Atlas (mytholeg)

Oddi ar Wicipedia
Atlas Farnese, copi Rhufeinig o gerflun Groegaidd (Napoli)

Ym mytholeg Roeg, roedd Atlas (Groeg: Ἄτλας) yn un o'r Titaniaid, yn fab i'r Titan Iapetus ac Asia neu Klyménē (Κλυμένη), un o'r Oceanides. Roedd yn frawd i Promethëws, Epimethëws a Menoetius.

Ochrodd ef a'i frawd Menoetius gyda'r Titaniaid yn eu rhyfel yn erbyn y Deuddeg Olympiad, y Titanomachia. Cosbwyd Atlas gan Zeus, a wnaeth iddo sefyll ar ochr orllewinol y ddaear, Gaia, yn dal Ouranos, yr awyr, i fyny.