Nodyn:Pigion/Wythnos 32

Oddi ar Wicipedia
Pigion
Y Brenin Arthur
Y Brenin Arthur

Cymeriad oedd Arthur neu'r Brenin Arthur sy'n ymddangos yn aml ym marddoniaeth a chwedlau Cymraeg yn y cyfnod cynnar, ac sydd hefyd yn ymddangos fel arweinydd y Brythoniaid yn ymladd yn erbyn y goresgynwyr Sacsonaidd. Cred rhai ysgolheigion fod yna Arthur go iawn wedi byw yn y cyfnod rhwng diwedd y bumed ganrif a dechrau'r chweched, tra cred eraill mai cymeriad mytholegol hollol ydyw.

Ceir cyfeiriad at Arthur fel cymeriad hanesyddol yn yr Historia Brittonum o ran gyntaf y 9fed ganrif, a briodolir i Nennius. Ceir hefyd gyfeiriadau at Arthur mewn barddoniaeth a chwedlau Cymraeg cynnar, mewn cerddi megis Preiddiau Annwn o tua 900 ac yn arbennig yn chwedl Culhwch ac Olwen, a ddyddir i tua 1080 - 1100. Mae Sieffre o Fynwy yn sôn am Arthur a'r dewin Myrddin yn ei Historia Regum Britanniae (Hanes Brenhinoedd Prydain) ym 1136. O'r adeg yma ymlaen, daeth chwedlau am Arthur yn eithriadol boblogaidd mewn llawer rhan o Ewrop.

mwy... 


Mwy o bigion · Newidiadau diweddar

Erthyglau dewis