Bando

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Ar gyfer y grŵp pop Cymraeg o'r 1980au, gweler Bando (grŵp pop)

Math o chwarae a fu'n boblogaidd gan y werin ledled Cymru oedd bando. Roedd yn debyg i hoci neu hurley ond amrywiai'r rheolau o fro i fro. Roedd yn arbennig o boblogaidd yn y 18fed ganrif ond parhaodd mewn rhannau o'r wlad hyd tua diwedd y 19eg ganrif.

Arferid ei chwarae ar feysydd gwastad, weithiau ar draethau, rhwng dau dîm o hyd at hanner cant o chwaraewyr yr un. Fel chwaraeon gwerinol eraill, nid oedd rheolau pendant ar wahân i'r nod o yrru pêl i gôl ar y naill pen a'r llall o'r maes chwarae, a oedd weithiau'n eang iawn. Defnyddiai'r chwaraewyr pren wedi'i dorri'n arbennig ar gyfer y chwarae gyda math o flaen crwca: dyma'r bando.

Cyfeiria John Elias (a ystyriai ei fod yn chwarae anfoesol) a Lewis Morris at chawarae bando yng ngogledd Cymru, a chofiai David Lloyd George am chwarae bando ym mhlwyf Llanystumdwy, Eifionydd.

Ond ceir y dystiolaeth orau o fro Morgannwg yn y de. Yno yr oedd plwyfi a phentrefi cyfagos yn cystadlu â'i gilydd a thyrrai rhai miloedd o bobl i weld y chwarae weithiau, yn arbennig ar arfordir de Bro Morgannwg. Cyfeiria un tyst at chwarae bando ar y twyn ym mis Ebrill 1777. Dywedai fod dynion, merched a phlant yn mynd yno. Roedd gan pob chwaraewr tri bando gan eu bod yn torri'n aml. Dywed Iolo Morganwg ei fod yn arfer gwneud prennau bando o brennau onn ac yw irwydd, pan yn fachgen yn ardal Trefflemin a'u gwerthu i'r chwaraewyr am rwng 3c a 6c yr un. Parhaodd chwarae bando yn y Fro hyd chwarter olaf y 19eg ganrif: ceir disgrifiad cofiadwy yn y gyfrol Hanes Siencyn Penhydd (1850) gan Edward Mathews, Ewenni.

Cyfeiriadau[golygu]

  • Meic Stephens (gol.), Cydymaith i lenyddiaeth Cymru.
  • G. J. Williams, Iolo Morganwg (Caerdydd, 1956)