'r ail rownd cyn-derfynol. Hefyd, mae'r dewis yn penderfynu a fydd yn rownd gyn-derfynol y "5 Mawr" (Yr Almaen, y Deyrnas Unedig, Yr Eidal, Ffrainc, Sbaen) wledydd bleidleisio ynddo.

Mae Israel wedi gofyn i gystadlu yn yr ail rownd cyn-derfynol o achos Diwrnod Cofio Israel yn gwrthdaro â'r rownd cyn-derfynol cyntaf. Roedd darlledwr yr Almaen, NDR, wedi gofyn am ganiatâd i bleidleisio yn yr ail rownd cyn-derfynol am resymau amserlennu.[11]

Pot 1 Pot 2 Pot 3 Pot 4 Pot 5 Pot 6

Cyfranogwyr[golygu | golygu cod]

Cyfranogwyr y rowndiau cynderfynol[golygu | golygu cod]

Y rownd cyn-derfynol gyntaf[golygu | golygu cod]

  • Cynhaliwyd y rownd cyn-derfynol gyntaf ar 10 Mai 2011.
  • Mae'r 10 gwlad gyda'r mwyaf o bwyntiau o bleidleisiau'r ffôn a'r rheithgorau wedi symud ymlaen i'r rownd derfynol.
  • Pleidlesiodd y Deyrnas Unedig a Sbaen yn y rownd hon.
O'r het Gwlad[12] Iaith Artist Cân Cyfieithiad Cymraeg Safle[13] Pwyntiau[13]
01 Baner Gwlad Pwyl Gwlad Pwyl Pwyleg Magdalena Tul "Jestem" Dyma fi 19 18
02 Baner Norwy Norwy Saesneg, Swahili Stella Mwangi "Haba Haba" O Dipyn i Beth 17 30
03 Baner Albania Albania Albaneg, Saesneg Aurela Gaçe "Feel the Passion" Teimlwch y Passiwn 13 47
04 Baner Armenia Armenia Saesneg Emmy "Boom Boom" - 11 54
05 Baner Twrci Twrci Saesneg Yüksek Sadakat "Live It Up" Cewch Hwyl 14 47
06 Baner Serbia Serbia Serbeg Nina "Čaroban" (Чаробан) Hudol 8 67
07 Baner Rwsia Rwsia Saesneg Alexey Vorobyov "Get You" Cael Ti 9 64
08 Baner Y Swistir Y Swistir Saesneg Anna Rossinelli "In Love for a While" Mewn Cariad am Gyfnod 10 55
09 Baner Georgia Georgia Saesneg Eldrine "One More Day" Un Diwrnod Mwy 6 74
10 Baner Y Ffindir Y Ffindir Saesneg Paradise Oskar "Da Da Dam" - 3 103
11 Baner Malta Malta Saesneg Glen Vella "One Life" Un Bywyd 12 54
12 Baner San Marino San Marino Saesneg Senit "Stand By" Parod 16 34
13 Baner Croatia Croatia Saesneg Daria Kinzer "Celebrate" Dathliwch 15 41
14 Baner Gwlad yr Iâ Gwlad yr Iâ Islandeg Sigurjón's Friends "Back Home" Yn ôl gartref 4 100
15 Baner Hwngari Hwngari Hwngareg, Saesneg Kati Wolf "What About My Dreams?" Beth am Fy Mreuddwydion? 7 72
16 Baner Portiwgal Portiwgal Portiwgaleg Homens da Luta "A luta é alegria" Gorfoledd yw'r Frwydr 18 22
17 Baner Lithwania Lithwania Ffrangeg, Saesneg Evelina Sašenko "C'est ma vie" Mae'n Fy Mywyd 5 81
18 Baner Aserbaijan Aserbaijan Saesneg Ell a Nikki "Running Scared" Rhedeg Ofnus 2 122
19 Baner Gwlad Groeg Gwlad Groeg Groeg, Saesneg Loukas Giorkas a Stereo Mike "Watch My Dance" Gwyliwch Fy Nawns 1 133

Yr ail rownd cyn-derfynol[golygu | golygu cod]

  • Cynhaliwyd yr ail rownd cyn-derfynol ar 12 Mai 2011.
  • Mae'r 10 gwlad gyda'r mwyaf o bwyntiau o bleidleisiau'r ffôn a'r rheithgorau wedi symud ymlaen i'r rownd derfynol.
  • Pleidleisiodd yr Almaen, yr Eidal a Ffrainc yn y rownd hon.
O'r het Gwlad[12] Iaith Artist Cân Cyfieithiad Cymraeg Safle[14] Pwyntiau[14]
01 Baner Bosnia a Hercegovina Bosnia-Hertsegofina Saesneg Dino Merlin "Love in Rewind" Cariad yn Ailddirwyn 5 109
02 Baner Awstria Awstria Saesneg Nadine Beiler "The Secret Is Love" Cariad yw'r Gyfrinach 8 69
03 Baner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd Saesneg 3JS "Never Alone" Byth yn Unig 19 13
04 Baner Gwlad Belg Gwlad Belg Saesneg Witloof Bay "With Love Baby" Gyda chariad baby 11 53
05 Baner Slofacia Slofacia Saesneg Twiins "I'm Still Alive" 'Rwyf yn Dal i Fyw 13 48
06 Baner Wcráin Wcráin Saesneg Mika Newton "Angles" Engyl 7 81
07 Baner Moldofa Moldofa Saesneg Zdob şi Zdub "So Lucky" Mor Lwcus 10 54
08 Baner Sweden Sweden Saesneg Eric Saade "Popular" Poblogaidd 1 155
09 Baner Cyprus Cyprus Groeg Christos Mylordos "San Aggelos S'agapisa"
(Σαν άγγελος σ'αγάπησα)
Fel angel caru chi 18 16
10 Baner Bwlgaria Bwlgaria Bwlgareg Poli Genova "Na Inat" (На инат) Sbeit 12 48
11 Baner Gogledd Macedonia Macedonia Macedoneg Vlatko Ilievski "Rusinka" (Русинкa) Merch Rwsia 16 36
12 Baner Israel Israel Hebraeg, Saesneg Dana International "Ding Dong" - 15 38
13 Baner Slofenia Slofenia Slofeneg Maja Keuc "No One" Neb 3 112
14 Baner Rwmania Rwmania Saesneg Hotel FM "Change" Newid 4 111
15 Baner Estonia Estonia Saesneg Getter Jaani "Rockerfeller Street" - 9 60
16 Baner Belarws Belarws Saesneg Anastasia Vinnikova "I Love Belarus" 'Rwyf i'n Caru Belarws 14 45
17 Baner Latfia Latfia Saesneg Musiqq "Angel in Disguise" Angel yn Guddwisg 17 25
18 Baner Denmarc Denmarc Saesneg A Friend In London "New Tomorrow" Yfory Newydd 2 135
19 Baner Gweriniaeth Iwerddon Iwerddon Saesneg Jedward "Lipstick" Minlliw 5 109

Cyfranogwyr y rownd derfynol[golygu | golygu cod]

  • Cynhaliwyd y rownd derfynol ar 14 Mai 2011.
  • Ni allai dim ond y "5 Mawr" berfformio yn y rownd derfynol yn awtomatig.
  • Perfformiodd y 10 gwlad gyda'r mwyaf o bwyntiau ymhob rownd gynderfynol yn y rownd derfynol.
O'r het Gwlad Iaith Artist Cân Cyfieithad Cymraeg Safle[15] Pwyntiau[15]
01 Baner Y Ffindir Y Ffindir Saesneg Paradise Oskar "Da Da Dam" - 21 57
02 Baner Bosnia a Hercegovina Bosnia-Hertsegofina Saesneg Dino Merlin "Love in Rewind" Cariad yn Ailddirwyn 6 125
03 Baner Denmarc Denmarc Saesneg A Friend In London "New Tomorrow" Yfory Newydd 5 134
04 Baner Lithwania Lithwania Saesneg Evelina Sašenko "C'est ma vie" Mae'n Fy Mywyd 19 63
05 Baner Hwngari Hwngari Hwngareg, Saesneg Kati Wolf "What About My Dreams?" Beth Am Fy Mreuddwydion? 22 53
06 Baner Gweriniaeth Iwerddon Iwerddon Saesneg Jedward "Lipstick" Minlliw 8 119
07 Baner Sweden Sweden Saesneg Eric Saade "Popular" Poblogaidd 3 185
08 Baner Estonia Estonia Saesneg Getter Jaani "Rockerfeller Street" - 24 44
09 Baner Gwlad Groeg Gwlad Groeg Groeg, Saesneg Loukas Giorkas a Stereo Mike "Watch My Dance" Gwyliwch Fy Nawns 7 120
10 Baner Rwsia Rwsia Saesneg Alexey Vorobyov "Get You" Cael Ti 16 77
11 Baner Ffrainc Ffrainc Corseg Amaury Vassili "Sonniu" Breuddwyd 15 82
12 Baner Yr Eidal Yr Eidal Eidaleg, Saesneg Raphael Gualazzi "Madness of Love" Gwallgofrwydd Cariad 2 189
13 Baner Y Swistir Y Swistir Saesneg Anna Rossinelli "In Love for a While" Mewn Cariad am Gyfnod 25 19
14 Baner Prydain Fawr Deyrnas Unedig Saesneg Blue "I Can" Gallaf 11 100
15 Baner Moldofa Moldofa Saesneg Zdob şi Zdub "So Lucky" Mor Lwcus 12 97
16 Baner Yr Almaen Yr Almaen Saesneg Lena Meyer-Landrut "Taken by a Stranger" Dymerwyd gan Ddieithryn 10 107
17 Baner Rwmania Rwmania Saesneg Hotel FM "Change" Newid 17 77
18 Baner Awstria Awstria Saesneg Nadine Beiler "The Secret Is Love" Cariad yw'r Gyfrinach 18 64
19 Baner Aserbaijan Aserbaijan Saesneg Ell a Nikki "Running Scared" Rhedeg Ofnus 1 221
20 Baner Slofenia Slofenia Saesneg Maja Keuc "No One" Neb 13 96
21 Baner Gwlad yr Iâ Gwlad yr Iâ Saesneg Sjonni's Friends "Coming Home" Dod Adref 20 61
22 Baner Sbaen Sbaen Sbaeneg Lucia Perez "Que Me Quiten Lo Bailao" Ni Allant Fynd Ymaith y Pethau Da
Rwyf Wedi Gwneud
23 50
23 Baner Wcráin Wcráin Saesneg Mika Newton "Angel" - 4 159
24 Baner Serbia Serbia Serbeg Nina "Čaroban" (Чаробан) Hudol 14 85
25 Baner Georgia Georgia Saesneg Eldrine "One More Day" Un Dydd Mwy 9 110

Artistiaid sy'n dychwelyd[golygu | golygu cod]

Artist Gwlad Cystadleuaeth(au) blaenorol
Dino Merlin Baner Bosnia a Hercegovina Bosnia-Hertsegofina 1999 (7fed)
Lena Meyer-Landrut Baner Yr Almaen Yr Almaen 2010 (enillwr)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. ESC-Finale 2011 findet am 14. Mai statt (Almaeneg)[dolen marw]
  2. [1]
  3. [2]
  4. "First host city rumours". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-06-02. Cyrchwyd 2010-05-31.
  5. "GERMANY - Seven cities already declared interest". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-06-02. Cyrchwyd 2010-06-03.
  6. "Jetzt will auch Schalke den Grand Prix". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-01-22. Cyrchwyd 2010-06-03.
  7. [3]
  8. Reference Group gathered in Belgrade
  9. Svante Stockselius says Eurovision farewell
  10. Jon Ola Sand new Executive Supervisor
  11. Düsseldorf gets ready for exchange and draw
  12. 12.0 12.1 43 nations on 2011 participants list!
  13. 13.0 13.1 Eurovision Song Contest 2011 Semi-Final (1)
  14. 14.0 14.1 Eurovision Song Contest 2011 Semi-Final (2)
  15. 15.0 15.1 Eurovision Song Contest 2011 Final