Asurfaen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Asurfaen o Affganistan yn ei ffurf gynhenid

Glain purlas yw asurfaen neu Lapis lazuli a werthfawrogwyd ers dyddiau'r Henfyd am ei liw arddwys neu lachar.[1] Erbyn diwedd yr Oesoedd Canol, fe'i mewnforid i Ewrop.

Fe'i mwyngloddiwyd ers y 7fed ganrif yng ngogledd-ddwyrain Affganistan ac mae'r fan honno'n dal i fod yn ffynhonnell bwysig o asurfaen. Daw cryn dipyn, hefyd, o fwyngloddiau i'r gorllewin o Lyn Baikal yn Rwsia a mynyddoedd yr Andes yn Chile. Mwyngloddir rhywfaint ohono hefyd yn yr Eidal, Mongolia, yr UDA a Chanada. [2]

Cyfansoddiad[golygu]

Pif gyfansoddyn mwynol asurfaen yw laswrit (lazurite)[3] (25%-40%) a ddiffinir gyda'r fformiwla cemegol (Na,Ca)8[(S,Cl,SO4,OH)2|(Al6Si6O24)].

Hanes[golygu]

Mae asurfaen wedi'i fwyngloddio yn Affganistan a'i allforio oddi yno i wledydd Môr y Canoldir a De Asia ers yr oes Neolithig.[4] Cyflwynwyd asurfaen i'r Aifft hynafol o Fôr y Canoldir, a daeth yn rhan boblogaidd, maes o law, o addurniadau a gemwaith megis sgarabau. Crybwyllir asurfaen sawl gwaith yn y gerdd Fesopotamaidd Epig Gilgamesh, sef un o weithiau llenyddol hynaf y byd.

Ceir cyfeiriadau lu i saffir yn yr Hen Destament, ond mae ysgolheigion yn gytûn y cyfeirir at asurfaen pan sonnir am saffir am nad oeddent yn hysbys i'r Ymerodraeth Rufeinig bryd hynny. [5]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?asurfaen, Geiriadur Prifysgol Cymru: "asurfaen"
  2. http://www.gemstone.org/index.php?option=com_content&view=article&id=117:sapphire&catid=1:gem-by-gem&Itemid=14. Adalwyd 28/07/14
  3. http://www.mindat.org/min-2330.html. Adalwyd 28/07/14
  4. Moorey, Peter Roger (1999). Ancient mesopotamian materials and industries: the archaeological evidence. Eisenbrauns. tud. 86–87. ISBN 978-1-57506-042-2.
  5. Pearlie Braswell-Tripp (2013), Real Diamonds and Precious Stones of the Bible (ISBN 978-1-4797-9644-1)