Bois y Blacbord

Oddi ar Wicipedia
Bois y Blacbord
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1958 Edit this on Wikidata
Genrecerddoriaeth boblogaidd, Canu gwerin, Cerdd Dant Edit this on Wikidata
RhanbarthSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
Gellir darllen erthygl lawnach ar Wici Porth ar: Bois y Blacbord

Grŵp canu harmoni clòs o ysgolfeistri a ffurfiwyd yn 1958 yn Ysgol Haf flynyddol awdurdod addysg Sir Gaerfyrddin oedd Bois y Blacbord. Yn ogystal â chanu penillion Cerdd Dant mewn cystadlaethau cenedlaethol roedd Bois y Blacbord yn ymroi i adloniant ysgafn y cyfnod, gan gynnwys caneuon gwerin wedi’u haddasu at ddant cynulleidfa eang.

Bu’r Bois yn brysur am flynyddoedd yn canu mewn cyngherddau elusennol ac ar raglenni teledu a radio. Cawsant ran hefyd yn seremoni agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Llanelli yn 1962. Yn 1964 aethant ar daith i Iwerddon lle cawsant gryn sylw mewn cyngherddau yn Limerick ac ar y cyfryngau.[1]

Aelodaeth[golygu | golygu cod]

Yr arweinydd oedd Noel John ac ef hefyd a oedd yn gyfrifol am addasiadau cerddorol eu repertoire. Noel John (Abergorlech), J.J. Joshua (Llwynhendy), E. Evans (Peniel), T. Bowen (Alltwalis), T.M. Jones (Gorlas), D. Williams (Felinwen), D.P. Jones (Abergwili), H.G. Evans (Hendy), W. Davies (Stebonheath), B. Davies (Talyllychau), M. Rees (Y Tymbl), T. Thomas (Gorslas), G. Phillips (Cwmduad), B. Roberts (Llandybie), J.B. Phillips (Brechfa), W.K. Jones , W. Bowen (LLwynhendy), W. Jones (Blaenau), C. Phillips (Rhydaman).[1][2]

Disgyddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Hen Fenyw Fach Cydweli [sengl] (Welsh Teldisc SPWD909, 1963)
  • Caneuon Difyrrus Bois y Blacbord … Jovial Songs of the Blackboard Boys [EP] (Welsh Teldisc TEP841, 1964)
Caneuon: Ochr A: Moliannwn (In Joyful Praise); Fflat Huw Puw (Huw Puw's Boat). Ochr B: Llanfair P.G.; Twll Bach Y Clo (The Keyhole). Mae Llanfair P.G. yn addasiad o'r gân Saesneg 'Gilly Gilly Ossenfeffer Katzenellenbogen By The Sea'.[3]
  • Noson Lawen [EP] (Wren WRE1001, 1964)
Caneuon: Ymbil am dy Gymorth Di; Ffair Henfeddau; Elen' Gŵyl y Diolch; Y Bröydd Hyn.[4]
Caneuon: Ochr 1 - a) Bethlehem b) Ar Gyfer Heddiw'r Bore. Ochr 2 - a) O Dan yr Ymbarel b) Adre'n Ôl.[4]
Caneuon: Ochr 1 - a) Beti Wyn o Batagonia b)Bro Annwyl i Mi. Ochr 2 - a) Hwiangerdd y Dail b) Menna Lân.[4]

Casgliadau amrywiol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Hill, Sarah. "Bois Y Blacbord". Wici Esboniadur Cerddoriaeth Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cyrchwyd 6 Ebrill 2024.
  2. "Bois y Blacbord". 45cat. Cyrchwyd 6 Ebrill 2024.
  3. "Bois y Blacbord". 45cat. Cyrchwyd 6 Ebrill 2024.
  4. 4.0 4.1 4.2 Tomos, Dafydd. "Bois y Blacbord cloriau recordiau". Flickr. Cyrchwyd 6 Ebrill 2024.
  5. "Aberdaron". Ebay. Cyrchwyd 6 Ebrill 2024.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]


Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato