Wyn Lodwick
Wyn Lodwick | |
---|---|
Ganwyd | 1927 Llanelli |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cerddor |
Chwaraewr Jazz o Lanelli yw Wyn Lodwick (ganwyd 1927) sydd yn chwarae'r clarinet.
Ganwyd yn 38 Marble Hall Rd., Llanelli a mae'n byw yn Y Pwll ger Llanelli. Gwasanaethodd fel technegydd yn y Llynges Frenhinol. Yn 1950 cychwynodd glwb jazz yn Llanelli gan gynnal nosweithiau yng Ngwestai'r Dock, Melbourne, The White Hart a Stepney Hotel. Bu'n chwarae gyda'r Harlem Blues and Jazz Band dwy neu dair gwaith y flwyddyn. Cyfarfu nifer o enwogion y byd jazz yn ei yrfa, gan gynnwys Louis Armstrong. Bu'n ymddangos yn gyson yn Theatr Elli ac ymddangosodd ar nifer fawr o raglenni teledu a radio.[1]
Daeth Lodwick yn gyfarwyddwr Cymdeithas Jazz Cymreig a roedd yn rhan o sefydlu Gŵyl Jazz Cymru a Gŵyl Jazz Aberhonddu. Fe'i urddwyd i Orsedd y Beirdd gyda'r wisg Werdd yn Eisteddfod Sir Fynwy 2016.[2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Watch Llanelli jazz legend show why he has been recognised for an incredible career (en) , South Wales Evening Post, 23 Awst 2016. Cyrchwyd ar 17 Mawrth 2017.
- ↑ Eisteddfod Genedlaethol: 31 yn cael eu derbyn i’r Orsedd , Golwg360, 5 Mai 2016. Cyrchwyd ar 17 Mawrth 2017.