Reginald Grey, 3ydd Barwn Grey de Ruthyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Uchelwr Seisnig a thirfeddiannwr yng Nghymru oedd Reginald Grey, 3ydd Barwn Grey de Ruthyn (c. 1362 - 30 Medi 1440). Mae'n fwyaf adnabyddus oherwydd ei gweryl ag Owain Glyndŵr, a fu'n un o'r digwyddiadau a arweiniodd ar wrthryfel Owain.

Roedd yn fab hynaf Reginald Grey, 2il Farwn Grey de Ruthyn ac Alianore Le Strange o Blackmere. Hawliodd gyfran o diroedd Owain Glyndŵr, ond yn ystod teyrnasiad Rhisiart II, penderfynwyd yr achos o blaid Owain. Wedi i Harri IV gipio'r orsedd, ail-agorodd de Grey yr achos, gan fanteisio ar y ffaith ei fod yn ffafr y brenin. Dywed rhai ffynonellau fod de Grey wedi oedi gyrru gwŷs gan y brenin i Owain yn hawlio cymorth milwrol yn yr Alban. Erbyn i Owain dderbyn y wŷs, roedd yn rhy hwyr iddo ymateb.

Yn Ionawr 1402, cymerwyd de Grey yn garcharor gan Glyndŵr gerllaw Rhuthun. Bu raid i de Grey dalu 10,000 o farciau am ei ryddid.

Pendefigaeth Lloegr
Rhagflaenydd:
Reginald Grey
Barwn Grey de Ruthyn
13881440
Olynydd:
Edmund Grey