Gwersyll yr Urdd Glan-llyn
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Glanllyn)
Canolfan breswyl aml weithgaredd yw Gwersyll yr Urdd Glan-llyn. Lleolir ar lan Llyn Tegid, rhwng y Bala a Llanuwchllyn ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Sefydlwyd yn 1950 fel canolfan awyr agored gan Urdd Gobaith Cymru, erbyn hyn mae llety yn cysgu hyd at 230 o wersyllwyr ac mae gweithgareddau cyffrous, adnoddau a chyfleusterau da yno. Cyhelir nifer o gysiau yn y gwersyll ar gyfer oedolion yn ogystal a phlant.
Fe aiff tua 12,000 o wersyllwyr yno'n flynyddol ac mae 40 o staff llawn amser yn gweithio yno. Y pennaeth llawn amser cyntaf oedd Owain Owain a apwyntiwyd yno yn 1967.