Bataliwn Amddiffynwyr yr Iaith

Oddi ar Wicipedia
Bataliwn Amddiffynwyr yr Iaith
Poster gan Fataliwn Amddiffynwyr yr Iaith yn erbyn Hebraeg llygredig yn dod o'r sinemâu, 1930
Ysgol Hebreig Herzliya, Tel Aviv

Mudiad oedd "Bataliwn Amddiffynwyr yr Iaith" (Hebgaeg:גדוד מגיני השפה|G'dud meginei ha-safa) a oedd yn gweithredu yn y wladychfa Iddewig (Yishuv) ym Mhalesteina dan Fandad rhwng 1923 a 1936 dros statws a hybu defnydd a rheoleiddio'r iaith Hebraeg.[1]

Y Cefndir Hanesyddol[golygu | golygu cod]

Hyd at 1908, Hebraeg oedd iaith yr addysg yn y rhan fwyaf o sefydliadau addysgol Iddewig seciwlar yn y wladychfa Iddewig ym Mhalesteina. Ym 1913, ymledodd sibrydion yn y wladychfa bod rheolwyr y Technion, a oedd i'w hagor yn Haifa, wedi penderfynu cyflwyno Almaeneg fel prif gyfwng y dysgu. Mewn ymateb, penderfynodd graddedigion cyntaf Ysgol Uwchradd Herzliya anfon memorandwm ar ran holl fyfyrwyr ysgolion technegol y wladychfa, yn protestio yn erbyn dirmyg at yr iaith Hebraeg ac yn erbyn cyflwyno Almaeneg fel y cyfrwng dysgu yn y coleg technegol cyntaf yn y wladychfa. Pan benderfynwyd, er gwaethaf y brotest, mai Almaeneg fyddai cyfrwng y dysgu yn y Technion, argyhoeddodd graddedigion cyntaf ysgol Herzliya fyfyrwyr coleg hyfforddi athrawon cymdeithas Ezra a oedd hefyd yn rheoli'r Technion) i fynd ar streic oherwydd diffyg Hebraeg yn y coleg hyfforddi. Nid yw'n syndod, felly, fod sylfaenwyr "Bataliwn Amddiffynwyr yr Iaith yng Ngwlad Israel" hefyd yn dod o blith myfyrwyr Ysgol Uwchradd Hebraeg Herzliya.

Yn 1922, mewn cynhadledd o garedigion yr iaith Hebraeg, sefydlodd Hillel Rashoshan yn Bucovina, yn Rwmania "Bataliwn Amddiffynwyr yr Iaith" a ymladdodd yn selog dros yr iaith Hebraeg a'i lledaeniad ymhlith yr Iddewon.

Sefydlwyd "Bataliwn Amddiffynwyr yr Iaith yng Ngwlad Israel" yn yr wythnos rhwng y 4ydd a'r 11eg o Ebrill 1923, ar ddiwedd y Trydydd Aliya (1919-1923). Yn wyneb y frwydr dros gyfrwng y dysgu mewn sefydliadau addysg, a dymuniad nifer o garfanau yn y wladychfa i ddefnyddio'r iaith Iddew-Almaeneg (Iddeweg), gan fod y rhan fwyaf o'r Iddewon a ymfudodd i'r wladychfa yn y cyfnod hwn yn dod o ddwyrain Ewrop, a llawer ohonynt yn siarad Iddeweg fel mamiaith, roedd ymdeimlad bod statws yr Hebraeg fel iaith lafar bob dydd o dan fygythiad. Arweiniodd hyn at grŵp o fyfyrwyr ysgol uwchradd Herzliya, gyda chymorth eu hathrawon, yn ceisio sicrhau bod yr iaith Hebraeg yn cael y lle goruchaf ym mhob rhan o fywyd. Roedd y myfyrwyr ysgol uwchradd hyn ar flaen y gad a sefydlasant "Bataliwn Amddiffynwyr yr Iaith". Trwyddo buont yn brwydro drwy ddulliau digyfaddawd a chyda'r nod o argyhoeddi'r cyhoedd i siarad Hebraeg. Rhannwyd strwythur "Bataliwn Amddiffynwyr yr Iaith" yn gwmnïau tebyg i uned filwrol: cwmni propaganda, cwmni dosbarthu, cwmni amddiffyn ac yn y blaen.[2]

Y tu ôl i fenter sefydlu "Bataliwn Amddiffynwyr yr Iaith", ac yn gyfrifol am drefnu'r myfyrwyr ysgol uwchradd ar gyfer gweithredoedd, roedd un o'r graddedigion ysgol uwchradd, Herz Ben-Ari (mab y diwygiwr-addysgwr Hebraeg a'r actifydd Seionaidd Yehuda Leib Berger). Ef gasglodd y myfyrwyr ysgol uwchradd ynghyd, gan gynnwys nifer o fyfyrwyr athrofa Levinsky, myfyrwyr o'r ysgol fasnach a grŵp o weithwyr a chlercod. Ar 18 Sivan, galwodd Ben-Ari gyfarfod yn un o neuaddau ysgol y merched lle roedd 15 i 20 o ddisgyblion ysgol uwchradd yn bresennol, a lle cododd y cwestiwn am sefyllfa'r iaith. Ar yr un achlysur, cynigiodd Herzl Ben-Ari sefydlu corff a fyddai'n brwydro yn erbyn dirmyg at yr iaith Hebraeg. Derbyniwyd cynllun Ben-Ari yn llawn, ac yn y cyfarfod dewiswyd bwrdd rheoli bach ar gyfer y corff newydd, nad oedd eto wedi cael enw, gyda Herz Ben-Ari, Zvi Neshri, Lipa Levitan, Ezra Danin, ac Aharon Hatar-Yishi yn aelodau. Cafodd sefydlu'r Bataliwn groeso brwd gan rai o awduron Tel Aviv a hefyd gan athrawon yr ysgol uwchradd, ac yn fuan ymunodd dwsinau o ddynion a merched ifanc y ddinas â hi.

Cynllun gweithredu "Bataliwn Amddiffynwyr yr Iaith"[golygu | golygu cod]

Mae cynllun gweithredu "Bataliwn Amddiffynwyr yr Iaith yng Ngwlad Israel" a dderbyniwyd gan y Gymanfa Gyffredinol a'i sefydlodd, wedi'i rannu'n dair prif adran: lledaeniad yr iaith, propaganda o blaid defnyddio'r iaith a gwarchod rhag dirmyg tuag at yr iaith. Er mwyn gweithredu’r cynllun, gweithredodd y Bataliwn drwy’r dulliau canlynol:

Lledaenu'r iaith - i'r diben hwn, sefydlodd aelodau'r Bataliwn adran o athrawon, a oedd yn gwasanaethu grwpiau bach o 6-12 o bobl a ddaeth at y Bataliwn gyda chais i ddysgu Hebraeg iddynt. Darperid y gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim, a thros amser roedd tua chant o bobl wedi dysgu’r iaith drwy'r system honno. Hefyd, roedd adran o lyfrgellwyr yn cynorthwyo’n gyson bob dydd yn llyfrgelloedd Undeb y Gweithwyr Hebreig, yn Llyfrgell Barzili ac yn y babell ddarllen ar lan y môr. Yn ogystal, trefnodd y bataliwn ddigwyddiadau gwerin-llenyddol-cerddorol am brisiau rhad er mwyn caniatáu i'r cyhoedd yn gyffredinol ddod i gysylltiad â'r iaith. Cafwyd tri digwyddiad o'r math yma, a ddenodd dyrfa fawr.

Propaganda o blaid yr iaith - posteri gyda'r sloganau "Iddew, siarada Hebraeg!", "Ieithoedd ar wahân - calonnau ar wahân", "Un iaith - un enaid" a "Hebread, siarada Hebraeg!" Cawsant eu dosbarthu'n rheolaidd ymhlith y torfeydd oedd yn siarad ieithoedd heblaw'r Hebraeg ar y strydoedd a'u pastio ym mhob man oedd i'w weld. Ymddangosodd hysbysebion neon a thrydan yn y nos ar Stryd Herzl, i gyd yn cario posteri propaganda o blaid yr iaith. Yn ogystal, trefnodd y Bataliwn ddwy ddarlith gyhoeddus a oedd yn egluro gwerth defnyddio'r iaith Hebraeg. Denodd y ddwy ddarlith gynulleidfa fawr. Roedd rheolwyr yr adran bropaganda yn y Bataliwn hyd yn oed yn apelio ar lenorion yn y wladychfa a thramor, gyda chais i gyhoeddi erthyglau propaganda dyddiol ac wythnosol o blaid defnydd yr iaith yn y wasg. Hefyd, cyhoeddwyd papur newydd gan y Bataliwn lle pwysleisiwyd gwerth defnyddio’r iaith, ynghyd ag adran yn ymwneud â llenyddiaeth a mudiadau ieuenctid.

Gwarchod rhag dirmyg tuag yr iaith - nid oedd aelodau'r bataliwn a oedd yn bresennol mewn gwahanol gynulliadau yn caniatáu siarad mewn iaith heblaw'r Hebraeg ar y llwyfan. Hefyd, aeth adran arbennig o fewn y bataliwn drwy strydoedd Tel Aviv, i gywiro'r holl arwyddion a ysgrifennwyd â gwallau sillafu a gludo arwyddion Hebraeg yn lle arwyddion a ysgrifennwyd mewn Iddeweg a Rwsieg.

Nid oedd aelodau'r Bataliwn yn cilio rhag gweithredoedd treisgar i hyrwyddo eu nodau, a chymerasant ran weithredol yn rhyfel yr ieithoedd. Byddent yn aml yn cynnal protestiadau treisgar, gan gynnwys taflu cerrig, mewn neuaddau Iddeweg yn y wladychfa. Disgrifiodd Yaakov Zerubal y rhyfel ieithoedd yn y 1930au fel a ganlyn: "Gwaeth nag erledigaeth yw'r pogrom systematig, seicolegol ac ideolegol a arferir gan y gymdeithas swyddogol yn erbyn yr hawl i ddefnyddio'r iaith Iddeweg."

Gweithredoedd "Bataliwn Amddiffynwyr yr Iaith".[golygu | golygu cod]

Hysbyseb yn cynnig cymorth Bataliwn Amddiffynwyr yr iaith (1926)

Digwyddodd gweithred gyntaf y Bataliwn nos Wener, 11 Iyar, pan aeth y bataliwn trwy strydoedd Tel Aviv am y tro cyntaf gyda'i aelodau'n canu caneuon Hebraeg, gan gynnwys y gân "Iddew, siarada Hebraeg!" Hyn oll fel protest yn erbyn "Babilon Ieithoedd" a chaneuon mewn ieithoedd heblaw'r Hebraeg. Byddai'r canu yn y strydoedd bob nos Wener a dosbarthu posteri a hysbysiadau propaganda yn baratoadau i'r aelodau barhau â gweithgarwch ehangach y Bataliwn yn unol â'r cynlluniau a nodwyd yn y Gymanfa Gyffredinol. Fe wnaeth aelodau'r Bataliwn hefyd weithredu yn erbyn trigolion a gyrwyr a oedd yn dilorni'r iaith drwy siarad yn amhriodol, fel y daflen a ddosbarthwyd yn Tel Aviv yn erbyn y gyrwyr hyn:

"Hebread! Mae'r gyrwyr yn amharchu'r iaith yn ymarferol [...] mae'n bryd rhoi diwedd ar yr amarch tuag at yr iaith [...] pan fyddwch chi'n mynd i mewn i'r cerbyd a'r car, anerchwch y gyrrwr yn Hebraeg yn unig! Peidiwch ag ateb y gyrrwr os yw'n siarad iaith arall! [...] Ac os yw'r person a grybwyllir uchod yn anghwrtais, ysgrifennwch ei rif i lawr a rhowch wybod i'r sefydliadau cyfrifol! [...]

Nid ymataliodd y "Bataliwn" rhag beirniadu gweinyddiaeth dinas Tel Aviv ychwaith. Yn un o lythyrau'r Bataliwn i'r fwrdeistref dywedwyd:

"Hoffem dynnu eich sylw at y ffaith warthus fod y rhan fwyaf o'r arwyddion yn ein dinas naill ai wedi eu hysgrifennu mewn Hebraeg llygredig a charbwl, neu nad yw perchnogion yr arwyddion yn cynnig digon o le i'r Hebraeg [...] Rhaid i'n bwrdeistref dalu sylw i'r gwarth cyhoeddus hwn a cheisio ei gywiro trwy gael perchnogion yr arwyddion i ymorol bod cynnwys yn arwyddion yn ddigonol, beth bynnag am y sglein allanol [...] fel bod pwy bynnag sy'n dod i ofyn am drwydded ar gyfer yr arwydd ddim yn ei chael oni bai bod cynnwys yr arwydd yn cael ei ddwyn i swyddfa "Bataliwn Amddiffynwyr yr Iaith" i'w adolygu yn gyntaf [...]"

Chaim Nachman Bialik (1873-1934)

Bu Bataliwn yr Amddiffynwyr Iaith mewn gwrthdaro arall pan gafodd y bardd Chaim Nachman Bialik ei siwio gan aelod o’r Bataliwn. Dywedodd Bialik wrth y llanc (a ddywedodd wrtho ei fod yn siarad Iddeweg yn Tel Aviv) i fynd i uffern, a chafwyd ef yn ddieuog yn yr achos.

Roedd y rhai a wrthwynebodd y defnydd o ieithoedd heblaw'r Hebraeg yn y wladychfa wedi chwalu cyfarfod gyda'r nos o gyfnodolyn Orient, cyfnodolyn Almaeneg oedd yn gweithredu ym Mhalesteina, drwy osod bom yn swyddfa'r golygydd.[3]

Mewn byr o dro, sefydlwyd canghennau ychwanegol o "Bataliwn Amddiffynwyr yr Iaith" yn Jerwsalem (lle cafodd ei arwain gan Yosef Kluizner, Naftali Hertz Torchiner a Hamda Ben-Yehuda)[4], yn Haifa, yn Safed, yn Rosh Pina, yn Rehovot, yn Rishon LeZion, yn Ecron, yn Yavnal, a hyd yn oed dramor. Yn ogystal â materion y Bataliwn, roedd y cwmnïau hefyd yn ymwneud â gwaith diwylliannol Hebreig cyffredinol yn y wladychfa ac yn y Bataliwn ei hun. Er enghraifft, yng nghangen Bivanel yn Galilea, bu dadl hir am enw'r Bataliwn: "Roedd yna rai, yn eu plith pennaeth yr ysgol yn y moshaf, a awgrymodd newid yr enw. Ymhlith y gwahanol gynigion a gafwyd roedd “Amddiffynwyr yr Iaith” a “Bataliwn Carwyr yr Iaith.”[5] Mewn cyfarfod cyffredinol o'r gangen, penderfynwyd cadw'r enw yr oedd grwpiau ieuenctid eraill yn y wladychfa yn ei ddefnyddio, hynny yw grwpiau oedd hefyd yn cymryd cyfrifoldeb dros amddiffyn yr iaith. Yn y modd hwn, penderfynodd y gangen i gadw mewn cysylltiad â'r Bataliynau eraill yn y wladychfa ac yn y ffordd yna, mae'n debyg, y penderfynwyd yn derfynol ar yr enw "Bataliwn Amddiffynwyr yr Iaith yng Ngwlad Israel ". Clywodd cymunedau alltud o Iddewon am weithredoedd y Bataliwn hefyd ac anogwyd grwpiau o ieuenctid Seionaidd i ddilyn ôl ei draed. Er enghraifft, trefnwyd cangen dramor o'r gatrawd yn Raditz, Rwmania, ar gyfer cydweithio i ledaenu'r iaith Hebraeg ymhlith cylchoedd ieuenctid Hebraeg. Llwyddodd sylfaenwyr y gangen i recriwtio tua 50 o bobl ifanc oedd yn siarad Hebraeg yn unig ymhlith ei gilydd, er gwaethaf rhwystrau'r amgylchedd, a oedd yn estron ac yn gweld yr ymddygiad hwn yn anarferol.

Anthem y "Bataliwn".[golygu | golygu cod]

Roedd gan "Bataliwn yr Amddiffynwyr Iaith" hyd yn oed anthem arbennig a ysgrifennwyd gan Yosef Oxenberg a'i galw'n "Anthem Bataliwn Amddiffynwyr yr Iaith":

Ydych chi'n gwybod pwy sydd ar ei draed?
Ydych chi'n gwybod pwy ydw i?
Rydym yn unedig ym mhob maes.
Dw i ddim yn berffeithydd,
Nac yn fwrgais chwaith,
Dilynwch fi
Dewch
Eiddo ni yw'r dyfodol,
Dwi ddim yn llipryn gwan
nac yn filwr chwaith,
Oherwydd ein slogan: Iddew, siarada Hebraeg!
Ydych chi'n gwybod pwy ydw i?
O Fataliwn Amddiffynwyr yr Iaith!
Iddewon, mae pawb yn ein hadnabod ni,
Iddew, siarada Hebraeg, iaith dy bobl a'th wlad!
Hebddon ni, fyddai dim byd!
Iddew, cofia bob amser mai Hebraeg yw dy iaith di!
Hebraeg yw ein hiaith ac ynddi rydyn ni'n eiriol dros bleidiau nad oes gennym ni
Does dim cynlluniau ar gael chwaith, ac i'n gwrthwynebwyr ni i gyd, rydyn ni'n bipio!

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Mitch Frank (2005). Understanding the Holy Land: Answering Questions About the Israeli-Palestinian Conflict (yn Saesneg). Viking. ISBN 978-0-670-06032-0.
  2. Ghil'ad Zuckermann (2020). Revivalistics: From the Genesis of Israeli to Language Reclamation in Australia and Beyon (yn Saesneg). Oxford University Press. t. 40.
  3. ביקורת ספרים מאת יפתח אשכנזי באתר יד ושם
  4. כרוז באתר הספרייה הלאומית
  5. מתוך ידיעות מסניפי "גדוד מגיני השפה", גדודנו, שבט תרפ"ה, עמ' 15.

Gweld hefyd[golygu | golygu cod]


Ar gyfer darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • How Yiddish became a ‘foreign language’ in Israel despite being spoken there since the 1400s – The Forward[1]
  1. Golden, Zach. "How Yiddish became a foreignlanguage in Israel despite being spoken there since the 1400s". Forward (yn Saesneg). Cyrchwyd 8 Ebrill 2024.