Bactria

Oddi ar Wicipedia
Map yn dangos prif ddinasoedd Bactria

Rhanbarth hynafol a theyrnas hanesyddol yng Nghanolbarth Asia oedd Bactria (hefyd Bactriana, Bākhtar yn Mherseg, Bhalika yn Arabeg ac ieithoedd Indiaidd, a Ta-Hsia yn Tsieinïeg). Roedd yn gorwedd i'r dwyrain o'r Môr Aral. Ar ei lletaf roedd Bactria yn cynnwys tiriogaethau presennol y Canolbarth Asia Rwsiaidd, Affganistan a Phacistan, gyda'i chanol rhwng yr Hindu Kush ac afon Amu Darya (yr Oxus hynafol). Ei phrifddinas oedd Bactra neu Balhika (Balkh yn Affganistan heddiw). I'r de-orllewin yr oedd yn ffinio â Phersia tra bod hen deyrnas Gandhara yn gorwedd i'r de-ddwyrain. Mae Bactreg yn iaith Iranaidd yn yr is-deulu Indo-Iranaidd yn y teulu Indo-Ewropeaidd o ieithoedd. Ymhlith disgynyddion y Bactriaid heddiw y mae'r Pashtun a'r Tajikiaid.

Roedd yn dalaith Achaemeniaidd o tua 600 CC hyd ei goncwest gan Alecsander Fawr. Am gyfnod ar ôl hynny bu dan reolaeth y Bersia Seleuciaidd ac wedyn Parthia dan Mithridates I ar ôl cyfnod byr fel teyrnas annibynnol dan Diodotus I. O'r ganrif gyntaf OC meddianwyd Bactria gan nomadiaid o Kushan. Dan eu rheolaeth nhw blodeuai diwylliant unigryw a oedd yn cynnwys elfennau Bwdhydd o Ganolbarth Asia (ardal Turfan, er enghraifft), Iranaidd a Groegaidd-Rufeinig. Hyd tua 600 roedd Bactria yn parhau i fod yn groesffordd ddiwyllianol a masnachol rhwng y Gorllewin a'r Dwyrain.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]