Clustog Fair

Oddi ar Wicipedia
Armeria maritima
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau craidd
Urdd: Caryophyllales
Teulu: Plumbaginaceae
Genws: Armeria
Rhywogaeth: A. maritima
Enw deuenwol
Armeria maritima
Philip Miller

Planhigyn blodeuol lluosflwydd a llysieuol yw Clustog Fair sy'n enw benywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Plumbaginaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Armeria maritima a'r enw Saesneg yw Thrift.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Archmain, Blodyn y Morwr, Cenrin Arfor, Clustog Mair (mae'n gywir i ddweud "clustog Fair" neu "clustog Mair" gan mai perthynas perthynol ac nid ansoddeiriol sydd rhwng y ddau air - mae treigliad meddal ar ôl enw benywaidd yn ddewisol dan yr amgylchiadau yna, er enghraifft: ffair lyfrau a dinas dysg)

Mae i'w chanfod mewn gwahanol hinsawdd: o'r arctig i ardaloedd trofannaol ond fe'i cysylltir yn bennaf gyda thir hallt (fel y 'Steppes'), rhostiroedd ac arfordiroedd.

Symboliaeth[golygu | golygu cod]

Aeth yr hen "bishyn tair" allan o ddefnydd gyda degoli'r arian ar y 15 Chwefror 1971. Ymddangosai ddelwedd o glustog Fair arno yn gyson. Tybir mai chwarae ar ddau ystyr y gair thrift sydd yma?

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: