Dosbarth gweithiol
Oddi ar Wicipedia
Term a ddefnyddir yn y gwyddorau cymdeithasol ac mewn sgyrsiau cyffredinol i ddisgrifio pobl sy'n gweithio mewn swyddi rhesi isel (yn ôl sgil, addysg a chyflogau îs) ydy dosbarth gweithiol. Yn aml fe'i ddefnyddir i ddisgrifio pobl di-waith neu'r rheiny sy'n derbyn cyflogau sy'n îs na'r cyfartaledd cenedlaethol. Ceir dosbarthiadau gweithiol yn bennaf mewn economïau sydd wedi'u diwydianeiddio ac mewn ardaloedd trefol gwledydd sydd heb eu diwydianeiddio.