Eiffteg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Eiffteg oedd yr iaith siaredig yn yr Hen Aifft. Roedd yn iaith Afro-Asiatig, yn perthyn i'r ieithoedd Berber a'r ieithoedd Semitaidd. Ceir cofnodion ysgrifenedig mewn Eiffteg yn dyddio o tua 3200 CC, un o'r cofnodion hynaf mewn unrhyw iaith.

Parhaodd yr iaith hyd y 5ed ganrif OC fel Eiffteg Demotig, ac hyd ddiwedd y 17eg ganrif fel Copteg. Erbyn hyn. Arabeg yw iaith genedlaethol yr Aifft, ond defnyddir Copteg yn litwrgi yr Eglwys Goptig, ac efallai fod dyrnaid o siaradwyr iaith gyntaf yn parhau.

Globe of letters.svg Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.