Bara lawr
Oddi ar Wicipedia
Gwymon bwytadwy sy'n cynnwys llawer o fwynau fel ïodin a haearn ydy bara lawr. Mae'n fwyd sy'n draddodiadol Gymreig, yn enwedig yn ne Cymru, ond caiff ei fwyta hefyd yn Japan lle caiff ei alw'n nori a Chorea lle gelwir ef yn kim neu'n gim).
Fe'i canfyddir ar draethau gorllewinol ynys Prydain ac arfordir ddwyreiniol Iwerddon. Ac fel y nodwyd eisioes, mae hefyd yn tyfu ar arfordiroedd Japan a Korea. Mae'n wahanol i bob math arall o wymon gan nad yw ei drwch yn ddim ond un gell.[1]
Y math mwyaf cyffredin ydy'r gwymon porffor (Porphyra laciniata/Porphyra umbilicalis).[2]
[golygu] Dolennau allanol
- (Saesneg) Gwefan Celtnet.org
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/tm_objectid=14828141&method=full&siteid=50082&headline=laverbread-name_page.html Gwefan Saesneg WalesOnline
- ↑ http://www.algaebase.org/search/species/detail/?species_id=102 Erthygl Saesneg: Algaebase : Species Detail.