Herat

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Herat (2009)

Y mae Herat yn ddinas hynafol yng ngorllewin Affganistan a phrifddinas a chanolfan weinyddol talaith Herat. Mae'n gorwedd 3,026 troedfedd uwch lefel y môr mewn dyffryn ffrwythlon ar lan afon Hari Rud, sy'n llifo i lawr o fynyddoedd canolbarth Affganistan ac ymlaen i anialwch Kara-Kum yn Turkmenistan. Mae'n 407 milltir o Kandahar, i'r de, a 469 milltir o'r brifddinas Kabul, i'r dwyrain.

Herat yw dinas drydydd fwyaf Affganistan, gyda phoblogaeth o 349,000 (amcangyfrifiad, 2006). Tajiciaid a/neu Fārsīwāns sy'n ffurfio mwyafrid y boblogaeth, gyda Pashtuniaid, Hazariaid, Uzbekiaid ac eraill yn lleiafrifoedd bychain. Mae pawb yn y ddinas yn siarad Perseg, yn ogystal ag ieithoedd eraill yn ôl eu grŵp ethnig.

Lleolir Herat ar groesfan ar yr hen lwybrau masnach, fel Llwybr y Sidan, sy'n cysylltu India, Tsieina, y Dwyrain Canol, Canolbarth Asia ac Ewrop. Mae'r ffyrdd o Herāt i Iran, Turkmenistan, Mazari Sharif a Kandahar yn dal i fod yn bwysig heddiw.

Sefydlodd Alecsander Fawr ddinas ar y safle a enwyd yn Alexandria Arion (Arion oedd yr enw Groeg a Lladin am yr Hari Rud).[1] Hyd heddiw, dominyddir y ddinas gan adfeilion y ddinas gaerog a gododd yno. Ar ôl marwolaeth Alecsander, pasiodd Herat trwy ddwylo'r Seleuciaid, y Parthiaid, a'r Sassaniaid. Ar ôl cwymp ymerodraeth y Sassaniaid cafodd ei cipio gan yr Arabiaid yn 661 a daeth yn un o ddinasoedd disgleiriaf y byd Islamaidd. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn enwog am ei dysg, ei llenorion a'i gwin, ac roedd yn cael ei hadnabod fel "Perl Khorasan".

Cyfeiriadau[golygu]