Dinas Dinlle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: eu:Dinas Dinlle
RHaworth (sgwrs | cyfraniadau)
use Commons image
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Dinas Dinlle (pentref).jpg|250px|bawd|Pentre Dinas Dinlle a'r traeth]]
[[Delwedd:Dinas Dinlle 752714.jpg|bawd|Pentre Dinas Dinlle a'r traeth]]
[[Delwedd:Dinas Dinlle (bryngaer).jpg|250px|bawd|Bryngaer Dinas Dinlle o'r de]]
[[Delwedd:Dinas Dinlle Fort from the South - geograph.org.uk - 250097.jpg|bawd|Bryngaer Dinas Dinlle o'r de]]


Pentref bychan yng ngogledd [[Gwynedd]] yw '''Dinas Dinlle'''. Saif ar lan [[Bae Caernarfon]] i'r de o [[Abermenai]], tua 5 milltir i'r de-orllewin o dref [[Caernarfon]]. Mae ym mhlwyf [[Llandwrog]]. Mae traeth Morfa Dinlle a'i dywod braf yn boblogaidd gan bobl leol ac ymwelwyr.
Pentref bychan yng ngogledd [[Gwynedd]] yw '''Dinas Dinlle''' ({{gbmapping|SH4356}}). Saif ar lan [[Bae Caernarfon]] i'r de o [[Abermenai]], tua 5 milltir i'r de-orllewin o dref [[Caernarfon]]. Mae ym mhlwyf [[Llandwrog]]. Mae traeth Morfa Dinlle a'i dywod braf yn boblogaidd gan bobl leol ac ymwelwyr.


Enwir y pentref ar ôl [[bryngaer]] '''Dinas Dinlle''' ar draeth Morfa Dinlle gerllaw. Mae'n gaer arfordirol o bridd a'i ochr orllewinol wedi'i hysu i ffwrdd gan y môr erbyn hyn. Codwyd dau glawdd anferth o gwmpas y bryn gan yr adeiladwyr. Tybir ei fod yn perthyn i ail gyfnod [[Oes yr Haearn]] (Oes yr Haearn B). Cafwyd gwrthrychau ynddi sy'n dyddio i'r [[2ail ganrif]] a'r [[3edd ganrif]], sy'n dangos fod pobl yn dal i fyw yno yng [[cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru|nghyfnod y Rhufeiniaid]].
Enwir y pentref ar ôl [[bryngaer]] '''Dinas Dinlle''' ar draeth Morfa Dinlle gerllaw. Mae'n gaer arfordirol o bridd a'i ochr orllewinol wedi'i hysu i ffwrdd gan y môr erbyn hyn. Codwyd dau glawdd anferth o gwmpas y bryn gan yr adeiladwyr. Tybir ei fod yn perthyn i ail gyfnod [[Oes yr Haearn]] (Oes yr Haearn B). Cafwyd gwrthrychau ynddi sy'n dyddio i'r [[2ail ganrif]] a'r [[3edd ganrif]], sy'n dangos fod pobl yn dal i fyw yno yng [[cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru|nghyfnod y Rhufeiniaid]].

Fersiwn yn ôl 09:32, 25 Medi 2010

Pentre Dinas Dinlle a'r traeth
Bryngaer Dinas Dinlle o'r de

Pentref bychan yng ngogledd Gwynedd yw Dinas Dinlle (cyfeiriad grid SH4356). Saif ar lan Bae Caernarfon i'r de o Abermenai, tua 5 milltir i'r de-orllewin o dref Caernarfon. Mae ym mhlwyf Llandwrog. Mae traeth Morfa Dinlle a'i dywod braf yn boblogaidd gan bobl leol ac ymwelwyr.

Enwir y pentref ar ôl bryngaer Dinas Dinlle ar draeth Morfa Dinlle gerllaw. Mae'n gaer arfordirol o bridd a'i ochr orllewinol wedi'i hysu i ffwrdd gan y môr erbyn hyn. Codwyd dau glawdd anferth o gwmpas y bryn gan yr adeiladwyr. Tybir ei fod yn perthyn i ail gyfnod Oes yr Haearn (Oes yr Haearn B). Cafwyd gwrthrychau ynddi sy'n dyddio i'r 2ail ganrif a'r 3edd ganrif, sy'n dangos fod pobl yn dal i fyw yno yng nghyfnod y Rhufeiniaid.

Mae'r gaer yn enwog yn llenyddiaeth Gymraeg a diwylliant Cymru oherwydd ei chysylltiad â Phedair Cainc y Mabinogi. Yn y bedwaredd gainc, Math fab Mathonwy, mae'r arwr Lleu ('Lleu Llaw Gyffes') yn cael ei feithrin yn Ninas Dinlle ('Dinas Dinllef' yw'r sillafiad a geir yn y testun) gan y dewin Gwydion ap Don i farchogaeth a dwyn arfau:

'Yna y daethant [h]wy parth a Dinas Dinllef. Ac yna meithrin Lleu Llaw Gyffes yny allwys (nes y gallai) marchogaeth pob march ac yny oedd gwbl o bryd, a thwf a meint.'[1]

'Dinas Dinllef' sydd gan y copïydd yn y llawysgrif, sef 'Dinas Dinlleu', o 'Dinlleu', sef 'Caer Lleu' ('din' = caer). 'Dinas Dinlla' yw'r enw ar lafar yn y cylch.

Yn 'Englynion y Beddau' yn Llyfr Du Caerfyrddin dywedir i Wydion gael ei gladdu yn Ninas Dinlle:

'Bedd Gwydion ap Don
ym Morfa Dinlleu
i-dan faen defeillion.'[2]

Yn y môr gyferbyn â Dinas Dinlle ceir Caer Arianrhod, cartref arallfydol Arianrhod yn y Mabinogi.

Cyfeiriadau

  1. Ifor Williams (gol.), Pedair Cainc y Mabinogi (Caerdydd, 1930), tud. 81. Diweddarwyd yr orgraff fymryn.
  2. Dyfynnir gan Ifor Williams, op. cit.