Cog
| Cog | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Cuculiformes |
| Teulu: | Cuculidae |
| Genws: | Cuculus |
| Rhywogaeth: | C. canorus |
| Enw deuenwol | |
| Cuculus canorus (Linnaeus, 1758) |
|
Aderyn sy'n aelod o deulu'r Cuculiformes yw'r gog (lluosog: cogau) neu'r gwcw (lluosog: cwcwod) (Cuculus canorus).
Mae'r gog yn nythu ar draws rhannau helaeth o Ewrop ac Asia, ac yn gaeafu yn Affrica. Un o nodweddion enwocaf yr aderyn yw ei fod yn dodwy ei wyau yn nyth rhywogaeth arall o aderyn, yn arbennig Llwyd y Gwrych, Corhedydd y Waun a Telor y Cyrs. Enw arall ar Gorhedydd y Waun yw "Gwas y Gog". Gall cyw'r gog daflu'r cywion eraill o'r nyth, i sicrhau ei fod ef yn cael yr holl fwyd.
Mae'n aderyn cymharol fawr, llwyd o ran lliw, a gall edrych yn debyg iawn i aderyn ysglyfaethus o gael cipolwg arno'n hedfan. Daw'r enw "cwcw" o alwad yr aderyn.
Er fod y gog yn parhau yn aderyn cymharol gyffredin yng Nghymru, mae ei niferoedd wedi gostwng dros yr ugain mlynedd diwethaf. Mae'n cyrraedd o Affrica tua chanol Ebrill fel rheol, ac mae clywed y gog yn cael ei ystyried yn arwydd o wanwyn. Caiff Clychau'r Gog eu henw oherwydd eu bod yn blodeuo yn yr un cyfnod.