Sadwrn (planed)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Sadwrn
Sadwrn
Symbol
Nodweddion orbitol
Pellter cymedrig i'r Haul 9.539 US
Radiws cymedrig 1,426,725,400km
Echreiddiad 0.05415060
Parhad orbitol 378.1d
Buanedd cymedrig orbitol 9.6724 km s-1
Gogwydd orbitol 2.48446°
Nifer o loerennau 31
Nodweddion materol
Diamedr cyhydeddol 120,536 km
Arwynebedd 4.32×1010km2
Más 5.688×1026 kg
Dwysedd cymedrig 0.69 g cm-3
Disgyrchiant ar yr arwyneb 8.96 m s-2
Parhad cylchdro 10a 13m 59e ar yr arwyneb

10a 39m 25e mewnol

Gogwydd echel 26.73°
Albedo 0.47
Buanedd dihangfa 35.49 km s-1
Tymheredd ar yr arwyneb:
isafrif cymedrig uchafrif
82K 143K ...
Nodweddion atmosfferig
Gwasgedd atmosfferig 140kPa
Hydrogen >93%
Heliwm >5%
Llosgnwy 0.2%
Anwedd dŵr 0.1%
Amonia 0.01%
Ethan 0.0005%
Ffosffin 0.0001%

Sadwrn yw planed ail fwyaf Cysawd yr Haul. Mae'n blaned o nwy yn hytrach nag o graig. Sadwrn yw'r chweched blaned oddi wrth yr Haul.

Enwyd y blaned ar ôl Sadwrn, duw amaeth ym mytholeg Rhufeinig. Roedd y duw groegaidd cysylltiedig, Cronos, yn fab i Wranws a Gaia ac yn dad i Zews (Iau) a Poseidon (Neifion). Mae'r duw hwn hefyd yn gysylltiedig ag amser a henaint. Gwybuwyd am Sadwrn ers amserau cynhanesyddol. Galileo oedd y cyntaf i edrych arni gyda thelesgop ym 1610. Cafodd arsylwadau cynnar eu cymhlethu gan y ffaith bod y Ddaear weithiau yn pasio trwy blaenau modrwyau Sadwrn wrth i Sadwrn droi yn ei chylchdro. Cafodd geometreg modrwyau Sadwrn ei hegluro gan Christian Huygens ym 1659. Sadwrn oedd y blaned gyntaf i gael ei hymweld gan Pioneer 11 ym 1979 ac wedyn gan Voyager 1 a Voyager 2. Cyrhaeddodd Cassini (prosiect ar y cyd gan NASA ac ESA) ar y cyntaf o Fehefin, 2004. Bydd Cassini yn cylchio Sadwrn am o leiaf bedair blynedd. Ymddengys Sadwrn fel petai hi wedi ei gwastatu os edrychir arni trwy delesgop; mae ei thryfesurau cyhydeddol a phegynol yn amrywio bron yn 10% (120,535 km vs. 108,728 km). Mae hynny oherwydd ei bod yn troi mor gyflym ac oherwydd ei chyflwr hylifol. Mae'r cewri nwy eraill hefyd yn fflat wrth y pegynau ond nid cymaint â Sadwrn.

Mae Sadwrn yn llai ei chynhwysedd na'r planedau eraill; mae ei dwyster penodol (0.7) yn llai na dwyster dŵr.

Modrwyau Sadwrn mewn golau uwch fioled.

Fel Iau, mae Sadwrn tua 75% hydrogen a 25% heliwm gydag olion dŵr, methan, ammonia a "craig", yn debyg i gyfansoddiad y Nifwl yr Haul cysefin a ffurfiodd Cysawd yr Haul.

Mae tu mewn Sadwrn yn debyg i Iau, gyda chalon greigiog, haen o hydrogen metelaidd hylifol a haen hydrogen molecwlaidd. Mae olion iâ hefyd yn bresennol.

Mae tu mewn Sadwrn yn boeth (12000 K yn y galon) ac mae Sadwrn yn tywynnu mwy o ynni na mae hi'n derbyn oddi wrth yr Haul. Cynhyrchir yr ynni ychwanegol gan y mecanwaith Kelvin-Helmholtz (sef gwasgedd dwyster) fel ar Iau. Ond nid ydy hynny'n esbonio disgleirdeb Sadwrn, sydd efallai'n cael ei greu gan heliwm sydd yn cael ei fwrw allan rhywle tu mewn i'r blaned. Mae'r bandiau a welir ar Iau yn llai amlwg ar Sadwrn. Maen nhw hefyd yn fwy llydan wrth gyhydedd y blaned. Mae manylion y cymylau'n anweledig oddi ar y Ddaear, felly ni ellid astudio cylchrediad atmosfferig Sadwrn nes i Voyager gyrraedd y blaned. Mae Sadwrn hefyd yn dangos stormydd hirgrwn mawr o hir oes a nodweddion eraill a welir ar Iau. Gellir gweld dwy fodrwy amlwg (A a B) ac un sy'n llai amlwg (C) oddi wrth y Ddaear. Gelwir y bwlch rhwng A a B y gwahaniad Cassini. Gelwir y bwlch llai amlwg ar ran allanol y fodrwy A y gwahaniad Encke (er nad oedd Encke ei hun yn debyg o fod wedi ei weld). Dangosodd lluniau Voyager bedair modrwy ychwanegol. Mae modrwyau Sadwrn, yn wahanol i fodrwyau planedau eraill, yn ddisglair iawn (albedo 0.2 - 0.6).

Er eu bod yn ymddangos yn barhaol oddi wrth y Ddaear, mewn gwirionedd mae'r modrwyau wedi eu cyfansoddi o ronynnau bach di-rif, pob un ohonynt mewn cylchdro annibynnol. Mae eu maint yn amrywio o gentimetr i sawl metr o hyd. Mae rhai gwrthrychau sydd yn gilomedr o hyd hefyd yn debyg.

Mae modrwyau Sadwrn yn hynod o denau: er bod eu tryfesur dros 250,000 km mae eu lled yn llai nag un cilomedr. Serch eu hymddangosiad trawiadol nid oes llawer o ddefnydd o fewn y modrwyau mewn gwirionedd: petai'r modrwyau'n cael eu gwagu i ffurfio un corff ni fyddai eu tryfesur ond 100 km.

Ymddengys y gronynnau i fod wedi eu cyfansoddi'n bennaf o iâ dŵr, ond gellir hefyd cynnwys gronynnau creigiog wedi eu gorchuddio gan iâ.

Mae modrwy fwyaf allanol Sadwrn (F) yn strwythur gymhleth wedi ei chyfansoddi o sawl modrwy lai gyda "clyma" gweladwy. Credir bod y clymau'n glampiau defnydd neu loerennau bitw.

Mae yna soniaredd trai a llanw rhwng rhai o loerennau Sadwrn a'r modrwyau: mae rhai ohonynt, y lloerennau bugeiliol (fel Atlas, Promothews a Phandora) yn bwysig mewn cadw,r modrwyau yn eu lle; ymddengys Mimas i fod yn gyfrifol am ddrudaniaeth defnydd o fewn y gwahaniad Cassini, sydd yn debyg i fylchau Kirkwood y gwregys asteroid.

Ni wyddys gwreiddiau modrwyau Sadwrn a'r cewri nwy eraill. Gallai'r modrwyau wedi bodoli ers i'r planedau gael eu ffurfio ond nid ydynt yn sefydlog ac maen nhw'n cael eu hadnewyddu gan brosesau sy'n mynd ymlaen, efallai gan loerennau sydd wedi cael eu rhwygo. Gallai oedran y modrwyau cyfredol bod dim ond rhai cannoedd o filiynau o flynyddoedd.

Fel y cewri nwy eraill, mae gan Sadwrn faes magnedol sylweddol.


Planedau yng Nghysawd yr Haul
Mercher
Gwener
Y Ddaear
Mawrth
Iau
Sadwrn
Wranws
Neifion