Heddluoedd Cymru

Oddi ar Wicipedia
Heddluoedd Cymru

Ceir pedwar heddlu yng Nghymru:

  1. Heddlu Dyfed-Powys
  2. Heddlu Gwent
  3. Heddlu Gogledd Cymru
  4. Heddlu De Cymru

Yn wahanol i'r sefyllfa yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, nid yw'r grym dros waith yr heddlu wedi'i ddatganoli i Senedd Cymru, felly mae gwaith heddluoedd Cymru yn cael ei reoli ar lefel wleidyddol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn golygu bod yr heddluoedd yn cael eu rheoli ar sail Cymru a Lloegr ar hyn o bryd. Ers 2021, mae pedwar Comisiynydd Heddlu yn cael eu hethol, bob pedair blynedd fel arfer, i oruchwylio gwaith pedwar heddlu Cymru.

Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.