Iau (duw)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Zews)
Neidio i: llywio, chwilio
"Jupiter et Thétis" gan Jean Ingres, 1811

Iau (Lladin: Iuppiter neu Iovis yn y modd genidol) oedd brenin y duwiau yn chwedloniaeth Rhufain. Rhoddodd ei enw i Iau, y blaned fwyaf yng nghysawd yr Haul ac enwyd diwrnod o'r wythnos ar ôl, Iovis dies, a ddaeth i'r Gymraeg fel Dydd Iau.

Roedd Iau yn briod i Juno ond yn anffyddlon ac yn cael nifer o berthnasau gyda duwiesau a merched meidrol. Ei blant gyda Juno oedd Juventas, Mawrth a Fwlcan.

Ymysg plant gordderch niferus Iau oedd Apollo a Diana gyda'r ffigur dirgel Latona; Mercher gyda Maia, merch Atlas; Bacchus, duw gwin, gyda Semele, merch Cadmus; Proserpina gyda'r dduwies Ceres; a'r arwr Ercwlff gyda'r ferch meidrol Alcmene.

Byddai Iau yn aml yn cymryd ffurf arall i guddio oddi wrth Juno neu ddod yn agosach at ei gariadon. Fe hudodd Iau Leda, Brenhines Sparta wedi'i guddwisgo fel alarch a chawsant yn blant yr efeilliaid Castor a Pollux. Cafodd berthynas ag Io, merch y duw Inachus, wedi'i guddwisgo fel cwmwl fel na byddai ei wraig yn ei ddatgelu, ond yn ofer.

Gwnaed Iau yn nawdd dduw ar yr Ymerodraeth Rhufeinig, gyda'r teitl Iuppiter Optimus Maximus (Iau y Goruchaf a'r mwyaf). Dyma oedd yr enw ar y deml mwyaf yn Rhufain.

Roedd yr eryr a'r taranfollt yn briodoleddau cyffredin gan Iau. Caiff ei bortreadu yn aml yn eistedd ar ei orsedd yn dal teyrnwialen.