Niki Lauda

Oddi ar Wicipedia
Niki Lauda
GanwydAndreas Nikolaus Lauda Edit this on Wikidata
22 Chwefror 1949 Edit this on Wikidata
Fienna Edit this on Wikidata
Bu farw20 Mai 2019 Edit this on Wikidata
Zürich Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAwstria Edit this on Wikidata
Galwedigaethgyrrwr Fformiwla Un, hedfanwr, entrepreneur, cyfarwyddwr chwareon Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Lauda Air
  • Mercedes F1 Team Edit this on Wikidata
TadErnst-Peter Lauda Edit this on Wikidata
MamElisabeth Lauda Edit this on Wikidata
PriodMarlene Knaus, Birgit Wetzinger Edit this on Wikidata
PlantMathias Kid Lauda, Lukas Lauda, Christoph Lauda, Mia Lauda, Max Lauda Edit this on Wikidata
Gwobr/auAddurniad Aur Mawr Styria, BBC World Sport Star of the Year Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auMarch Engineering, British Racing Motors, Scuderia Ferrari, Brabham, McLaren Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonAwstria Edit this on Wikidata
Niki Lauda ym ymarfer ar y Nürburgring yn ystod Grand Prix yr Almaen, 1976.

Gŵr busnes a chyn-yrrwr rasio Fformiwla Un o Awstria oedd Andreas Nikolaus "Niki" Lauda (22 Chwefror 194920 Mai 2019). Enillodd bencampwriaeth y byd dair gwaith, yn 1975, 1977 a 1984.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ganed ef yn Fienna i deulu cefnog oedd yn hanu o Galicia. Daeth yn yrrwr Fformiwla 2 i dîm March yn 1971, ac yn yrrwr Fformiwla Un yn fuan wedyn. Ymunodd â thîm Ferrari yn 1974; enillodd ei ras Fformiwla Un gyntaf, Grand Prix Sbaen, yr un flwyddyn.

Yn ystod Grand Prix yr Almaen, 1976, cafodd ddamwain ddifrifol iawn. Aeth ei gar ar dân, a methodd Lauda ddod allan ohono. Llosgwyd ef mor ddifrifol nes i offeiriad roi'r sacrament olaf iddo, ond roedd yn rasio eto ymhen chwech wythnos. Enillodd ei fuddugoliaeth gyntaf ar ôl dychwelyd yn Grand Prix De Affrica 1977, y ras lle lladdwyd y Cymro Tom Pryce.

Wedi ymddeol fel gyrrwr, dechreuodd gwmni awyrennau Lauda Air.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]