Siambr Gladdu Trellyffaint

Oddi ar Wicipedia
Siambr Gladdu Trellyffaint
Enghraifft o'r canlynoldolmen porth, siambr gladdu Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Map
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthNanhyfer Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Beddrod porth Cymreig clasurol yw Dolmen Trellyffaint a cheir maen hir gerllaw. Saif i'r gogledd o Nanhyfer (Sir Benfro) ac i'r gorllewin i bentrefan Gethsemane, ar ochr ddeheuol bryncyn bychan yn Nyffryn Nanhyfer rhwng dwy nant sy'n llifo i Afon Nyfer. Beddrod dwbl, gyda phrif siambr a siambr fach, eilaidd yw Trellyffaint. Mae ganddo faen capan uwch y brif siambr, tua 35 o farciau crwn a elwir yn 'farciau cwpan' a cheir dadl a ydynt yn naturiol ai peidio. Roedd y siambr yn arfer bod tipyn uwch, ond llithrodd a thorrodd y capfaen.

Mae disgrifiad Coflein o'r gromlech yn fyr iawn: 'Ceir yma chwe charreg fertigol wedi'u hangori yn y ddaear: mae tri ohonynt yn cynnal maen capan, tra bod dau arall, i'r gogledd-orllewin, yn ffurfio rhan o ail siambr. Ceir marciau cwpan posibl ar y maen capan: adroddwyd fod yma 'ôl twmpath' ond nid oedd yn amlwg erbyn 1966.'[1]

Dim ond tair carreg ochr sydd yn y siambr lai i'r gogledd-orllewin. Gall fod y siambr hon wedi'i hychwanegu'n ddiweddarach ac mae'n bosibl bod carnedd o bridd wedi gorchuddio'r ddwy siambr ar un adeg.

Ceir maen hir tua 200 metr i'r de a thua 1.0 km i ffwrdd mae Coeten Llech-y-Tripedd.

Mae'r gromlech wedi'i lleoli islaw'r ffordd y tu ôl i gwrt fferm amlwg, gyda seilo mawr. Oddi yno dylid cerdded i'r gorllewin i'r ffordd fach nesaf i fferm Trellyffaint. Gellir parcio yno a cheir mynediad wedi'i ffensio trwy gaeau a llwybrau pridd at y gromlech.

Saif Carreg Vitalianus wrth ymyl mynedfa Eglwys Sant Brynach yn Nanhyfer.

Llenyddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Vicki Cummings, Alasdair Whittle: Places of Special Virtue: Megaliths in the Neolithic landscapes of Wales (Lleoedd o rinwedd arbennig. Megalithau yn nhirweddau Neolithig Cymru). Oxbow, Rhydychen 2004, ISBN 1-84217-108-9 .

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. coflein.gov.uk; Gwefan Coflein; adalwyd 6 Ebrill 2024.