Ynys Sgomer

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae Ynys Sgomer[1] yn ynys tua thri chilometr sgwâr oddi ar arfordir Sir Benfro. Mae'n fwyaf adnabyddus fel man nythu i nifer fawr o adar y môr, ac mae yn warchodfa sy'n eiddo i Ymddiriedolaeth Natur Gorllewin Cymru. Ymhlith y pwysicaf o'r rhain mae Aderyn-Drycin Manaw; credir fod tua 250,000 o barau yn nythu ar Ynys Sgomer ac Ynys Sgogwm gerllaw, tua hanner poblogaeth y byd. Mae hefyd tua 10,000 o barau o'r Pâl yn nythu ar Sgomer a Sgogwm, a niferoedd sylweddol o nifer o rywogaethau eraill.

Mae hefyd un mamal unigryw ar yr ynys, y "Skomer Vole" (Clethrionomys glareolus skomerensis). Mae gwardeiniaid yno yn yr haf, ond nid oes poblogaeth barhaol wedi bod yno ers 1958. Gellir gweld olion hen dai a chylch cerrig ar yr ynys.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Mae sillafiad Sgomer yn ymddangos yng Ngeiriadur yr Academi
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
WalesPembrokeshire.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Benfro. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato