Jedward

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Jedward
Jedward yn Dusseldorf 2011.jpg
Y brodyr Jedward yn Düsseldorf, Yr Almaen yn ystod y Gystadleuaeth Cân Eurovision 2011
Gwybodaeth gefndirol
Enw arall John & Edward
Ganwyd Hydref 16, 1991
Man geni Baner Gweriniaeth Iwerddon Iwerddon, Dulyn
Cerddoriaeth Pop
Blynyddoedd 2009–
Label(i) recordio Sony Music (Ionawr 2010 - Mawrth 2010)
Universal Records (Mawrth 2010 - presennol)
Gwefan planetjedward.net
Aelodau
Edward Grimes
John Grimes

Deuawd bop Wyddelig yw John Paul Henry Daniel Richard Grimes ac Edward Peter Anthony Kevin Patrick Grimes (ganwyd 16 Hydref 1991 yn Nulyn, Iwerddon). Maent yn efeilliaid unfath sydd yn perfformio fel Jedward. Mae Jedward yn enwog am eu cwiff golau, ers iddyn nhw ddod i sylw'r cyhoedd yn gyntaf fel John & Edward ar The X Factor yn 2009. Gorffenasant ill dau yn chweched a daeth Louis Walsh, eu tiwtor ar The X Factor, eu goruchwyliwr.[1]

Rhyddhaodd Jedward eu sengl cyntaf, "Under Pressure (Ice Ice Baby)", ar 1 Chwefror 2010. Rhyddhawyd y sengl gan Sony Music ac cyrhaeddodd yr ail safle yn Siart Senglau'r Deyrnas Unedig, a brig Siart Senglau Iwerddon. Roedd eu halbwm cyntaf, Planet Jedward, rhif un yn Iwerddon a 17eg yn y DU.

Eurovision[golygu]

Cynrychiolodd Jedward Iwerddon yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2011 gyda'u cân "Lipstick".[2] Daeth eu cân 8fed yn yr ail rownd gynderfynol ac 8fed eto yn y rownd derfynol gyda 119 pwynt. Y gân gyntaf o'u hail albwm yw "Lipstick" a cafodd ei ryddhau yn haf 2011.

Bydd Jedward yn cynrychioli Iwerddon eto yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2012 a gynhelir ym Maku, Aserbaijan gyda'u cân "Waterline".

Cyfeiriadau[golygu]

Dolenni allanol[golygu]