Io (mytholeg)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Hermes, Io (yn rhith buwch) ac Argus. Ochr A amphora ffigwr-du Groegaidd, 540–530 CC, o'r Eidal. Staatliche Antikensammlungen, Munich.

Ym mytholeg Roeg, un o offeiriadesau y dduwies Hera (Juno) yn Argos yr ymserchodd Zeus ynddi oedd Io (Groeg: Iώ ; IPA [ˈiːo]). Ar ôl cael cyfathrach gyda hi, newidiodd Zeus y ferch yn fuwch er mwyn ceisio cuddio ei weithred.

Roedd Hera yn ddrwgdybio bwriadau ei ŵr Zeus, ac anfonodd Argus Panoptes i'w gwarchod, ond anfonodd Zeus Hermes (Mercher) i dynnu sylw Argus a'i ladd. Mae'r mwyafrif o'r fersiynau o'r chwedl yn dweud mai Inachus, duw afon y dywedir ei fod wedi cyflwyno cwlt Hera i ranbarth Argos, oedd tad Io.

Yn ei chenfigen, rhoddodd Hera y bai i gyd ar y ferch. Anfonodd y dduwies bla o bryfed i'w phoenydio. I geisio cael gwared ohonynt crwydrodd Io, yn rhith buwch o hyd, ar draws y byd nes cyrraedd yr Aifft. Yn ôl Herodotus, cafodd Io ei chipio gan forwyr Ffeniciaidd a'i dwyn ganddynt i'r Aifft. Cafodd Zeus hyd iddi ar lan Afon Nîl. Newidiodd Zeus hi yn ferch eto a rhoddodd hi enedigaeth i fab, Epaphus. Dywedir ei bod wedi priodi brenin yr Aifft neu Osiris: chwedl sy'n ceisio esbonio'r uniaethiad rhwng Io a'r dduwies Isis yn yr Hen Aifft.

Enwir y lloeren Io, un o loerennau'r blaned Iau, ar ôl yr Io chwedlonol.

Ffynhonnell[golygu]

  • Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902; sawl argraffiad ar ôl hynny).