Klaus Kinski
Oddi ar Wicipedia
Klaus Kinski yng Ngŵyl Ffilm Cannes, 1988.
Actor Almaenig oedd Klaus Kinski (ganwyd Klaus Günter Karl Nakszynski[1] 18 Hydref 1926 – 23 Tachwedd 1991). Ymddangosodd mewn mwy na 130 o ffilmiau, gan gynnwys pump o ffilmiau'r cyfarwyddwr Werner Herzog: Aguirre, der Zorn Gottes (1972), Nosferatu: Phantom der Nacht (1979), Woyzeck (1979), Fitzcarraldo (1982), a Cobra Verde (1987).
Roedd yn enwog am ei bersonoliaeth wyllt. Mae'n bosib y roedd ganddo sgitsoffrenia.[2] Ddwy ddegawd wedi ei farwolaeth cyhuddwyd Kinski gan ei ferch Pola o'i chamdrin yn rhywiol.[3]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Tystysgrif Geni
- ↑ (Almaeneg) Psycho-Akte von Klaus Kinski entdeckt, Bild, 22 Gorffennaf 2008.
- ↑ (Saesneg) Jackson, Patrick (10 Ionawr 2013). German actor Klaus Kinski 'abused his daughter Pola'. Adalwyd ar 10 Ionawr 2013.