Hogiau'r Deulyn

Oddi ar Wicipedia
Hogiau'r Deulyn
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dod i'r brig1968 Edit this on Wikidata
Dod i ben1970 Edit this on Wikidata
GenrePop Cymraeg, Canu gwerin Edit this on Wikidata
Ysgol Baladeulyn, Nantlle a roddodd enw i'r band

Grŵp canu pop Cymraeg ysgafn ac harmonïau tynn o ddiwedd yr 1960au oedd Hogiau'r Deulyn. Roeddynt yn rhan o'r ymchwych mewn canu ysgafn poblogaidd Cymraeg a ganai caneuon gwerin, pop a chyfieithiadau o ganeuon Saesneg ar y pryd. Noder bod y grŵp yn sillafu'r gair 'hogiau' yn safonnol, nid yn dafodiaethol fel Hogia Llandegai a Hogia'r Wyddfa. Roedd iddynt bedwar aelod.[1]

Enw flaenorol ar bentref Nantlle yw Baladeulyn cyn i'r ddau lyn cael eu gwacáu adeg y diwydiant llechi.

Y Grŵp[golygu | golygu cod]

Ffurfiwyd y grŵp gan bedwar aelod o Seindorf Dyffryn Nantlle wedi cyngerdd yng Nghapel Baladeulyn lle gofynwyd iddynt ganu fel rhan o'r noson. Yr aelodau oedd:[1]

  • Walter H. Rodgers - plastrwr ac un o arweinwyr ifancaf y Seindorf
  • Richard Owen - clerc yn swyddfa Caernarfon o'r cwmni trydan cwmni MANWEB oedd hefyd yn aelod o'r Cyngor Dosbarth
  • Griffith Wyn Jones - peiriannydd o bentref Talysarn a ddatblygodd hwyl am ganu tra'n gwasanaethau gyda Fyddin yn yr Almaen. Andebir hefyd fel Guto.
  • Gwynne Williams - saer coed o Nantlle.

Disgograffi[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd o leiaf pedair record sengl gan y grŵp.[2]

Caneuon: Ochr A: I Ba beth mae'r Byd yn dod Ochr B: Y Milwr [1]
Caneuon: Ochr A: Nant y Mynydd, A2: Gwynfyd Coll. Ochr B: Dyffryn Nantlle; B2: Cymru fy Ngwlad.[1]
Caneuon: Ochr A: Wil Coes Pren; Ochr B: Am ein Dau
Caneuon: Rho i'm dy Serch; Aelwyd fy Mam.[1]

Dolenni allannol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 "Hogiau'r Deulyn". Broliant clawr Recordiau Cambrian. 1969. Cyrchwyd 8 Ebrill 2024.
  2. "Hogiau'r Deulyn". Discogs. Cyrchwyd 8 Ebrill 2024.
  3. "Wil Coes Bren a Rho i'm dy Serch". Wicipediad. Cyrchwyd 8 Ebrill 2024.
  4. "Wil Coes Bren a Rho i'm dy Serch". Wicipediad. Cyrchwyd 8 Ebrill 2024.
Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato