Rhaniad Gogledd-De yng Nghymru
Dywedir bod rhaniad Gogledd-De yn bodoli yng Nghymru, ac mae iddi agweddau diwylliannol ac economaidd. O ran yr economi, mae ardaloedd trefol y De (dinasoedd Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd) yn ffyniannus o gymharu ag ardaloedd gwledig a mynyddig y Gogledd. Ynghŷd â ffactorau diwylliannol y rhaniad – yn bennaf y ffaith bod medr y Gymraeg, hunaniaeth Gymreig a chenedlaetholdeb yn uwch yn y Gogledd nag yn ardaloedd arfordirol y De (sydd wedi'u Seisnigo mwy yn y mileniwm diwethaf) – mae hyn yn broblem gymdeithasol yn y Gymru fodern.
Amwys yw statws Canolbarth Cymru, sef Powys a Cheredigion, yn nhermau'r rhaniad Gogledd-De. Mae'r ardaloedd hyn yn weddol ffyniannus ond isel iawn yw eu dwysedd poblogaeth; mae nifer o drigolion y Canolbarth yn teithio i ardaloedd cyfagos i weithio. Amwys hefyd yw statws siroedd Penfro a Chaerfyrddin: lleolant yn Ne'r wlad ond maent yn llai trefol na Gwent a Morgannwg. I gymhlethu'r sefyllfa ymhellach, mae rhannau o Sir Benfro – y rhanbarth i de Llinell Landsker – yn debycach i weddill De Cymru gan ei fod yn fwy Seisnig (gelwir yn "Lloegr Fechan tu hwnt i Gymru" neu Little England beyond Wales) ac yn gyfoethocach na gweddill y sir; yn gyffredinol mae Sir Benfro yn ficrocosm o'r rhaniad ar draws Cymru i gyd.
I gymhlethu'r darlun, mae rhai sylwebyddion gwleidyddol ac economegwyr yn gweld y rhaniad Gorllewin-Dwyrain yn fwy real a pherthnasol. Gwelir o'r mapiau isod fod Cymru'n ymrannu'n wleidyddol (pleidlais y refferendwm) ac ieithyddol (Cymraeg-Saesneg) ar echel trwy ganol y wlad, o'r gogledd i'r de; yn ogystal mae'r ardaloedd dwyreiniol - gogledd-ddwyrain Cymru, dwyrain Canolbarth Cymru ac arfodir De Cymru - yn fwy ffyniannus ac yn denu canran uchel o'r buddsoddiant economaidd yn y wlad. I raddau mae'r ymraniad yma yn cyfateb i ymraniad Cymru am ran helaeth o'r Oesoedd Canol yn Pura Wallia a'r Mers.
Yn y blynyddoedd diweddar, gellid dadlau fod y rhaniad Gogledd-De wedi dirywio rhywfaint. Dywed rhai bod ffiniau'r rhaniad yn esblygu, yn enwedig gyda newidiadau rhwng Gorllewin Cymru a'r Cymoedd ac awdurdodau lleol De Ddwyrain y wlad.[1] Er enghraifft, o ran nifer o siaradwyr y Gymraeg, darganfuodd Gyfrifiad 2001 bod mwy yn medru'r Gymraeg yn y Gorllewin nag yn rhai siroedd yn y Gogledd. Mae yna hefyd rhaniad Dwyrain-Gorllewin yng Ngogledd Cymru: mae Cymreictod a medr y Gymraeg yn uchel iawn yng Ngwynedd ac Ynys Môn (ardal ogleddol y Fro Gymraeg), ond oherwydd eu daearyddiaeth mae'r economi yn wan o gymharu â siroedd Gogledd Ddwyrain Cymru (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, a Wrecsam). Nid yw hyn yn ddatblygiad diweddar: yn hanesyddol roedd y Gogledd Ddwyrain wastad yn fwy Seisnig (sylwer bod Sir y Fflint a rhannau o Wrecsam ar ochr Seisnig Clawdd Offa). Er hyn mae ystadegau ar nifer o bynciau cymdeithasol ac economaidd yn dangos bod y rhaniad Gogledd-De cyffredinol dal yn bodoli ar draws Cymru.
Cynnwys |
Achosion a datblygiad [golygu]
Rhesymau hanesyddol a daearyddol sydd wedi siapio'r rhaniad.
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Agweddau cymdeithasol a diwylliannol [golygu]
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
-
Canrannau siaradwyr y Gymraeg yn awdurdodau lleol Cymru (Cyfrifiad 2001)
-
Mwyafrifoedd a bleidleisiodd o blaid neu yn erbyn datganoli yn refferendwm 1997 Y bleidlais o blaid Y bleidlais yn erbyn
Agweddau economaidd [golygu]
Y prif gyfrannwr i economi Cymru yw'r de pellaf; lleolir y mwyafrif o ddiwydiannau gwasanaethau ac uwch-dechnoleg y wlad yma. Parhad o Goridor yr M4 yw'r ardal hon, ac felly mae ganddi cysylltiadau cludiant buddiol gyda Llundain a De Lloegr (gweler rhaniad Gogledd-De yn y Deyrnas Unedig). Gan amlaf mae'r ardal hon yn cynnwys dinasoedd Caerdydd a Chasnewydd, yn ogystal ag ardaloedd mwy gwledig Sir Fynwy, Bro Morgannwg, a Phen-y-bont ar Ogwr. Dim ond canran bach o holl dir Cymru yw'r rhanbarth ond preswylir cyfran uchel o'r boblogaeth yma. Weithiau ystyrir Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn rhan o'r ardal ffyniannus hon ar hyd Goridor yr M4, ond gan amlaf ni chynhwysir y Cymoedd oherwydd parhaent i ddioddef o gyfraddau tlodi uchel iawn.[2]
Safbwyntiau gwleidyddol [golygu]
Mae'r rhaniad Gogledd-De yng Nghymru a sut i'w ddatrys yn bwnc trafod gwleidyddol.
Ym Mai 2004 dywedodd Jenny Randerson, AC Ryddfrydol dros Ganol Caerdydd:
Mae Cymru'n wynebu her oherwydd ei daearyddiaeth. Cyfeirir byth a hefyd yn y Siambr at y rhaniad gogledd-de.[3]
Cyn etholiad 2007 y Cynulliad bu'r Blaid Geidwadol yng Nghymru yn addo i leihau'r rhaniad Gogledd-De trwy bolisïau bydd yn canolbwyntio ar adferiad yn y Gogledd, yn cynnwys cynyddu cyllid gwasanaethau rheilffyrdd y Gogledd ac adfywio cyrchfannau arfordirol megis y Rhyl a Bae Colwyn.[4]
Yn 2008 dywedodd Alison Halford, cyn-AC Llafur dros Ddelyn, bod y rhaniad yng Nghymru "yn real iawn ac yn hollol enfawr".[5]
Gweler hefyd [golygu]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Etholiadau'n Eithrio [Etholiadau yng Nghymru]
PDF. Scope. Adalwyd ar 16 Mai, 2008. "Bu rhaniad gogledd/de yng Nghymru ers sawl blwyddyn ond mae’r berthynas hon yn esblygu. Mae rhaniadau newydd wedi eu creu, yn arbennig rhwng Gorllewin Cymru a’r Cymoedd a rhannau Dwyreiniol Cymru." - ↑ Monitro tlodi ac eithrio cymdeithasol yng Nghymru 2005. Sefydliad Joseph Rowntree (Tachwedd 2005). Adalwyd ar 16 Mai, 2008.
- ↑ Y Cofnod Swyddogol. Cynulliad Cenedlaethol Cymru (4 Mai, 2004). Adalwyd ar 16 Mai, 2008.
- ↑ (Saesneg) Bodden, Tom (25 Ebrill, 2007). Tories promise to bridge the north-south divide in Wales. Daily Post. Adalwyd ar 16 Mai, 2008.
- ↑ (Saesneg) Forrester, Kate (27 Mawrth, 2008). 'Wales' North-South divide is real and absolutely huge'. Evening Leader. Adalwyd ar 16 Mai, 2008.