Affganistan

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Afghanistan)
Affganistan
Mathgwladwriaeth sofran, gwlad dirgaeedig, gwlad Edit this on Wikidata
PrifddinasKabul Edit this on Wikidata
Poblogaeth37,466,414 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd1709
AnthemThis Is the Home of the Brave Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAbdul Kabir Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+04:30, Asia/Kabul Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Pashto, Dari, Balochi, Nuristani, ieithoedd Pamir, Pashayi, Wsbeceg, Arabeg, Turkmen Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Affganistan Affganistan
Arwynebedd652,230 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaPacistan, Iran, Tyrcmenistan, Wsbecistan, Tajicistan, Gweriniaeth Pobl Tsieina Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau33°N 66°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Affganistan Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCynulliad Cenedlaethol Affganistan Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Amir al-Mu'minin Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethHibatullah Akhundzada Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Affganistan Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAbdul Kabir Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$14,583 million Edit this on Wikidata
Arianafghani Edit this on Wikidata
Canran y diwaith9 %, 8.5 % Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant4.843 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.478 Edit this on Wikidata
Map Affganistan

Gwlad dirgaeedig yng Nghanolbarth Asia yw Gweriniaeth Islamaidd Affganistan neu Affganistan (hefyd Affganistán). Mae'r wlad yn ffinio ag Iran, Pacistan, Tyrcmenistan, Wsbecistan, Tajicistan a gorllewin eithaf Tsieina. Ei phrifddinas yw Kabul. Poblogaeth Affganistan yn y cyfrifiad diwethaf oedd 37,466,414 (Gorffennaf 2021)[1]. Arwynebedd y wlad yw 652,000 cilomedr sgwâr (252,000 metr sgwâr), ac mae'n fynyddig gyda gwastadeddau yn y gogledd a'r de-orllewin. Kabul yw'r brifddinas a'r ddinas fwyaf. Mae'r boblogaeth yn cynnwys Pashtuniaid ethnig, Tajiciaid, Hazaraiaid ac Wsbeciaid yn bennaf.

Gweriniaeth Islamaidd arlywyddol unedol yw Affganistan. Mae gan y wlad lefelau uchel o derfysgaeth, tlodi, diffyg maeth plant, a llygredd. Mae'n aelod o'r Cenhedloedd Unedig, y Sefydliad Cydweithrediad Islamaidd, Cymdeithas Cydweithrediad Rhanbarthol De Asia, y Grŵp o 77, y Sefydliad Cydweithrediad Economaidd, a'r Mudiad Gwledydd Heb Aliniad. Economi Affganistan yw 96ain mwyaf y byd, gyda chynnyrch domestig gcrynswth (GDP) o $72.9 biliwn trwy Paredd gallu prynu. Mae'r wlad yn waeth o lawer o ran CMC y pen (PPP), gan ddod yn 169fed allan o 186 o wledydd yn 2018. Mewn cymhariaeth, yn 2019 Cymru oedd 31fed gwlad fwya'r byd o ran CMC y pen (PPP).

Affgani ifanc yn gwerthu carpedi

Mae'n mwynhau cysylltiadau agos gyda nifer o genhedloedd NATO, yn enwedig yr Unol Daleithiau, Canada, y Deyrnas Unedig, yr Almaen, Awstralia a Thwrci. Yn 2012, llofnododd yr Unol Daleithiau ac Affghanistan Gytundeb Partneriaeth Strategol.[2]

Geirdarddiad[golygu | golygu cod]

Mae gwraidd yr enw "Afghān", yn ôl rhai ysgolheigion, yn deillio o enw'r Aśvakan neu'r Assakan, sef enw trigolion hynafol rhanbarth Hindwaidd Kush.[3][4][5][6][7] Ystyr Aśvakan yw "marchogion", "bridwyr ceffylau", neu "wŷr meirch" (o aśva neu aspa, mae'r Sansgrit a Avestan sef "ceffyl").[8] Yn hanesyddol, defnyddiwyd yr ethnonym Afghān i gyfeirio at y Pashtuniaid ethnig. Ceir y cofnod cyntaf o'r ffurf Arabeg a Phersiaidd yr enw, Afġān, mewn llyfr daearyddiaeth o'r 10g Hudud al-'Alam.[9] Mae rhan olaf yr enw, "-stan" yn ôl-ddodiad Persiaidd ar gyfer "man" neu "lle". Felly, ystyr y gair "Affganistan" yw "gwlad yr Affghaniaid", neu "wlad y Pashtuns" mewn ystyr hanesyddol.

Hanes[golygu | golygu cod]

Roedd pobol yn byw yn yr hyn sydd bellach yn Affganistan o leiaf 50,000 o flynyddoedd yn ôl. Daeth bywyd sefydlog i'r amlwg yn y rhanbarth 9,000 o flynyddoedd yn ôl.[10] Ymfudodd Indo-Aryaniaid trwy ardal Bactria-Margiana i Gandhara, a gwelwyd cynnydd diwylliant Yaz I yn yr Oes Haearn (tua 1500–1100 CC), sydd â chysylltiad agos â'r diwylliant a ddarlunnir yn yr Avesta, testunau crefyddol hynafol Zoroastrianiaeth.[11]

Plant yn disgwyl cymorth meddygol yn Camp Clark, Rhanbarth Khowst, 2009.

Syrthiodd y rhanbarth, a elwid ar y pryd yn " Ariana", i Bersiaid Achaemenid yn y 6g CC a orchfygodd yr ardaloedd i'w dwyrain cyn belled ag Afon Indus. Goresgynnodd Alecsander Fawr y rhanbarth yn y 4g CC, a phriodi Roxana yn Bactria ychydig cyn ei ymgyrch yn Nyffryn Kabul, lle wynebodd wrthwynebiad gan lwythau Aspasioi ac Assakan.

Daeth y Deyrnas Greco-Bactrian, felly'n ben dwyreiniol y byd Hellenistig. Yn dilyn y goncwest gan yr Indiaid Mauryan, ffynnodd Bwdhaeth a Hindŵaeth yn y rhanbarth am ganrifoedd. Chwaraeodd yr ymerawdwr Kanishka, a oedd o'r ymerodraeth Kushan , ac a oedd yn llywodraethu o Kapisi a Puruṣapura, ran bwysig yn lledaeniad Bwdhaeth Mahayana i Tsieina a Chanolbarth Asia. Tarddodd amryw linach Bwdhaidd eraill o'r rhanbarth hwn hefyd, gan gynnwys y Kidarites, Hephthalites, Alkhons, Nezaks, Zunbils a Turk Shahis.

Daeth Mwslimiaid ag Islam i Herat a Zaranj a ddaliwyd gan Sassanian yng nghanol y 7g, tra cyflawnwyd Islameiddio llawnach rhwng y 9fed a'r 12g o dan linach y Saffarid, y Samanid, yGhaznavid a'r Ghurid. Yn ddiweddarach rheolwyd rhannau o'r rhanbarth gan ymerodraethau Khwarazmian, Khalji, Timurid, Lodi, Sur, Mughal a Safavid.[12]

Symudodd llwythi Iranaidd i'r ardal yn ystod yr ail fileniwm Cyn Crist. Mae rheolaeth ar y wlad wedi newid sawl gwaith. Am ganrifoedd roedd yn ganolbwynt Bactria, teyrnas hynafol a oedd yn ymestyn rhwng Persia a Chanolbarth Asia ac India. Am gyfnod hir bu'n rhan o ymerodraeth Persia. Goresgynnodd Alecsander Fawr rannau o'r wlad ar ei daith i'r dwyrain. Am gyfnod o rai canrifoedd roedd y wlad yn ganolfan Fwdhaidd bwysig. Mae adfeilion Bamiyan yn dyst i hynny, ac yn cysylltu'r wlad â diwylliant Bwdhaidd Canolbarth Asia (gwerddon Turfan er enghraifft) a Tibet ar un llaw ac â dinasoedd Bwdhaidd Gandhara (gogledd-orllewin Pacistan heddiw) ar y llaw arall. Fe orchfygodd yr Arabiaid Bersia yn y 7g a meddiasant Affganistan yn ogystal. Fe'i gorchfygwyd gan y Mongoliaid yn y 13g, ac am gyfnod, dan reolwyr Ghazni, roedd Affganistan ei hun yn rheoli rhan sylweddol o ogledd-orllewin isgyfandir India.

Sefydlwyd Emiraeth Affganistan yn 1747 ac yn ddiweddarach daeth dan ddylanwad Prydain Fawr. Am ganrif a rhagor roedd Affganistan yn ddarn gwerin gwyddbwyll yn y Gêm Fawr am reolaeth yng Nghanolbarth Asia rhwng Prydain a Rwsia. Ar ôl cyfnod dan reolaeth bell Brydeinig enillodd y wlad radd o annibyniaeth yn 1919 dan yr emir Amanullah Khan ac yn gyflawnach yn 1922 pan sefydlwyd Teyrnas Affganistan yn unol â Chytundeb Rawalpindi.

Hanes fodern[golygu | golygu cod]

Dechreuodd hanes gwleidyddol yr Affganistan fodern gydag ymerodraeth Hotak, pan ddatganodd ei sylfaenydd Mirwais Hotak annibyniaeth de Affganistan ym 1709. Yn 1747, sefydlodd Ahmad Shah Durrani Ymerodraeth Durrani gyda'i phrifddinas yn Kandahar. Yn 1776, symudwyd prifddinas Durrani i Kabul tra daeth Peshawar yn brifddinas y gaeaf;[13] collwyd Peshawar i Sikhiaid ym 1823. Ar ddiwedd y 19g, daeth Affganistan yn wladwriaeth ragod (buffer state) yn "y Gêm Fawr" rhwng ymerodraethau Prydain a Rwsia.[14][15]

Yn 1973 datganiwyd gweriniaeth. Cafodd y rhyfel cartref hir rhwng 1979 a 1992 a phresenoldeb byddin Rwsia (hyd at 1989) effaith bellgyrhaeddol ar wleidyddiaeth y wlad. Yn y 1990au tyfodd dylanwad a grym y Taleban ffwndamentalaidd ac o 1994 hyd at 2001 rheolwyd rhan sylweddol o'r wlad ganddynt. Yn 2001 ymosododd lluoedd arfog UDA, gyda chymorth Cynghrair y Gogledd, ar y Taleban ac fe'u disodlwyd. Ers hynny mae llywodraeth ddemocrataidd wedi rheoli y rhan fwyaf o'r wlad, gyda chefnogaeth lluoedd NATO, ond erys y Taleban a'u cefnogwyr yn gryf yn y de a'r dwyrain.

Yn y Rhyfel Eingl-Affganistan Cyntaf, cipiodd yBritish East India Company reolaeth ar Affganistan ond yn dilyn y Drydedd Ryfel Eingl-Affganistan ym 1919 llwyddodd y wlad i ddod yn annibynnol ar ddylanwad tramor, gan ddod yn frenhiniaeth o dan arweiniad y brenin Amanullah Khan, tan bron i 50 flynyddoedd yn ddiweddarach pan ddymchwelwyd Zahir Shah a sefydlwyd gweriniaeth. Ym 1978, ar ôl ail coup, daeth Affganistan yn wladwriaeth sosialaidd gyntaf, gan ddwyn i gof y Rhyfel Sofietaidd-Afghanistan yn yr 1980au yn erbyn gwrthryfelwyr mujahideen.

Erbyn 1996, cipiwyd y rhan fwyaf o'r wlad gan y Taliban ffwndamentalaidd, Islamaidd, a oedd yn llywodraethu fel cyfundrefn dotalitaraidd; chwalwyd eu grym yn ufflon, ar ôl goresgyniad yr Unol Daleithiau yn 2001, ond yn 2021 roedden nhw'n parhau i reoli cyfran sylweddol o'r wlad. Mae’r rhyfel parhaus rhwng y llywodraeth a’r Taliban yn golygu fod hawliau dynol a hawliau menywod Affganistan, wedi cael eu hanwybyddu, gyda llawer o bobl yn cael eu camdrin, gan y ddwy ochr, megis lladd sifiliaid, herwgipio ac arteithio. Oherwydd dibyniaeth helaeth ei llywodraeth ar gymorth milwrol ac economaidd America, mae rhai yn dosbarthu'r genedl fel talaith o'r UDA.[16]

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod]

Afon Hari Rud

Mae Affganistan yn wlad tirgaeedig o wastadeddau uchel a mynyddoedd. Mae cadwyn fawr yr Hindu Kush yn cyrraedd dros 7,000 m o uchder yn Tirich Mir, ar y ffin â Phacistan yn y gogledd-ddwyrain. Ceir amrywiadau mawr mewn hinsawdd mewn lle cymharol gyfyngedig, yn amrywio o hinsoddau sych ac isdrofannol i hinsawdd alpaidd eithafol yn y mynyddoedd. Mae'r dinasoedd a threfi pwysig yn cynnwys y brifddinas Kabul a thref hanesyddol Ghazni yn y canolbarth, Herat a Kandahar yn y gorllewin, Faizabad, Konduz, Mazar-i-Sharif a Maimana yn y gogledd, a Jalalabad yn y dwyrain. Mae dŵr yn gymharol brin yn y wlad. Yr unig afonydd o bwys yw Afon Oxus, sy'n rhedeg ar hyd y ffin ogleddol; afon Hari Rud yn y canolbarth a'r gorllewin, Afon Helmand (Rud-e Helmand) yn y de-orllewin, sy'n rhedeg dros y ffin i Iran i gael ei llyncu yng nghorstir hallt Daryacheh-ye Sistan; ac Afon Kabul (Darya-ye Kabul) sy'n rhedeg o ardal Bwlch Khyber i gyfeiriad Kabul.

Iaith a Diwylliant[golygu | golygu cod]

Addurniadau yn y Mosg Las ym Mazar-e-Sharif

Mae Affganistan yn wlad Islamaidd ers yr 8g ond yn y gorffennol bu'n ganolfan bwysig iawn yn hanes Zoroastriaeth a Bwdhaeth. Hyd at ddiwedd yr 20g roedd Nuristan, i'r gogledd o ddyffryn Jalalabad, yn wlad baganaidd led-annibynnol a elwid yn Kaffiristan (mae'r olaf o'r Kaffiriaid paganaidd yn byw dros y ffin yn nhalaith Chitral ym Mhacistan).

Ceir nifer o fosgiau hanesyddol yn Affganistan, yn cynnwys y Mosg Las ym Mazar-e-Sharif yn y gogledd, mosgiau hynafol dinas Herat yn y gorllewin ac adfeilion mosg a minaret enwog yn Ghazni. Y safle Bwdhaidd pwysicaf yw Bamiyan, yng nghanolbarth y wlad; yn anffodus dinistriwyd rhan sylweddol o'r cerfluniau hynafol o'r Bwdha gan y Taleban ar ddiwedd y 1990au.

Israniadau[golygu | golygu cod]

Ceir 34 talaith yn Affganistan, a adnabyddir yn lleol fel wilayats. Rhennir pob talaith yn ei thro yn ardaloedd.

34 talaith Affganistan
  1. Badakhshan
  2. Badghis
  3. Baghlan
  4. Balkh
  5. Bamyan
  6. Daykundi
  7. Farah
  8. Faryab
  9. Ghazni
  10. Ghor
  11. Helmand
  12. Herat
  1. Jowzjan
  2. Kabul
  3. Kandahar
  4. Kapisa
  5. Khost
  6. Kunar
  7. Kunduz
  8. Laghman
  9. Lowgar
  10. Nangarhar
  11. Nimruz
  12. Nurestan
  1. Oruzgan
  2. Paktia
  3. Paktika
  4. Panjshir
  5. Parwan
  6. Samangan
  7. Sar-e Pol
  8. Takhar
  9. Wardak
  10. Zabul

Demograffeg[golygu | golygu cod]

Amcangyfrifwyd bod poblogaeth Affganistan yn 32.9 miliwn yn 2019 gan Awdurdod Ystadegau a Gwybodaeth Affganistan,[17] tra bod y Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif dros 38.0 miliwn.[18] Mae tua 23.9% ohonynt yn drefol, 71.4% yn byw mewn ardaloedd gwledig, ac mae'r 4.7% sy'n weddill yn grwydrol.[19] Ceir tair miliwn ychwanegol o Affghaniaid mewn gwersylloedd ym Mhacistan ac Iran gyfagos, a chafodd y mwyafrif ohonynt eu geni a'u magu yn y ddwy wlad hynny. Yn 2013, Affganistan oedd y wlad fwyaf i gynhyrchu ffoaduriaid yn y byd, teitl a ddaliwyd am 32 mlynedd.

Y gyfradd twf poblogaeth gyfredol yw 2.37%,[20] un o'r uchaf yn y byd y tu allan i Affrica. Disgwylir i'r boblogaeth hon gyrraedd 82 miliwn erbyn 2050 os yw'r tueddiadau poblogaeth cyfredol yn parhau.[21] Cynyddodd poblogaeth Affganistan yn gyson tan yr 1980au, pan achosodd rhyfel cartref i filiynau ffoi i wledydd eraill fel Pacistan.[22] Mae miliynau wedi dychwelyd ers hynny ac mae amodau'r rhyfel wedi golygu cyfradd ffrwythlondeb uchel o gymharu â thueddiadau byd-eang a rhanbarthol.[23] Mae gofal iechyd Affganistan wedi gwella ers troad y ganrif, gan achosi gostyngiad mewn marwolaethau babanod a chynnydd mewn hirhoedledd. Achosodd hyn (ynghyd â ffactorau eraill fel ffoaduriaid sy'n dychwelyd) dwf cyflym yn y boblogaeth yn y 2000au.

Ieithoedd[golygu | golygu cod]

Spoken ability of different languages in Afghanistan[20]
Dari (Afghan Persian)
  
78%
Pashto
  
50%
Uzbek
  
10%
English
  
5%
Turkmen
  
2%
Urdu
  
2%
Pashayi
  
1%
Nuristani
  
1%
Arabic
  
1%
Balochi
  
1%

Dari a Pashto yw ieithoedd swyddogol Affganistan; mae dwyieithrwydd yn gyffredin iawn.[24] Mae Dari, sy'n amrywiaeth o Berseg (ac a elwir yn aml yn 'Farsi' gan rai Affghaniaid fel yn Iran) yn gweithredu fel y lingua franca yn Kabul yn ogystal ag yn llawer o rannau gogleddol a gogledd-orllewinol y wlad.[24] Pashto yw iaith frodorol y Pashtuns, er bod llawer ohonyn nhw hefyd yn rhugl yn Dari tra bod rhai nad ydyn nhw'n Pashtuns yn rhugl yn Pashto. Er gwaethaf y ffaith bod y Pashtuns wedi bod yn drech yng ngwleidyddiaeth Affganistan ers canrifoedd, arhosodd Dari yn ddewis iaith ar gyfer llywodraeth a biwrocratiaeth.[25]

Mae yna nifer o ieithoedd rhanbarthol llai, gan gynnwys Wsbeceg, Turkmen, Balochi, Pashayi, a Nuristani.

Economi[golygu | golygu cod]

Gweithwyr yn prosesu pomgranadau (anaar), y mae Affganistan yn enwog amdanynt

Mae Affganistan yn un o wledydd tlotaf y byd. Mae'r mwyafrif o'r bobl yn gweithio ar y tir. Yn y dyffrynoedd a chymoedd mae rhwydweithiau dyfrhau yn galluogi amaethyddiaeth a thyfu coed ffrwythau i ffynu. Yn y mynyddoedd a'r gwastadeddau uchel bugeilio a chodi gwartheg a geifr yw asgwrn cefn yr economi leol. Mae tyfu cnydau opiwm yn bwysig yn yr ardaloedd gwledig ers canrifoedd ac mae canran uchel iawn o opiwm y byd yn dod o Affganistan. Mae nwyddau naturiol y wlad yn cynnwys glo, petroliwm a nwy naturiol a mwyngloddir lapis lazuli yn y gogledd, yn arbennig yn y Hindu Kush.

Mae'r rhyfela parhaol dros y degawdau diwethaf wedi dinistrio dros 65% o ffatrïoedd a safleoedd diwydiannol eraill y wlad ac mae'r economi heddiw mewn cyflwr bregus iawn ac yn ddibynnol ar gymorth ariannol tramor.

Er bod diffyg ariannol, cyfredol y genedl yn cael ei ariannu i raddau helaeth gydag arian rhoddwyr, dim ond cyfran fach a ddarperir yn uniongyrchol i gyllideb y llywodraeth. Darperir y gweddill i wariant nad yw'n gyllidebol a phrosiectau a ddynodwyd gan roddwyr trwy system a sefydliadau anllywodraethol.[26]

Mae 'Banc Da Affganistan' yn gwasanaethu fel banc canolog y genedl[27] a'r Afghani (AFN) yw'r arian cyfred cenedlaethol, gyda chyfradd gyfnewid o tua 75 Afghanis i 1 doler yr UD.[28] Mae nifer o fanciau lleol a thramor yn gweithredu yn y wlad, gan gynnwys Banc Rhyngwladol Affganistan, Banc Kabul Newydd, Banc Azizi, Banc Pashtany, Banc Siartredig Safonol, a'r Banc Micro Cyllid Cyntaf .

Mwyngloddio[golygu | golygu cod]

Cerrig Lapis lazuli

Mae adnoddau naturiol y wlad yn cynnwys: glo, copr, mwyn haearn, lithiwm, wraniwm, elfennau daear prin, cromite, aur, sinc, talc, barite, sylffwr, plwm, marmor, cerrig gwerthfawr a lled werthfawr, nwy naturiol, a petroliwm.[29] Yn 2010, amcangyfrifodd swyddogion llywodraeth yr UD ac Affganistan fod dyddodion mwynau heb eu cyffwrdd a leolwyd yn 2007 gan Arolwg Daearegol yr UD werth o leiaf $1 triliwn.[30]

Iechyd[golygu | golygu cod]

Yn ôl y Mynegai Datblygiad Dynol, Affganistan yw'r 15fed wlad leiaf datblygedig yn y byd . Amcangyfrifir bod y disgwyliad oes ar gyfartaledd oddeutu 60 mlynedd.[31][32] Cyfradd marwolaethau mamau’r wlad yw 396 marwolaeth / 100,000 o enedigaethau byw a’i chyfradd marwolaethau babanod yw 66 [32] i 112.8 o farwolaethau ym mhob 1,000 o enedigaethau byw.[20] Mae gan y wlad fwy na 3,000 o fydwragedd, gyda 300 i 400 yn ychwanegol yn cael eu hyfforddi bob blwyddyn.[33]

Mae dros 100 o ysbytai yn Affganistan,[34] gyda'r triniaethau mwyaf datblygedig ar gael yn Kabul. Sefydliad Meddygol Plant Ffrainc ac Ysbyty Plant Indira Gandhi yn Kabul yw'r prif ysbytai plant yn y wlad. Mae rhai o'r ysbytai blaenllaw eraill yn Kabul yn cynnwys Ysbyty Jamhuriat ac Ysbyty Jinnah.[35] Er gwaethaf hyn oll, mae llawer o Affghaniaid yn teithio i Bacistan ac India i gael triniaeth dwys.

Chwiliwch am Affganistan
yn Wiciadur.

Cyfeiriadauau[golygu | golygu cod]

  1. "Afghanistan: People and Society". Cyrchwyd 25 Chwefror 2021.
  2. "Hillary Clinton says Afghanistan 'major non-Nato ally'". BBC News. 7 Gorffennaf 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Gorffennaf 2019. Cyrchwyd 4 Grffennaf 2019. Check date values in: |access-date= (help)
  3. "The name Afghan has evidently been derived from Asvakan, the Assakenoi of Arrian... " (Megasthenes and Arrian, p 180. See also: Alexander's Invasion of India, p 38; J.W. McCrindle).
  4. "Even the name Afghan is Aryan being derived from Asvakayana, an important clan of the Asvakas or horsemen who must have derived this title from their handling of celebrated breeds of horses" (See: Imprints of Indian Thought and Culture abroad, p 124, Vivekananda Kendra Prakashan).
  5. cf: "Their name (Afghan) means "cavalier" being derived from the Sanskrit, Asva, or Asvaka, a horse, and shows that their country must have been noted in ancient times, as it is at the present day, for its superior breed of horses. Asvaka was an important tribe settled north to Kabul river, which offered a gallant resistance but ineffectual resistance to the arms of Alexander "(Ref: Scottish Geographical Magazine, 1999, p 275, Royal Scottish Geographical Society).
  6. "Afghans are Assakani of the Greeks; this word being the Sanskrit Ashvaka meaning 'horsemen' " (Ref: Sva, 1915, p 113, Christopher Molesworth Birdwood).
  7. Cf: "The name represents Sanskrit Asvaka in the sense of a cavalier, and this reappears scarcely modified in the Assakani or Assakeni of the historians of the expedition of Alexander" (Hobson-Jobson: A Glossary of Colloquial Anglo-Indian words and phrases, and of kindred terms, etymological..by Henry Yule, AD Burnell).
  8. Majumdar, Ramesh Chandra (1977) [1952]. Ancient India (arg. Reprinted). Motilal Banarsidass. t. 99. ISBN 978-8-12080-436-4.
  9. Vogelsang, Willem (2002). The Afghans. Wiley Blackwell. t. 18. ISBN 0-631-19841-5. Cyrchwyd 6 Gorffennaf 2019.
  10. Dyson, Tim (2018), A Population History of India: From the First Modern People to the Present Day, Oxford University Press, pp. 4–5, ISBN 978-0-19-882905-8, https://books.google.com/books?id=3TRtDwAAQBAJ&pg=PA4; Fisher, Michael H. (2018), An Environmental History of India: From Earliest Times to the Twenty-First Century, Cambridge University Press, p. 33, ISBN 978-1-107-11162-2, https://books.google.com/books?id=kZVuDwAAQBAJ&pg=PA23
  11. Anthony, David W. (2007). The Horse, the Wheel, and Language: How Bronze-Age Riders from the Eurasian Steppes Shaped the Modern World. Princeton University Press. t. 454. ISBN 978-0691058870.
  12. The Far East and Australasia 2003. Psychology Press. 14 Mehefin 2002. ISBN 9781857431339.
  13. Qassem, Ahmad Shayeq (16 Mawrth 2016). Afghanistan's Political Stability: A Dream Unrealised. Routledge. ISBN 9781317184591.
  14. Tomsen, Peter (2014), The Wars of Afghanistan, pp. 41–2, ISBN 978-1610392624
  15. Rashid, Ahmed (2000), Taliban, p. 187, ISBN 1-86064-417-1
  16. Ladwig, Walter C. (2017). The Forgotten Front: Patron-Client Relationships in Counter Insurgency. Cambridge University Press. t. 302. ISBN 9781107170773. Cyrchwyd 2018-05-15. As with their Cold War counterparts, it was erroneous for American policymakers to believe that the governments of contemporary client states, such as Iraq, Afghanistan, and Pakistan, necessarily shared their desire to defeat radical Islamic insurgents by adhering to the prescriptions of U.S. counterinsurgency doctrine.
  17. "NSIA Estimates Afghanistan Population at 32.9M". TOLOnews.
  18. "Afghanistan Population 2020 (Demographics, Maps, Graphs)". 2020 World Population by Country. 26 April 2020. Cyrchwyd 13 Mehefin 2020.
  19. "Afghan Population Estimates 2020". Worldmeters. 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-07-19. Cyrchwyd 27 Tachwedd 2020.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  20. 20.0 20.1 20.2 "Afghanistan". The World Factbook. cia.gov. Cyrchwyd 22 Awst 2018.
  21. "Afghanistan – Population Reference Bureau". Population Reference Bureau. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 December 2013. Cyrchwyd 29 December 2009.
  22. Wickramasekara, Piyasiri; Sehgal, Jag; Mehran, Farhad; Noroozi, Ladan; Eisazadeh, Saeid. "Afghan Households in Iran: Profile and Impact" (PDF). United Nations High Commissioner for Refugees. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 23 Chwefror 2018.
  23. Nasir, Jamal Abdul; Akhtar, Sohail; Zaidi, Syed Arif Ahmed; Rani, Andleeb; Bano, Hina; Hinde, Andrew (16 Hydref 2019). "Is recent Afghanistan survey data suitable for fertility analysis? A regional investigation based on fertility inhibiting determinants". PLOS ONE 14 (10): e0223111. Bibcode 2019PLoSO..1423111N. doi:10.1371/journal.pone.0223111. PMC 6795489. PMID 31618275. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=6795489.
  24. 24.0 24.1 "Article Sixteen of the 2004 Constitution of Afghanistan". 2004. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Hydref 2013. Cyrchwyd 13 Mehefin 2012. Pashto and Dari are the official languages of the state. Uzbek, Turkmen, Baluchi, Pashai, Nuristani and Pamiri are – in addition to Pashto and Dari – the third official language in areas where the majority speaks them
  25. Bodetti, Austin. "What will happen to Afghanistan's national languages?". alaraby.
  26. "The Taliban Is Capturing Afghanistan's $1 Trillion in Mining Wealth". Bloomberg L.P. 20 Hydref 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Mai 2017. Cyrchwyd 23 Mai 2017.
  27. "Interest Rate Cut in Place, Says Central Bank". TOLOnews. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Gorffennaf 2019. Cyrchwyd 28 Mai 2019.
  28. "Afghani Falls Against Dollar By 3% In A Month". TOLOnews. 18 April 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 April 2019. Cyrchwyd 28 Mai 2019.
  29. "Minerals in Afghanistan" (PDF). British Geological Survey. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 26 Gorffennaf 2013. Cyrchwyd 4 December 2010.
  30. "Afghans say US team found huge potential mineral wealth". BBC News. 14 Mehefin 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Awst 2013. Cyrchwyd 13 Hydref 2011.
  31. "Afghanistan" (PDF). World Health Organization (WHO). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 22 Gorffennaf 2017. Cyrchwyd 17 Mai 2017.
  32. 32.0 32.1 "Afghanistan". UNESCO. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Mehefin 2017.
  33. Peter, Tom A. (17 December 2011). "Childbirth and maternal health improve in Afghanistan". The Christian Science Monitor. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 December 2013. Cyrchwyd 12 Ionawr 2012.
  34. "Afghanistan National Hospital Survey" (PDF). Afghan Ministry of Health. August 2004. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 7 Awst 2019. Cyrchwyd 28 Mai 2019.
  35. Gul, Ayaz (20 April 2019). "Pakistan-funded Afghan Hospital Begins Operations". VOA News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 April 2019. Cyrchwyd 28 Mai 2019. It opens a new chapter in the friendship of the two countries... This is the second-largest hospital [in Afghanistan] built with your support that will serve the needy," Feroz told the gathering.