Woyzeck (drama)

Oddi ar Wicipedia
Woyzeck
Enghraifft o'r canlynolgwaith creadigol anorffenedig, gwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurGeorg Büchner Edit this on Wikidata
IaithAlmaeneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1879, 1875 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1837 Edit this on Wikidata
Genredrama gymdeithasol Edit this on Wikidata
Lleoliad y perff. 1afCuvilliés Theatre Edit this on Wikidata
Dyddiad y perff. 1af8 Tachwedd 1913 Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Georg Büchner

Mae Woyzeck (ynganiad Cymraeg = Foit'tsi'ec) yn ddrama ysgrifennwyd gan Georg Büchner rhwng Gorffennaf a Hydref 1836.

Mae'r gwaith wedi dod yn un o ddramâu mwyaf adnabyddus a dylanwadol Yr Almaen gyda pherfformiadau, addasiadau a chyfieithiadau di-rif ar draws y byd. Mae wedi’i droi’n sawl ffilm, ballet ac opera enwog.

Bu farw Büchner yn 1837 cyn gorffen y gwaith gan adael darnau o lawysgrif heb eu rhifo. Am i’r gwaith heb gael ei orffen does dim fersiwn ‘trefn gywir’ o’r golygfeydd. Mae hefyd fersiynau gwahanol ambell i ddarn gan arwain at addasiadau a dehongliadau hynod o amrywiol.

Dim ond yn 1877, rhyw bedwar deg o flynyddoedd yn ddiweddarach, ymddangosodd y gwaith mewn print am y tro cyntaf mewn addasiad gan Karl Emil Franzos.[1] A dim ond yn 1913 fe’i perfformiwyd am y tro cyntaf.

Mae Georg Büchner bellach yn cael ei gyfrif fel un o fawrion lenyddiaeth y byd ac mae prif wobr llenyddol yr Almaen y Georg-Büchner-Preis wedi’i enwi ar ei ôl.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Mae’n debyg bod Büchner wedi seilio’r gwaith yn rhannol ar wir hanes, sgandal mawr y cyfnod, Johann Christian Woyzeck, milwr o Leipzig a dienyddwyd yn gyhoeddus (ei ben wedi’i dorri) am ladd ei bartner Christiane Woost mewn ffit o genfigen yn 1812. [2]

Cyhoeddwyd y ddrama'n gyntaf mewn fersiwn a olygwyd ac a ychwanegwyd yn helaeth gan Karl Emil Franzos, a'i cyhoeddodd mewn cyfres yn 1875 a 1877, cyn ei chynnwys yn ei argraffiad o weithiau casgliad Büchner ym 1879.[3]

Roedd rhaid i Franzos ceisio ymdopi â llawysgrifen fach a hynod o flêr Büchner, waeth byth roedd y tudalennau wedi’u heneiddio a’r inc wedi colli ei liw cymaint roedd rhaid i’w drin gyda chemegolion i’w ceisio eu gwneud yn ddarllenadwy. Doedd Franzos ddim yn ymwybodol o hanes sgandal llofruddiaeth Christiane Woost a sillafwyd teitl y ddrama yn "Wozzeck";[3][4] Dim ond yn 1913, 38 mlynedd yn ddiweddarach perfformiwyd y ddrama am y tro cyntaf. Daeth y ddrama ar gael yn ehangach am y tro cyntaf yn 1921 mewn cyfrol gan Georg Witkowski gyda’r teitl Woyzeck wedi’i gywiro. [5]

Yn y ddrama mae doctor yn cynnal arbrofion grealon ar Woyzeck gan wneud iddo fwyta ddim byd ond pys. Mae'n debyg bod hyn yn barodi gan Büchner ar arbrofion gan y gwyddonwr enwog Justus von Liebig (1803 – 1873, hefyd o Darmstadt). Yn 1833 Ceisiodd von Liebeg ddod o hyd i ffyrdd rhatach i fwydo pobl dlawd a'r fyddyn, ac fe ddefnyddiwyd milwyr fel 'anifeiliaid labordy' yn ei dreialon. [6]

Crynodeb Plot[golygu | golygu cod]

Perfformiad o Woyzeck, Rwmania, 1970

Mae’r ddrama wedi’i gosod mewn ‘tref fach ar lan llyn mawr’, mae llawer o ddialog gwreiddiol Büchner yn defnyddio tafodiaith ardal Hessen (Roedd Büchner o Darmstadt, Hessen).

Mae gan y prif gymeriad, milwr tlawd Preifat Franz Woyzeck, blentyn gyda Marie. Nid yw’r ddau yn briod, oedd yn cael ei gyfrif yn bechadurus ar y pryd. Mae Woyzeck yn ceisio ennill arian ychwanegol trwy fod yn was bach i’w Capten ac yn cymryd rhan mewn arbrofion rhyfedd ddoctor y dref, er enghraifft mae’r doctor yn ei orfodi i fwyta dim byd ond pys.

Mae iechyd meddyliol Woyzeck yn dechrau torri i lawr wrth iddo ddechrau clywed lleisiau, gweld pethau a chredu mewn theorïau gynllwyn. Mae Marie yn colli diddordeb yn Woyzeck ac yn dechrau gweld arweinydd y band milwrol - dyn golygus iawn. Ei genfigen yn cael y gorau ohono, mae Woyzeck yn herio arweinydd y band ond i’w gael ei wawdio a churo ganddo.

Mae Woyzeck yn mynd â Marie i’r llyn ac yn ei llofruddio gyda chyllell. Mae sawl fersiwn a dehongliad o’r darn olaf o wahanol ddarnau o lawysgrif Büchner, gan gynnwys dechrau achos llys Woyzeck, rhai eraill gyda Woyzeck yn boddi yn y llyn. Mae llawer o’r fersiynau'n gorffen gyda’r heddlu’n dod o hyd i gorff Marie, yn hapus bod ganddyn nhw ‘llofruddiaeth dda’ o’r diwedd.

Themâu bythol[golygu | golygu cod]

Fel llawer o weithiau llenyddol sy’n cael eu cyfrif yn glasuron, mae a chyflwr a natur ddynol yn cael eu sylwi’n graff.

Mae rhai o brif themâu’r gwaith yn cynnwys: [7]

Iechyd meddwl - Mae disgrifiad o afiechyd meddwl Woyzeck gan awgrymu seicosis, efallai yn dioddef o sgitsoffrenia. Yn y gorffennol roedd cyflyrau o’r fath yn cael eu hystyried yn ‘wallgofrwydd’ gyda dioddefwyr yn cael eu trin yn greulon. Gyda stres cynyddol yn hytrach na chymorth meddygol mae'r cyflwr yn gallu arwain at ganlyniadau trasig.

Trais yn erbyn merched - Ar olwg cyntaf mae’r ddrama yn portreadu’r prif gymeriad, y dyn, yn ‘ddioddefwyr’ tra mewn gwirionedd y ferch sy’n dioddef ymosodiad treisgar marwol ganddo. Mae Woyzeck yn methu ennill yn erbyn yr holl ddynion a’r tlodi sydd yn ei ormesu. Ar y llaw arall mae Woyzeck yn cael hi’n hawdd beio Marie am ei holl broblemau personol a thywallt ei ddicter arni hi.

Tlodi / Dioddefaint - Mae Woyzeck a Marie yn ddosbarth gweithiol, heb obaith o wella eu sefyllfa economaidd a statws isel. Maent yn cael eu gweld fel pechaduriaid, a Woyzeck fel ‘dyn da’ ond gwirion. Mae’r cymeriadau sydd o lefel cymdeithasol uwch - Y Capten, y Doctor ac Arweinydd y Band yn rheoli bywyd, cam-drin a gwawdio Woyzeck.

Gwrth-semitiaeth – Mae addasiadau modern o’r gwaith yn gorfod ystyried os am gynnwys neu sut i ddehongli gwrth-semitiaeth rhai o gymeriadau'r gwaith.

Arfau – Er i’r ddrama cael ei ysgrifennu ar ddechrau’r 19eg ganrif, mae’r ymosodiad gyda chyllell yn debyg iawn i broblemau ‘cario cyllell’ y byd cyfoes. [8]

Addasiadau[golygu | golygu cod]

Woyzeck - Comic
Poster Opera Wozzek, 1974

Mae Woyzeck wedi cael ei gyfieithu i ieithoedd di-ri a’i berfformio’n helaeth ar lwyfan o amgylch y byd.

Mae wedi’i ffilmio ar gyfer y sinema a theledu sawl tro gan gynnwys ffilm 1979 Werner Herzog gyda Klaus Kinski yn y brif rôl. Mae hefyd yn opera enwog "Wozzeck" gan Alban Berg a ballet gan Kenneth MacMillan.

Fe’i droswyd i Gymraeg gan Guto Dafis 1989. [9] ac fe berfformiwyd gan Fyfyrwyr BA Theatr a Drama Prifysgol De Cymru yn Sherman Cymru ym 2015.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]