Y Gêm Fawr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Canolbarth Asia yng nghyfnod y Gêm Fawr (map: 1848)

Term a fathwyd i ddisgrifio'r ymgiprys am rym strategol a gwrthdaro rhwng yr Ymerodraeth Brydeinig ac Ymerodraeth Rwsia am oruchafiaeth yng Nghanolbarth Asia yn y 19eg ganrif yw Y Gêm Fawr (o'r ymadrodd Saesneg, The Great Game). Mae cyfnod y Gêm Fawr yn ymestyn o tua'r 1810au ac arwyddo Cytundeb Persia a Rwsia 1813 hyd y Gynhadledd Eingl-Rwsiaidd yn 1907. Gellid ystyried yr anghydfod yn y rhanbarth a ddilynodd Chwyldro'r Bolsheficiaid yn Rwsia yn 1917 yn barhad o'r Gêm ar raddfa llai.

Bathwyd y term "The Great Game" gan Arthur Conolly, swyddog gwybodaeth yn Chweched Farchoglu Ysgafn Bengal (Bengal Light Cavalry) Cwmni Prydeinig Dwyrain India. Daeth yn enw cyfarwydd ym Mhrydain a llefydd eraill ar ôl iddo gael ei ddefnyddio gan y nofelydd Seisnig Rudyard Kipling yn ei nofel Kim (1901).

Yn ogystal â Phrydain a Rwsia, roedd y Gêm Fawr yn effeithio ar wleidyddiaeth a chymdeithas gwledydd fel Persia, Tibet a Tsieina, ynghyd â'r India Brydeinig (India a Pacistan), ond ei chanolbwynt oedd Affganistan a gorllewin a gogledd Pacistan (nad oedd yn bod y pryd hynny). Gellid dadlau fod rhai o ganlyniadau'r Gêm yn effeithio ar y rhanbarth hyd heddiw, e.e. y sefyllfa yn Affganistan a meddianu Tibet gan Weriniaeth Pobl Tsieina.

Hourglass.svg Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
LocationAsia.png Eginyn erthygl sydd uchod am Asia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato