Joe Calzaghe
Paffiwr a phencampwr y byd yw Joseph William "Joe" Calzaghe MBE (ganwyd 23 Mawrth 1972, Hammersmith, Llundain). Mae ganddo'r llysenwau The Pride of Wales a The Italian Dragon oherwydd ei wreiddiau cymysg; cafodd ei eni yn Llundain ond mae ei dad, Enzo Calzaghe, o dras Eidalaidd a Chymraes ydy ei fam. Mae'n byw yn Nhrecelyn ger Cwmbran yn ne bwrdeistref sirol Torfaen ac mae'n cael ei hyfforddi gan ei dad.
Cafodd ei enwebu gan y cylchgrawn The Ring fel un o'r 10 paffiwr gorau'r byd. Ychwanegodd yn Nhachwedd 2007 goron uwch-ganol y WBA a'r WBC at goron y WBO a oedd ganddo eisioes. Camodd i fyny i'r adran is-drwm yn 2008.
Y ffeit olaf [golygu]
Yng Ngorffennaf 2008, wedi iddo ef a Frank Warren wahanu, fe gyhoeddwyd yn swyddogol o fwriad iddo ef â Roy Jones Jr. baffio ym mhenbcampwriaeth 'The Ring Magazine; Light-Heavyweight yn Efrog Newydd (Madison Square Garden ar Fedi'r 20ed, 2008. Gan i Calzaghe frifo'i law dde, gohiriwyd yr ornest tan 8 Tachwedd, 2008.
Yn yr ornest hon, o flaen cynulleidfa o 14,512 (a miliynau dros y cyfryngau), Galzaghe a orfu (ar bwyntiau). Mae felly wedi curo pob gorchest baffio ar hyd ei yrfa, hyd yma: 46 ohonynt. Ar ôl yr ornest, pan gafodd gwestiwn ynglŷn ag ymddeol dywedodd, "I am going to sit down with my family, take some time and think about it."
Ymddeol [golygu]
Mae wedi ymddeol o baffio ers Chwefror 2009. Dim ond 4 paffiwr erioed sydd wedi ymddeol heb gael cweir.
Teledu [golygu]
Mae wedi cystadlu yn y cyfres Strictly Come Dancing yn 2009 gyda'i cydweddog Kristina Rihanoff.
| Rhagflaenydd: Tanni Grey-Thompson |
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru 2001 |
Olynydd: Mark Hughes |
| Rhagflaenydd: Gareth Thomas |
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru 2006 & 2007 |
Olynydd: Shane Williams |