Rheilffordd Eryri

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
138 Mileniwm, Caernarfon 2004
143

Rheilffordd cledrau cul yn Eryri, Gwynedd yw Rheilffordd Eryri neu Reilffordd Ucheldir Cymru (Saesneg: Welsh Highland Railway). Lled y traciau yw 1'11 1/2". Ailagorwyd y lein yn raddol, gan ddechrau o Gaernarfon. Yn 2010 ailagorwyd y lein hyd at Bont Croesor, ac erbyn 2012 roedd wedi cyrraedd Porthmadog, ble ceir mae'n cysylltu gyda Rheilffordd Ffestiniog.

Hanes y Rheilffyrdd Gwreiddiol[golygu]

Rheilffordd Nantlle[golygu]

Agorwyd Rheilffordd Nantlle, sy'n rheilffordd cledrau cul (3 troedfedd a 6 modfedd), ym 1828, gan gysylltu chwareli Nantlle efo porthladd Caernarfon 8 milltir i ffwrdd. Troswyd y lein o Gaernarfon hyd at Ddinas yn rheilffordd led safonol yn ystod y 1860au gan Rheilffordd Sir Gaernarfon, i fod yn rhan o'u lein i Afon Wen.

Tramffordd Croesor[golygu]

Adeiladwyd Tramffordd Croesor ym 1864 efo cledrau lled 1 troedfedd a 11 ¾ modfedd iddo, i gario llechi o chwareli Croesor i Borthmadog.

Rheilffordd Cledrau Cul Gogledd Cymru[golygu]

Syniad Charles E. Spooner oedd y reilffordd hon. Ysgrifennydd a pheiriannydd Rheilffordd Ffestiniog ydoedd o hyd at 1887; roedd hefyd yn berchennog chwarel ym Mryngwyn. Ei syniad gwreiddiol oedd creu rhwydwaith o reilffyrdd yn cysylltu Betws y Coed, Pwllheli a Chorwen.[1]

Rhwng 1873 ac 1877, adeiladwyd lein 5 milltir o hyd o Fryngwyn – lle roedd chwarel Charles Spooner – a Dinas, cyffordd ar gyfer Caernarfon. Adeiladwyd lein o Gyffordd Tryfan i Ryd Ddu erbyn 1881.

Rheilffordd Porthmadog, Beddgelert a De Wyddfa[golygu]

Ffurfiwyd cwmni ym 1901 i adeiladu lein o Dramffordd Croesor trwy Feddgelert ac i Nant Gwynant. Awdurdodwyd adeiladu gorsaf bŵer yn Nant Gwynant gan ddefnyddio trenau trydanol. Cyfeiriwyd y geiriau 'De Wyddfa' i chwarel. Cwblhawyd yr orsaf bŵer, ac mae hi'n cynhyrchu trydan hyd heddiw.[2]

Dechreuodd waith ym Mwlch Aberglaslyn ym 1905. Archebwyd locomotif stêm Russell gan gwmni Hunslet, ond oherwydd diffyg arian, daeth popeth i ben.

Crëwyd Rheilffordd Eryri ym 1922, gan uno Rheilffordd Cledrau Cul Gogledd Cymru a Rheilffordd Porthmadog, Beddgelert a De Wyddfa, ac wedi derbyn benthyciadau gan Weinidogaeth Trafnidiaeth a gan awdurdodau lleol, cwblhawyd y rheilffordd ym 1923, gan gynnwys lein trwy Borthmadog yn cysylltu'r ddwy reilffordd. Erbyn hyn roedd gan y rheilffordd locomotif Fairlie sengl Moel Tryfan, a phrynwyd injan Baldwin oddi wrth yr Adran Rhyfel. Ni enillodd y rheilffordd erioed ddigon i dalu'r llog ar ei benthyciadau.

Dirywio[golygu]

Ar ôl gaeaf 1923/4, daeth y gwasanaeth i deithwyr yn un tymhorol. Penodwyd Cyrnol Stephens – arbenigwr am redeg rheilffyrdd yn gynnil - yn brif beiriannydd ym 1923, ac yn cyfarwyddwr ym 1925. Ond roedd y diwydiant llechu'n dirywio, a bysiau a loriau'n dod yn fwy gyffredin, ac aeth y rheilffordd i law y derbynnydd ym 1927. Penodwyd Cyrnel Stephens yn dderbynnydd.[3]

Ond goroesodd y rheilffordd, ac ym 1934 cymerodd y Rheilffordd Ffestiniog brydles 42 mlynedd i weithredu'r lein. Ond doedd yno ddim digon o draffig; Gorffennodd y wasanaeth i deithwyr ar 5 Medi 1936, a caewyd y lein yn gyfan gwbl o 1 Mehefin 1937. Erbyn 1948, roedd y cledrau wedi mynd.

Caewyd y lein faint safonol rhwng Dinas a Chaernarfon ym 1964, a daeth yn llwybr beicio.

87 yng Nghaernarfon

Ailagor[golygu]

Ffurfiwyd cymdeithas a ddaeth yn Gymni Cyfyngedig y Rheilffordd Ysgafn Ucheldir Cymru (1964) . Sefydlwyd terminws ar safle hen gilffordd faint safonol ym Mhorthmadog, ac adeiladwyd lein fer hyd at Ben-y Mount. Rhedodd trenau o 1980 ymlaen. Dechreuwyd trafodaeth pellach efo'r derbynnydd swyddogol ac efo awdurdodau lleol, ond cymhlethwyd ymdrechion gan gynlluniau ffordd arfaethedig.

Erbyn 1982 roedd y Rheilffordd Ffestiniog wedi cwblhau eu lein i Flaenau Ffestiniog ac ym 1989, darganfuwyd bod nhw wedi gwneud cynnig cyfrinachol am lwybr y Rheilffordd Eryri. Eu cynllun oedd dechrau adeiladu o Gaernarfon i Borthmadog, ac yn creu siwrnai 40 milltir o hyd. Ffurfiwyd cwmni ym 1993.

Ar ôl sawl blwyddyn o ddadlau, gwrandawiad yn yr Uchel-lys thri ymchwiliad cyhoeddus ac un apêl, enillodd y Rheilffordd Ffestiniog eu hachos.

Dechreuodd y gwaith adeiladu ym 1997, ac agorwyd y lein rhwng Caernarfon a Dinas ar 13 Hydref yr un flwyddyn. Daeth 3 locomotif NG/G16 2-6-2+2-6-2 Beyer Garratt o De Affrica. Prynwyd n arall o'r un dosbarth gan Pete Waterman; atgyweirir yr injan yn ei weithdy yng Nghryw.

Daeth cyllid o sawl ffynhonnell at gost yr estyniad nesaf, hyd at Ryd Ddu, gan gynnwys £4.3 miliwn o Gomisiwn y Mileniwm. Agorwyd y lein o Ddinas i Waunfawr yn Awst 2000, ac o Waunfawr i Ryd Ddu ar 18 Awst 2003.

Cytunwyd y buasai'r Cymni Cyfyngedig y Rheilffordd Ysgafn Ucheldir Cymru (1964) – erbyn hyn Cwmni Cyfyngedig y Rheilffordd Ucheldir Cymru – yn ail-adeiladu'r lein o Ben-y-Mount i Bont Croesor. Achoswyd problemau yr adeg honno gan glefyd troed a genau, ond erbyn 2008, dechreuodd gwasanaeth o Borthmadog i Draeth Mawr.

Ym Medi 2004, cyhoeddwyd gan y Rheilffordd Ffestiniog bod cyfanswm o £5 miliwn wedi cael ei awdurdodi gan y Cynulliad ac yr Undeb Ewropeaidd.

Cyflawnwyd gorsaf Rhyd Ddu yn 2006. Estynwyd y lein i Feddgelert ac wedyn i Hafod y Llyn yn 2009, i Bont Croesor yn 2010, ac yn 2012 agorwyd y darn olaf, ar draws Bont Britannia i orsaf Borthmadog.

Locomotifau gwreiddiol[golygu]

Daeth dau locomotif o'r cymnïau cynharach, Moel Tryfan a Russell. Prynwyd Baldwin 590 gan Gyrnol Stephens, a defnyddiwyd sawl injan y Rheilffordd Ffestiniog rhwng 1923 a 1937.[3]

Enw neu rif Trefn yr olwynion Adeiladwr Adeiladwyd Nodiadau
Moel Tryfan 0-6-4T Vulcan Foundry 1875 cynt o Reilffordd Cledrau Cul Gogledd Cymru
Russell 2-6-2T Cwmni Hunslet 1906 cynt o Reilffordd Porthmadog, Beddgelert a De Wyddfa
590 4-6-0T Cwmni Baldwin 1917 cynt o Reilffyrdd Ysgafn yr Adran Ryfela

Locomotifau presennol (Stêm)[golygu]

Rhif Enw Trefn yr olwynion Adeiladwyd Adeiladwr Delwedd Nodiadau
K1 0-4-0+0-4-0 1909 Beyer-Peacock K1 Garratt at Caernarfon.jpg Ex-Rheilffyrdd Llywodraeth Tasmania Dosbarth K, y locomotif Garratt cyntaf. Atgyweiriwyd a dechreuodd ei waith yn ystod 2006. Cyfnewidiwyd i ddefnyddio glo, ac yn gweithio eto.
87 2-6-2+2-6-2 1937 Cockerill WHR NG 87 at Waunfawr.jpg Cynt o Reilffyrdd De Affrica NGG Dosbarth 16 Garratt. Treuliodd mwyafrif ei amser yn gweithio ar reilffyrdd dwy droedfedd o led yn Ne Affrica cyn iddo gael ei ddisodlu gan locomotifau diesel. Mewnforiwyd i Brydain gan Ganolfan Stêm Exmoor, a phrynwyd ohonynt. Atgyweiriwyd yng Ngweithdy Boston Lodge. Mae'n llosgi glo. Cafodd lifrai llwyd yn wreiddiol, ond ail-beintiwyd yng nglas tywyll ym Mawrth 2010.
109 2-6-2+2-6-2 1939 Beyer-Peacock Cynt o Reilffyrdd De Affrica.NGG Dosbarth 16 Garratt. Prynwyd yn 2009 o Reilffordd Stêm Exmoor gan Pete Waterman er mwyn ei ddefnyddio ar Reilffordd Eryri. atgyweirir yr injan yn ei weithdy yng Nghryw gan brentisiaid fel rhan eu hyfforddiant. Dylai'r injan dechrau gweithio yn 2012..[4]
133 2-8-2 1953 Société Anglo-Franco-Belge WHR -133 Dinas.JPG Dosbarth NG15, cynt o Reilffyrdd De Affrica, ac angen ei atgyweirio.
134 2-8-2 1953 Société Anglo-Franco-Belge Dosbarth NG15, cynt o Reilffyrdd De Affrica, Atgyweirir yn Ninas ar hyn o bryd.
138 Millennium/ Mileniwm 2-6-2+2-6-2 1958 Beyer-Peacock Garratt NGG16 No. 138 at Pont Creosor.jpg Cynt o Reilffyrdd De Affrica.NGG Dosbarth 16 Garratt, efo lifrai coch. Dechreuodd ei waith ym 1997efo lifrai gwyrdd tywyll, wedyn yng ngwyrdd malachite o 2002 ymlaen, pan gafodd ei enwi. Cafodd waith atgyweirio ac arolwg boeler rhwng 2007 a 2010, pan ddychwelodd mewn lifrai crimson lake.
140 2-6-2+2-6-2 1958 Beyer-Peacock Cynt o Reilffyrdd De Affrica.NGG Dosbarth 16 Garratt, efo lifrai coch. Mae gwaith atgyweirio'n mynd ymlaen yn Ninas, a gwaith ar ei foeler yng Nhryw yng ngweithdy Peter Waterman, er mwyn defnyddio'r boeler ar 143. Gwelir 140 yn brosiect hir tymor.
143 2-6-2+2-6-2 1958 Beyer-Peacock WHR NG143 at Porthmadog.jpg Cynt o Reilffyrdd De Affrica.NGG Dosbarth 16 Garratt, efo lifrai gwyrdd. Y locomotif olaf a adeiladu gan Gymni Beyer, Peacock ym Manceinion. Dechreuodd efo lifrai du plaen yn 1998. Atgyweirir ar gyfer ail-ardystio'r boeler rhwng 2009 a 2011, pan dychwelodd efo lifrai gwyrdd.

Locomotifau presennol (Diesel)[golygu]

Rhif Enw Trefn yr olwynion Adeiladwyd Adeiladwr Delwedd Nodiadau
Castell Caernarfon B-B 1967 CH Funkey a Chwmni (Pty) Cyf WHR Castell Caernarfon.JPG Adeiladwyd y locomotif diesel hydrolig hwn i weithio yng ngwaith diemwnt a defnyddiwyd pellach ar gyfer trafnidiaeth sment ym Mhort Elizabeth. Mewnforiwyd Castell Caernarfon a Vale of Ffestiniog gan y Rheilffordd Ffestiniog, ac ailadeiladwyd Vale of Ffestiniog ar gyfer gwaith a'r Reilffordd honno. Aeth Castell Caernarfon i Ddinas yn Ionawr 1997.
Upnor Castle 4 olwyn 1954 F.C. Hibberd Upnorcastleconst.JPG Adeiladwyd Upnor Castle ar gyfer y Rheilffordd Chattenden ac Upnor. Gwerthwyd i Rheilffordd Y Trallwng a Llanfair ym 1962 ac i'r Rheilffordd Ffestiniog ym 1968 ac addaswyd i gledrau 2 droedfedd. Symudwyd i Ddinas, yn Awst 1997ar gyfer gweith ailadeiladu.
Castell Conwy/

Conway Castle

4 olwyn 1958 F.C. Hibberd Conwaycastledinas.jpg Adeiladwyd yr injan hwn ar gyfer Stordy Arfau y Llynges Ernesettle, Plymouth. Prynwyd gan y Rheilffordd Ffestiniog ym 1981 ac addaswyd i gledrau 2 droedfedd. Cafodd corff newydd ac atgyweiriwyd yng Ngweithdy Boston Lodge ym 1986 a defnyddiwyd yn aml ar drenau pull and push'.' Cafodd beiriant newydd yn Hydref 1999. Trosglwyddwyd i Ddinas yn Ebrill 2000.
Castell Cidwm, yn wreiddiol Rhif 9 0-6-0 1953 Baguley Prynwyd yn 2009 ar gyfer trenau gwaith. Mae ganddo beiriant diesel Gardner.

Adeiladwyd i'r Cwmni Drewry Car ar gyfer Underhill Day a Chwmni Pty Ltd, a gweithiodd i'r South Johnstone Co-operative Sugar Milling Association Ltd yn Queensland, Awstralia. Cafwyd y rhif 9 a chludodd gansenni siwgr cane wagonsyn Innisfail, yng ngogledd Queensland.

Prynwyd y locomotif gan aelod yr [Rheilffordd Lynton a Barnstaple|Ymddiriodolaeth Lynton a Barnstaple] yn 2004, a gadawodd yr injan Awstralia yn 2005. Credwyd bod cadwyd yr injan yn [Essex] ac wedyn yng [Gwlad yr Haf|Ngwlad yr Haf] cyn iddo symud i Reilffordd Stêm Exmoor. Mae angen atgyweirio ac addasu i gledrau 2 droedfedd..[5]

Bill, Hunslet 9248 0-4-0 1985 Hunslet Cyrhaeddodd y rheilffordd 18 Chwefror 2010. Cynt ar reilffordd 2 troedfedd 6 modfedd yng Ngwaith Corus yn Shotton efo peiriant 115 hp diesel hydrolig Ford. Bydd yn siwntwr trwm yng ngweithdai Boston Lodge a Dinas.
Ben, Hunslet 9262 0-4-0 1985 Hunslet Cyrhaeddodd y rheilffordd 18 Chwefror 2010. Yn debyg iawn i Bill.
Dolgarrog 0-4-0 1962 Simplex Locomotif bach ar fenthyg o Innogy a ddefnyddiwyd ar drenau gwaith, yn arbennig yn ystod gwaith adeiladu rhwng Rhyd Ddu a Phorthmadog.

Locomotifau'r Rheilffordd Ffestiniog a ddefnyddiwyd ar Reilffordd Eryri[golygu]

Mae'r rhai ddilynol wedi gweithio ar Reilffordd Eryri; rhai yn reolaidd cyn oedd yn ddigon o locomotifau'r Rheilffordd Eryri i gynnal gwasanaeth ddigonol, rhai yn ystod y proses o adeiladu'r lein. Ers cwblhad y lein rhwng y ddwy reilffordd, mae ymweliadau'n digwydd yn aml.

Taliesin yn agosau Pont Britannia
  • Harold.[6]
  • The Colonel[6]
  • Upnor Castle – defnyddiwyd yn ystod adeiladaeth y lein.[6]
  • Mountaineer - defnyddiwyd ym 1997 a 2000-1.
  • Palmerston – ymwelodd yn 2010 ar daith ffotograffig.
  • Blanche – defnyddiwyd ym 1999
  • Conway Castle / Castell Conwy – Defnyddir ar waith adeiladu, fel siwntwr yn Ninas ac fel injan sbâr ar drenau teithwyr.
  • Prince
  • Taliesin (Locomotif Fairlie sengl) - ymwelodd yn 2009 ar daith ffotograffig, ac ar trenau o Borthmadog cyn ddechreuad y gwasanaeth llawn.
  • Lilla
  • Linda
  • Vale of Ffestiniog
  • Merddin Emrys (Locomotif Fairlie dwbl) - ymwelodd yn 2009 ar daith ffotograffig.
  • Lyd (Rheilffordd Lynton a Barnstaple) Manning Wardle 2-6-2T copi – ymwelodd yn 2010
  • Earl of Merioneth
  • David Lloyd George
  • Britomart
  • Moelwyn

Cerbydau[golygu]

Ffynhonnell gwreiddiol ar gyfer cerbydau oedd: "Rheilffordd Eryri - Welsh Highland Railway Traveller's Guide" cyhoeddwyd gan Reilffordd Ffestiniog yn 2002. Diweddarwyd yn Nhachwedd 2012[7]

Rhif Adeiladwyd Adeiladwr Math Seddi Delwedd Nodiadau
23 1894 Cwmni Ashbury 7 adran 42 WHR coach 23.jpg Adeiladwyd i'r Rheilffordd Cledrau Cul Gogledd Cymru a ddaeth yn eiddo Rheilffordd Eryri ym 1923 a lleihawyd ei uwchder ar gyfer Rheilffordd Ffestiniog. Daeth yn eiddo'r Rheilffordd Ffestiniog (cyfnewidiwyd am dair wagen) ym 1926. Cyn cyfnewid, cafodd y rhif 24. Ailddechreuodd gwaith i'r Rheilffordd Ffestiniog ym 1955 a chafodd ddrysau llawn ym 1966. Atgyweiriwyd yn 2002 a dychwelodd i Reilffordd Eryri.
24 2002 Gweithdy Boston Lodge 7 adran 42 Copi o Gerbyd Haf 1894 "Ashbury" o'r Rheilffordd Cledrau Cul Gogledd Cymru
116 1972 Edmund Crow a Boston Lodge. 3 salŵn amgenach 36 FR Carriage116.jpg Cyrhaeddodd tymor 2011.
122 2001 Gweithdy Boston Lodge 3 salŵn 36 FR Carriage122.jpg Cyrhaeddodd tymor 2011.
1001 1957 D. Wickham a Chwmni Cyf. Cerbyd gwaith/Men fracio Gynt o Reilffordd Chattenden ac Upnor. Prynwyd o Reilfordd South Tynedale a newid o 2 droedfedd 6 modfedd. .
2010 2007/8 Gweithdy Boston Lodge Cegin/toiled/gard 0 2010port.jpg Tebyg i 124 ar Reilffordd Ffestiniog Railway. Aeth i Ddinas yn 2008.
2011 1997/2011 Winson Engineering/Gweithdy Boston Lodge Cegin/toiled/gard 0 Tebyg i 2010. Y cerbyd cyntaf ag adeiladwyd i'r gwasanaeth o Gaernarfon. Cyrhaeddodd Boston Lodge ar gyfer profion ar Reilffordd Ffestiniog a throsglwyddwyd i Ddinas ym Medi 1997 fel salŵn hanner-agored 2020. Newidiwyd i'w ffurf presennol oherwydd angen un arall tebyg i 2010.
2021 2002 Alan Keef Salŵn hanner-agored 36
2022 2002 Alan Keef Salŵn hanner-agored 36
2040 1997 Winson Engineering Salŵn 36 Cerbyd clustogog, gwresogwyd a ffenestri dwbl. Cyrhaeddodd Ddinas ar gyfer dechreuad y gwasanaeth o Gaernarfon.
2041 1997 Winson Engineering Salŵn 36 Cerbyd clustogog, gwresogwyd a ffenestri dwbl. Cyrhaeddodd Ddinas ar gyfer dechreuad y gwasanaeth o Gaernarfon.
2042 1997 Winson Engineering Salŵn 36 Cerbyd clustogog, gwresogwyd a ffenestri dwbl. Cyrhaeddodd Ddinas ar gyfer dechreuad y gwasanaeth o Gaernarfon.
2043 2007 Gweithdy Boston Lodge Salŵn 36 Datblygiad o gerbydau 1997 Winson Engineering, yn gynnwyd drysau lletach ar gyfer teithwyr anabl.
2044 2007 Gweithdy Boston Lodge Salŵn 36 Datblygiad o gerbydau 1997 Winson Engineering, yn gynnwyd drysau lletach ar gyfer teithwyr anabl.
2045 2007 Gweithdy Boston Lodge Salŵn 36 2045 at Waunfawr.jpg Datblygiad o gerbydau 1997 Winson Engineering, yn gynnwyd drysau lletach ar gyfer teithwyr anabl.
2060 2007/2008 (Ailadeiladwyd) Cwmni o Rwmania a gweithdy Boston Lodge Salŵn Cyflenwyd, yn llawn allanol efo bogiau dwy droedfedd, i weithdy Boston Lodge, lle cyflawnwyd yn mewnol yn salŵn trydydd dosbardd.
2090 1997 Winson Engineering Gard/ Salŵn 22 Cerbyd clustogog, gwresogwyd a ffenestri dwbl efo drysau dwbl ar gyfer cadeiriau olwyn. Noddwyd gan First Hydro a chyflenwyd i Ddinas ym Medi 1997 ar gyfer dechreuad y gwasanaeth o Gaernarfon.
2100 2008/2009 Gweithdy Boston Lodge. Salŵn Gwylio 'Pullman' WHR Observation car.jpg
2115 1998 Winson Engineering Salŵn 'Pullman' 20 Bodysgallen south of Rhyd Ddu.jpg Gwresogwyd ac efo ffenestri dwbl, a chadeiriau breichiau o ddull 'Pullman'. Peintiwyd yn lyfrai Cwmni 'Pullman'. Noddwyd yn wreiddiol gan Historic Houses Hotels Cyf, perchnogion Neuadd Bodysgallen, ac felly enwyd y cerbyd "Bodysgallen".

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Boyd, James I.C. (1988). Narrow Gauge Railways in South Caernarvonshire - Volume 1. Headington, Rhydychen: Oakwood Press. ISBN 0-8536-1365-6. OCLC 20417464
  • Boyd, James I.C. (1989). Narrow Gauge Railways in South Caernarvonshire - Volume 2: The Welsh Highland Railway. Headington, Rhydychen: Oakwood Press. ISBN 0-8536-1383-4. OCLC 145018679.
  • Lee, Charles Edward (1974). The Welsh Highland Railway. David & Charles / WHRS. OCLC 59016828.
  • Lee, Charles Edward. More about The Welsh Highland Railway. David & Charles / WHRS. OCLC 12152941.
  • Carter, Ian (2008). British Railway Enthusiasm. Manceinion: Manchester University Press. ISBN 978-0-7190-6566-8
  • Hopkins, John C. (2003). Rheilffordd Eryri/The Welsh Highland Railway: 1991 to 2003, 4th edition 388pp. 
  • Johnson, Peter (2002). An Illustrated History of the Welsh Highland Railway. Hersham: Oxford Publishing Co. ISBN 9780860935650. OCLC 59498388
  • Johnson, Peter (1999). Portrait of the Welsh Highland Railway. 
  • Turner, Alun (2003). The Welsh Highland Railway: a History, 4th edition. ISBN 1-84033-263-8. 
  • Stretton, John. (2004). The Welsh Highland Railway (Volume 2) Halfway to Paradise. Kettering: Past & Present Publishing. ISBN 1-85895-233-6. OCLC 56455575.
  • Stretton, John. (2007). The Welsh Highland Railway (Volume 1) A Phoenix Rising. Kettering: Past & Present Publishing. ISBN 1-85895-142-9. OCLC 59423604.
  • Stretton, John (2009). The Welsh Highland Railway (Volume 3) Ain't no stoppin' us now!. Great Addington, Kettering: Past & Present Publishing. ISBN 9781858952958. OCLC 301882201.
  • Jones, Gwynfor Pierce; Alun John Richards. Cwm Gwyrfai : the quarries of the North Wales Narrow Gauge and the Welsh Highland Railways. Llanrwst, Gogledd Cymru: Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 0863818978. OCLC 56965267.

Cyfeiriadau[golygu]

Dolenni Allannol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:

Gweler hefyd[golygu]

Rheilffordd Eryri
uKBHFa
Caernarfon
uHST
Bontnewydd
uBHF
Dinas
uexdENDEaq uexABZ+lr uexdENDEeq uSTR BSicon .svg BSicon .svg
Chwareli llechi Braich / Moel Tryfan
uexdENDEaq uexABZg+lr uexdENDEeq uSTR BSicon .svg BSicon .svg
Chwareli llechi Alexandra (Crown) / Fron
uexHST d uSTR d BSicon .svg
Bryngwyn
uexHST d uSTR d BSicon .svg
Rhostryfan
uexSTR d ueHST d BSicon .svg
Cyffordd Tryfan (gorsaf adfeiliedig)
uexSTRlf uexdSTRq ueABZrf d BSicon .svg
Cangen Bryngwyn
uBHF
Waunfawr
ueHST
Betws Garmon
ueHST
Arosfa Salem
uHST
Plas-y-Nant
uHST
Snowdon Ranger
ueHST
Glanyrafon
uBHF
Rhyd Ddu
uGIPl
Pen Pitt man uchaf
ueHST
Arosfa Hafod Ruffydd
uHST
Coedwig Meillionen
uBHF
Beddgelert
uTUNNEL1
Twnel yr Afr (T1)
uWBRÜCKE
Afon Glaslyn
uTUNNEL1
Twnel Aberglaslyn (T2)
uTUNNEL1
Twnel Aberglaslyn (T3)
uTUNNEL1
Y Twnel Hir (T4)
ueHST
Nantmor
uHST
Hafod y Llyn
Terfyn y lein bresennol o Gaernarfon
ueHST
Arosfa Hafod Garregog
BSicon .svg ueABZrg uexCONTfq
Tramffordd Croesor
uWBRÜCKE
Afon Glaslyn
ueHST
Arosfa Ynysfor
ueHST
Pont Croesor
uSTR
Cylch Traeth Mawr
uv-SHI3+l
BSicon .svg
Dechrau dolen Porthmadog
uBHF udSTR BSicon .svg
Pen-y-Mownt
uHST udSTR BSicon .svg
Fferm Gelert
udSTR ueBHF d
Gorsaf Newydd Porthmadog (1933)
uSTRrf udSTR cd BSicon .svg
Porthmadog
dCONTgq BHFq dSTRq umKRZ STRq CONTfq
Porthmadog Rheilffordd Arfordir Cymru
ueHST
Gorsaf Newydd Porthmadog (1923)
uSTR
Adran Stryd y Wylfa
uSTR
uWBRÜCKE
Adran Pont Britannia
uCPICla ueCPICr BSicon .svg
Harbwr Porthmadog
uKRWl
BSicon .svg
Diwedd dolen Porthmadog, cyffordd gyda Rheilffordd Ffestiniog
uDSTRag
Y Cob
uDSTRef
BSicon .svg BSicon .svg uABZlf uSTRq uCONTfq
Rheilffordd Ffestiniog
uKDSTe
Gweithdy Boston Lodge