Nodyn:Pigion/Wythnos 31

Oddi ar Wicipedia
Pigion
Y Brenin Arthur
Y Brenin Arthur

Cymeriad oedd Arthur neu'r Brenin Arthur sy'n ymddangos yn aml ym marddoniaeth a chwedlau Cymraeg yn y cyfnod cynnar, ac sydd hefyd yn ymddangos fel arweinydd y Brythoniaid yn ymladd yn erbyn y goresgynwyr Sacsonaidd. Cred rhai ysgolheigion fod yna Arthur go iawn wedi byw yn y cyfnod rhwng diwedd y bumed ganrif a dechrau'r chweched, tra cred eraill mai cymeriad mytholegol hollol ydyw.

Ceir cyfeiriad ar Arthur fel cymeriad hanesyddol yn yr Historia Brittonum o ran gyntaf y 9fed ganrif, a briodolir i Nennius. Ceir hefyd gyfeiriadau at Arthur mewn barddoniaeth a chwedlau Cymraeg cynnar, mewn cerddi megis Preiddiau Annwn o tua 900 ac yn arbennig yn chwedl Culhwch ac Olwen, a ddyddir i tua 1080 - 1100. Mae Sieffre o Fynwy yn sôn am Arthur a'r dewin Myrddin yn ei Historia Regum Britanniae (Hanes Brenhinoedd Prydain) ym 1136. O'r adeg yma ymlaen, daeth chwedlau am Arthur yn eithriadol o boblogaidd mewn llawer rhan o Ewrop.

mwy... 


Mwy o bigion · Newidiadau diweddar

Erthyglau dewis