Nodyn:Pigion/Wythnos 24

Oddi ar Wicipedia
Pigion
Arch Noa : paentiad gan Edward Hicks, 1789
Arch Noa : paentiad gan Edward Hicks, 1789

Yn ôl traddodiad beiblaidd, llong bren anferthol a adeiladwyd gan y patriarch Noa i achub ei deulu a holl rywogaethau'r byd rhag Y Dilyw oedd Arch Noa. Ceir ei hanes yn Llyfr Genesis yn yr Hen Destament, y Torah Iddewig a'r Coran.

Yn Genesis 6-9, mae Duw yn gorchymyn i Noa adeiladu arch i achub ef a'i dri mab, sef Sem, Ham a Jaffeth (tad Gomer) a'u gwragedd, a deuryw holl rywogaethau'r ddaear gyda nhw, rhag y Dilyw. Credir fod y chwedl o darddiad Babilonaidd.

Disgrifir yr arch fel ystordy enfawr a fedrai arnofio, er na ddywedir yn benodol ei bod ar ffurf llong. Yr oedd yn 300 cufydd (525 troedfedd) o hyd, 50 cufydd (87.5 troedfedd) o led, a 30 cufydd (52.5 troedfedd) o uchter. Ei defnydd oedd "pren goffer" (sydd a'i ystyr yn ansicr), wedi ei orchuddio oddi fewn ac oddi allan â phyg, yn ôl yr afer gyda llongau afon Ewffrates. Rhennid hi yn ystafelloedd (yn llythrennol, "nythod"), ac yr oedd iddi dri llawr, gyda ffenestri o dan y to ar bob ochr, a drws yn ei hystlys. mwy... 


Mwy o bigion · Newidiadau diweddar

Erthyglau dewis