Wicipedia:Pigion

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Gweler hefyd: Pigion hŷn

Hedd Wyn[golygu cod y dudalen]

Hedd Wyn

Hedd Wyn oedd enw barddol Ellis Humphrey Evans (1887-1917). Roedd yn dod o'r Ysgwrn, Trawsfynydd, Sir Feirionnydd yng Ngogledd Cymru. Roedd yn filwr yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Ef a enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw. Cafodd ei ladd ar faes y gad cyn y cadeirio a dyna pam y gelwir yr Eisteddfod honno yn Eisteddfod y Gadair Ddu.



Petroliwm[golygu cod y dudalen]

Ffynnon olew yng Nghanada

Tanwydd ffosil yw petroliwm neu olew crai sy'n cael ei echdynnu o'r ddaear mewn gwledydd ar draws y byd, ond yn enwedig yn y dwyrain canol, UDA, Rwsia a Feneswela. Mae'n adnodd anadnewyddadwy a defnyddir i wneud petrol, plastig ayyb. Mae petroliwm yn hylif tew brown tywyll fel arfer, sy'n cynnwys cymysgedd cymhleth o hydrocarbonau fflamadwy. Caiff y petroliwm ei buro i roi amryw o ffracsiynau trwy broses o ddistyllu ffracsiynol.




Yr Haul[golygu cod y dudalen]

Magnificent CME Erupts on the Sun - August 31.jpg

Yr Haul yw'r seren agosaf at y Ddaear a chanolbwynt Cysawd yr Haul. Mae'r Haul tua 4,000,000,000 o flynyddoedd oed ac mae tua hanner ffordd trwy ei oes. Mae diamedr yr Haul tua 865,000 milltir (1,400,000 km), ac mae tua 93,000,000 o filltiroedd (tua 150,000,000 km) o'r Ddaear (+/- 1,500,000 milltir / 2,400,000 km trwy'r flwyddyn). Mae'n pwyso tua 330,000 gwaith yn fwy na phwysau'r ddaear. Mae'n llosgi drwy ymasiad niwclear sef proses sy'n asio niwclei hydrogen yn ei gilydd gan ei droi'n heliwm.

Mae enw'r Haul yn dod o'r gair Brythoneg tybiedig *sāul, sydd yn ei dro yn deillio o'r un gwreiddyn Indo-Ewropeaidd â'r gair Groeg Helios (ἑλιος), a'r gair Lladin Sol...



Patagonia[golygu cod y dudalen]

Llyn Espejo, Patagonia

Rhanbarth daearyddol yn Ne America yw Patagonia sy'n ymestyn o Chile ar draws yr Andes i'r Ariannin. Deillia'r enw Patagonia o Batagones, sef enw'r bobl gyntaf i gyrraedd yr ardal rhyw 10,000 o flynyddoedd yn ôl.



Plaid Cymru[golygu cod y dudalen]

Triban Plaid Cymru

Wedi'i sefydlu yn 1925, yn bennaf fel mudiad ieithyddol, yn draddodiadol y mae Plaid Cymru wedi bod yn fwyaf cryf yn y Gymru Gymraeg yn y gorllewin a'r gogledd.

Am flynyddoedd lawer gwrthododd y Blaid sefyll mewn etholiadau i Senedd Prydain, ond enillodd ei sedd seneddol gyntaf mewn is-etholiad yn sedd Caerfyrddin ar y 14eg o Orffennaf 1966 pan enillodd Gwynfor Evans, llywydd y blaid ar y pryd. Methodd gadw'r sedd yn etholiad 1970. Collodd o 3 pleidlais yn Etholiad Cyffredinol gwanwyn 1974 ond fe enillodd y sedd yn Etholiad Cyffredinol Hydref 1974. Collodd y sedd wedyn yn 1979.



Renminbi[golygu cod y dudalen]

2 yuan

Uned wreiddiol y renminbi yw'r yuan. Mae Yuan yn ysgrifenedig fel arfer fel , ond i rwystro ffugio mae'n ysgrifenedig yn ffurfiol fel 圆. Ambell waith caiff enw'r arian renminbi ei ddrysu gydag enw'r uned wreiddiol, sef yr yuan. Mae un yuan yn cynnwys 10 jiao (角). Mae 1 jiao yn cynnwys 10 fen (分). Gwerth mwyaf y renminbi yw 100 yuan. Y lleiaf yw 1 fen.



Y Normaniaid[golygu cod y dudalen]

Castell Penfro

Pobl o ogledd Ffrainc, â'u gwreiddiau yn Llychlyn (yn bennaf o Ddenmarc) oedd y Normaniaid (yn llythrennol: gwŷr y Gogledd). Gorchfygodd Gwilym II, dug Normandi Loegr yn ystod Brwydr Hastings ym 1066 a chael ei goroni'n Gwilym I, brenin Lloegr.



Siciaeth[golygu cod y dudalen]

Sikh pilgrim at the Golden Temple (Harmandir Sahib) in Amritsar, India.jpg

Crefydd un Duw yw Siciaeth neu Sikhaeth sy'n seiliedig ar athrawiaeth y deg Guru a drigai yng ngogledd India yn yr 16eg ganrif a'r 17eg ganrif. Mae'n un o brif grefyddau'r byd gyda dros 23 miliwn o ddilynwyr. Dyma bumed crefydd mwya'r byd gyda dros 30 miliwn o ddilynwyr. Adnabyddir y system hon o athroniaeth crefyddol fel Gurmat (a drosir fel 'doethineb y Gurū'). Yr unig ranbarth yn y byd gyda mwyafrif o'i boblogaeth yn Sikhiaid ydy Punjab, India. Dau gredo sylfaenol Siciaeth yw: y gred gyntaf yw'r gred mewn un Duw. Yr ail gred yw dilyn athrawiaethau'r Deg Guru.



Telyn[golygu cod y dudalen]

Gwenan Gibbard yn canu telyn yng Ngŵyl Tegeingl

Offeryn cerdd gyda rhes o dannau (lluosog "tant") yw'r delyn, er fod gan y delyn deires dair rhes o dannau. Mae nifer o feirdd wedi disgrifio'r delyn yn eu barddoniaeth, ac arferid canu cerddi i gyfeiliant y delyn. Mae'n ymddangos fod y delyn Gymreig yn y bymthegfed a'r unfed ganrif ar bymtheg â cholofn syth iddi gyda'r seinfwlch wedi ei naddu o un darn o gelynen neu ywen.



Morfuwch[golygu cod y dudalen]

Morfuwch gyda llo

Un o famaliaid mawr y dŵr yw'r forfuwch (teulu Trichechidae, rhywogaeth Trichechus). Mae'r Trichechidae yn wahanol i'r Dugongidae o ran siâp y benglog a'r gynffon. Mae cynffon y forfuwch ar ffurf rhwyf; ond cynffon fforchog sydd gan y dwgong. Llysysydd yw'r forfuwch sy'n treulio llawer o'i hamser yn pori mewn dyfroedd bâs.



Afon Tafwys[golygu cod y dudalen]

Afon Tafwys yn Westminster edrych tua'r de

Afon yn ne Lloegr sy'n llifo drwy Lundain i Fôr y Gogledd yw Afon Tafwys. Tardd yr afon ger pentref Kemble yn ardal y Cotswolds cyn llifo'r afon am 346km (215 milltir) drwy Rydychen, Reading, Maidenhead, Eton, Windsor a Llundain a chyrraedd Môr y Gogledd, ger cefnen dywod y Nore.



Gŵydd Wyllt[golygu cod y dudalen]

Gŵydd Wyllt

Mae'r Ŵydd wyllt (Lladin: Anser anser) yn un o'r gwyddau mwyaf cyffredin. Tiriogaeth yr ŵydd yma yw'r rhan fwyaf o wledydd Ewrop ac eithrio'r de-orllewin, a thrwy Asia cyn belled â Tsieina. Mae'n magu ei chywion ar dir gwlyb megis corsdir, rhostir neu'n agos at lyn. Mae'n ŵydd fawr, 74-84 cm o hyd a 149-168 cm ar draws yr adenydd. Gellir adnabod y rhywogaeth yma o blith y "gwyddau llwydion" eraill o'i phig pinc (yn y ffurf Asiaidd) neu'n binc-oren (yn y ffurf Ewropeaidd), a'i choesau pinc.



Alotrop[golygu cod y dudalen]

Alotrop

Mae gan rai elfennau yn eu ffurf bur fwy nag un ffurf bosibl i'w hadeiledd cemegol. Gelwir y gwahanol ffurfiau hyn yn alotropau. Mae'r term alotrop yn cynnwys moleciwlau o atomau o un elfen yn unig megis nwyon deuatomig. Un ffurf benodol o'r elfen yw'r ffurf sefydlog o dan unrhyw amodau (e.e. gwasgedd a thymheredd) penodol ond, os yw'r trawsnewidiad o un ffurf i'r llall yn digwydd yn araf gan fod egni actifadu uchel i'r broses, gall sawl ffurf o elfen fodoli ar yr un pryd. Mae gan alotropau o'r un elfen briodweddau gwahanol gan fod y bondio cemegol rhwng yr atomau ynddynt wedi eu trefnu'n wahanol.



Vespasian[golygu cod y dudalen]

Vespasian

Vespasian (17 Tachwedd 9 - 23 Mehefin 79) oedd y pedwerydd ymerawdwr Rhufeinig i deyrnasu yn ystod Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr, a'r unig un o'r pedwar i fedru ddal ei afael ar yr orsedd. Teyrnasodd hyd at 23 Mehefin 79. Ei enw gwreiddiol oedd Titus Flavius Vespasianus ond wedi iddo ddod yn ymerawdwr cymerodd yr enw Caesar Vespasianus Augustus. Ganed Vespasian yn Falacrina, ac ef oedd yr ymerawdwr cyntaf nad oedd yn dod o deulu aristocrataidd. Teyrnasodd am ddeng mlynedd, a dilynwyd ef gan ei fab hynaf Titus.



Yr Wyddfa[golygu cod y dudalen]

Yr Wyddfa

Mynydd uchaf Cymru, a'r mynydd uchaf ym Mhrydain i'r de o Ucheldiroedd yr Alban, yw'r Wyddfa (1,085m/3,560 troedfedd) .

Fe'i ceir ym Mharc Cenedlaethol Eryri yng Ngwynedd; y copa yw canolbwynt mynyddoedd Eryri. Mae trên bach Rheilffordd Eryri yn dringo i gopa'r Wyddfa o Lanberis i'r rhai nad ydynt am gerdded i fyny. Adeiladwyd y lein yn 1896. Ar y copa ceir bwyty a siop sydd wrthi'n cael eu hadnewyddu.

Mae tua 350,000 o bobl yn cerdded i gopa'r Wyddfa bob blwyddyn, a thua 60,000 arall yn cyrraedd y copa ar y trên bach. Ceir golygfeydd o ardal eang o'r copa; nid yn unig ran helaeth o ogledd a chanolbarth Cymru ond ar ddiwrnod clir Gweriniaeth Iwerddon, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Lloegr. Yr olyfga bellaf rhwng dau bwynt ar ynys Prydain, mewn theori, yw'r olygfa rhwng copa'r Wyddfa a chopa Merrick yn ne yr Alban, pellter o 144 milltir (232 km); gellir ei gweld o Bleaklow yn Ardal y Peak yn aml hefyd, pellter o 96 milltir. mwy...


Ensym[golygu cod y dudalen]

"Diagram rhuban" ar gyfer yr ensym Triosffosffadisomeras (TIM).

Sylweddau sy'n cataleiddio (h.y. cyflymu) adweithiau cemegol mewn organebau byw yw ensymau. Yn yr adweithiau hyn, gelwir y moleciwlau ar ddechrau yr adwaith yn swbstrad, ac mae'r ensym yn eu trawsnewid yn foleciwlau gwahanol, sef y cynnyrch, heb newid y strwythur ei hun yn ystod y broses. Mae angen ensymau ar gyfer bron pob proses mewn cell er mwyn iddynt weithio ar raddfa sylweddol. Gan fod ensymau'n hynod o ddetholiadol ac yn cyflymu ond ychydig o adweithiau ymysg nifer o bosibiliadau, mae'r set o ensymau mewn cell yn penderfynu llwybr metabolaidd cynnwys y gell. mwy...


Penmaenmawr[golygu cod y dudalen]

Golygfa ar orllewin Penmaenmawr o'r Gwddw Glas

Mae Penmaenmawr yn dref ym mhlwyf Dwygyfylchi, yng ngogledd-orllewin Sir Conwy (hen Sir Gaernarfon), gogledd Cymru, poblogaeth tua 4,000. Mae'n dref glan môr sydd wedi tyfu o gwmpas y chwarel, ond nid oes llawer o bobl yn gweithio yn y chwarel bellach. Mae'n sefyll ar arfordir y gogledd rhwng tref Conwy a Bangor, ar yr A55. Mae ganddi orsaf ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Mae iddi dri ward, pob un a'i gymeriad ei hun; Penmaenan yn y gorllewin, Pant-yr-afon yn y canol a phentref Dwygyfylchi yn y gorllewin.

Bu newid mawr yn sgîl creu'r lôn ddeuol newydd, yr "Expressway" (A55) yn y 1980au, pan gollodd y dref ran helaeth o'i phromenâd cyfnod Edwardaidd oedd yn boblogaidd gan bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd, ond codwyd un newydd yn ei le. Mae Penmaenmawr yn nodedig am ei llwybrau cerdded ar y bryniau a'i golygfeydd hardd. Mae Bwlch Sychnant yn denu ymwelwyr, ac mae rhan o'r dref yn gorwedd ym Mharc Cenedlaethol Eryri. mwy...


William Shakespeare[golygu cod y dudalen]

William Shakespeare

Bardd a dramodydd Saesneg oedd William Shakespeare (c. 23 Ebrill 1564 - 23 Ebrill 1616), a anwyd yn Stratford-upon-Avon, Lloegr.

Credir iddo fynychu King Edward VI Grammar School lle y byddai wedi dysgu'r rhan fwyaf o'r technegau sydd eu hangen i ysgrifennu. Priododd Anne Hathway, o Stratford a chawsant dri o blant: Hamnet, Judith a Susannah. pan oedd oedd yn 18 mlwydd oed. Does dim llawer o hanes i gael am William Shakespeare yn ystod y 1580au, felly cyfeirir at y cyfnod hwnnw fel "y blynyddoedd coll".

Erbyn 1592 roedd Shakespeare yn wyneb cyfarwydd mewn cylchoedd llenyddol. Roedd yn un o berchenogion cwmni drama'r Lord Chamberlain's Men yn 1594 (newidiwyd yr enw i The King's Men ar ôl coroni Iago I). Cyfansoddodd 38 o ddramâu cyn iddo farw'n 52 oed.

Ymhlith ei ddramâu enwocaf y mae: Romeo a Juliet, Macbeth, King Lear, Hamlet ac Othellomwy...


Nicole Cooke[golygu cod y dudalen]

Nicole Cooke yn ennill 19fed Ras

Seiclwraig rasio proffesiynol yw Nicole Cooke (ganwyd 13 Ebrill 1983, Abertawe). Mae hi'n byw yn Lugano, y Swistir.

Magwyd Cooke yn Y Wig, Bro Morgannwg, a dechreuodd seiclo yn ifanc. Yn un ar bymtheg oed, enillodd ei theitl cenedlaethol hŷn cyntaf. Yn 2001 cafodd wobr y Bidlake Memorial Prize, a roddir ar sail perfformiadau arbennig neu gyfraniad arbennig i welliant seiclo. Enillodd bedwar Teitl Iau y Byd, yn cynnwys un ym Mhortiwgal yn 2001. Cystadleuodd yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2002, ac enillodd y ras ffordd i ferched gan ddiweddu gyda sbrint syfrdanol. mwy...


Nadolig[golygu cod y dudalen]

Golygfa o enedigaeth Crist

Gŵyl Gristnogol flynyddol yw'r Nadolig, sy'n dathlu genedigaeth Iesu Grist. Mae nifer o arferion yn gysylltiedig â'r Nadolig, sydd wedi cael eu dylanwadu gan wyliau cynharach y gaeaf. Mae'r dyddiad yn ben-blwydd traddodiadol Crist, er nad yw'n cael ei ystyried i fod yn wir ddyddiad ei ben-blwydd.

Yn y rhan fwyaf o wledydd y byd, dethlir y Nadolig ar y 25 Rhagfyr. Yr enw a roddir i'r diwrnod o'i flaen yw Noswyl y Nadolig (24 Rhagfyr). Yng ngwledydd Prydain a nifer o wledydd y Gymanwlad dethlir Gŵyl San Steffan ar 26 Rhagfyr (Saesneg: Boxing Day). Mae hon yn ŵyl banc yn y Deyrnas Unedig (a Gogledd Iwerddon). Mae Eglwys Apolistaidd Armenia yn dathlu'r Nadolig ar 6 Ionawr tra bod rhai Eglwysi Uniongred Dwyreiniol hynafol yn ei ddathlu ar 7 Ionawr, y dyddiad yn ôl Calendr Gregori sy'n cyfateb i'r 25 Rhagfyr yng Nghalendr Julian. mwy...


Diwydiant llechi Cymru[golygu cod y dudalen]

"Arlwydd Penmachno" - un o gymeriadau'r diwydiant llechi ym 1885 - yn Chwarel y Penrhyn, o bosib.

Dechreuodd diwydiant llechi Cymru yn y cyfnod Rhufeinig, pan ddefnyddiwyd llechi ar do caer Segontium, Caernarfon. Tyfodd y diwydiant yn araf hyd ddechrau’r 18fed ganrif, yna bu tŵf cyflym hyd ddiwedd y 19eg ganrif. Roedd yr ardaloedd cynhyrchu llechi pwysicaf yng ngogledd-orllewin Cymru, gan gynnwys Chwarel y Penrhyn ger Bethesda, Chwarel Dinorwig ger Llanberis, Dyffryn Nantlle a Blaenau Ffestiniog, lle roedd y llechi yn dod o gloddfeydd tanddaearol yn hytrach na chwareli agored. mwy...


Sahara[golygu cod y dudalen]

Anialwch y Sahara

Y Sahara yw'r anialwch neu ddiffeithiwch mwyaf yn y byd. Mae'n cyfateb i faint yr Unol Daleithiau, yn ymestyn rhyw 5000 km ar draws gogledd Affrica o'r Môr Iwerydd yn y gorllewin i'r Môr Coch yn y dwyrain. Does ond ychydig o fywyd yn y diffeithiwch ei hunan a cheir y rhan fwyaf o'r bywyd sydd ynddo yn yr ardal a elwir Sahel sef yr ardal sydd yn ymestyn ar draws y cyfandir ar ochr ddeheuol y Sahara ac hefyd ar y rhimyn gogleddol. Fel y teithir fwy fwy i'r de fe wna'r coed, y llwyni a bywyd yn gyffredinol amlhau.

Nid tywod yn unig yw'r Sahara. Mae rhannau enfawr yn cael ei orchuddio gan raean garw, gyda llawer o'r graig a'r cerrig yn dod o'r lafa a ddaeth unwaith o'r mynyddoedd tân. mwy...



Caerdydd[golygu cod y dudalen]

Castell Caerdydd

Caerdydd yw dinas fwyaf Cymru a'i phrifddinas. Roedd Caerdydd yn dref fechan tan flynyddoedd cynnar y 19eg ganrif. Tyfodd yn gyflym gyda dyfodiad y chwyldro diwydiannol ac yn arbennig pan gysylltwyd y cymoedd â rheilffyrdd fel y gellid allforio glo o'r porthladd. Yn 1851 'roedd poblogaeth Caerdydd yn 20,000 ond erbyn 1911 roedd yn 182,000 ac erbyn 1991 roedd yn 269,000. Yn 1891 roedd Caerdydd yn allforio 708,000 o dunelli o lo: erbyn 1911 roedd yr allforion yn 10 miliwn tunnell.

Roedd porthladd Caerdydd yn cael ei adnabod fel Tiger Bay, ac ar un adeg hwn oedd un o borthladdoedd mwyaf prysur y byd. Ar ôl cyfnod hir o ddirywiad, mae'r ardal wedi cael ei hadnewyddu fel Bae Caerdydd. Gobeithir y daw yn ardal boblogaidd ar gyfer y celfyddydau, bywyd nos ac adloniant. Daw'r twf aruthrol yma ar ôl adeiladu argae ar draws y bae, gan greu llyn enfawr.Yr oedd hyn yn ddadleuol iawn ar y pryd, ac yr oedd hefyd yn ofid fod y gymuned leol a oedd yn bodoli yn Tiger Bay yn cael ei chwalu. Ym Mae Caerdydd yr ymsefydlodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yno mae Canolfan y Mileniwm sydd yn gartref i Urdd Gobaith Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru yn ogystal â Stadiwm y Mileniwm. mwy...



Ukiyo-e[golygu cod y dudalen]

Golygfa o Fynydd Fuji o Numazu (rhan o'r gyfres Pumdeg tri gwersyll y Tokaido gan Hiroshige, gyhoeddwyd 1850)

Mae Ukiyo-e (Siapaneg 浮世絵), sef "lluniau o'r byd cyfnewidiol", yn genre o brintiau bloc pren a lluniau Nikuhitsuga a gynhyrchid yn Siapan o'r 17fed ganrif hyd ddechrau'r 20fed ganrif, sy'n cynnwys golygfeydd o fyd y theatr a'r ardaloedd adloniant poblogaidd yn nhrefi Siapan ac, yn ddiweddarach, tirluniau rhamantaidd.

Cyfeiria'r enw Ukiyo, sy'n golygu "y byd cyfnewidiol", neu yn fwy llythrennol "y byd sy'n arnofio", ar wyneb realiti fel petai, am nad yw'n parhau, neu "y pasiant sy'n mynd heibio", at y diwylliant ifanc newydd a flodeuai yn y trefi mawr fel Edo (Tokyo heddiw), Osaka, a Kyoto, a oedd yn fyd ar wahân yng nghymdeithas Siapan. Yn ogystal mae'n swnio'n union fel y gair ukio "Byd Trallod, Byd Trist" (憂き世), term a ddefnyddir gan Fwdhiaid Siapan i ddynodi'r byd daearol sy'n ynghlwm wrth eni a marwolaeth ac yn rhwystr i Oleuedigaeth. mwy...



Morgan Llwyd[golygu cod y dudalen]

Llyfr y Tri Aderyn yw gwaith enwocaf Morgan Llwyd

Bardd, llenor rhyddiaith a chyfrinydd oedd Morgan Llwyd (16193 Mehefin 1659), a gafodd ei eni yng Nghynfal-fawr (hen blasdy gwledig, filltir i'r de o Ffestiniog) ym mhlwyf Maentwrog yn yr hen Sir Feirionnydd (de Gwynedd heddiw), i'r un teulu â'r bardd Huw Llwyd. Fe'i gelwir weithiau Morgan Llwyd o Wynedd. Roedd yn awdur toreithiog yn y Gymraeg ac ysgrifenodd ambell destun Saesneg yn ogystal. Roedd yn Biwritan argyhoeddedig a digyfaddawd ond ni pherthyn iddo'r culni meddwl a gysylltir â'r mudiad crefyddol hwnnw. Enwir Ysgol Morgan Llwyd, ysgol gyfrwng Gymraeg Wrecsam a'r cylch, ar ei ôl. Enillodd Crwys Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1919 am ei awdl 'Morgan Llwyd o Wynedd'. mwy...


Cromlech[golygu cod y dudalen]

Cromlech Maen y Bardd, ger Bwlch-y-Ddeufaen, Conwy

Man claddu cynhanesyddol a wnaed o dair maen neu ragor ar eu sefyll ac un maen yn gorwedd ar eu traws yw cromlech (gair Cymraeg sydd wedi'i fenthyg i'r Saesneg); defnyddir yr enw Llydaweg cyfatebol dolmen yn amlach yn yr iaith honno. Codwyd y rhan fwyaf ohonynt yn Oes Newydd y Cerrig (neu'r Neolithig). Fe geir cromlechi (neu gromlechau) yn eithaf cyffredin yng Nghymru, Cernyw a'r Alban hefyd, ond yn llai cyffredin yn ne-ddwyrain Lloegr.

Yn wreiddiol roedd meini'r gromlech yn ffurfio siambr yng nghanol siambr gladdu ond ar ôl i'r cerrig a phridd a godwyd drostynt gael eu herydu neu eu golchi i ffwrdd dim ond y meini mawr sy'n aros. Yn y llun, gwelir cromlech 'Maen y Bardd', Rowen ger Conwy. mwy...



Abaty Tyndyrn[golygu cod y dudalen]

Abaty Tyndyrn, 1993

Abaty enwog ar lan Afon Gwy ger pentref Tyndyrn, Sir Fynwy, yw Abaty Tyndyrn. Sefydlwyd abaty Tyndyrn gan Walter de Clare, Arglwydd Cas-gwent, ar 9 Mai, 1131. Hon oedd ond yr ail sefydliad Sistersaidd ym Mhrydain a'r cyntaf yng Nghymru. Mae'n un o'r adfeilion mwyaf ysblennydd yn y wlad, a ysbrydolodd nifer o gampweithiau; cerdd Tintern Abbey gan William Wordsworth; cerdd Abaty Tyndyrn gan John Blackwell (Alun); nifer o baentiadau gan J. M. W. Turner; ceir yn ogystal band o'r enw "Tintern Abbey".

Roedd Walter de Clare, o deulu pŵerus de Clare, hefyd yn perthyn drwy briodas i'r Esgob William o Gaer-wynt, a gyflwynodd y drefedigaeth gyntaf o Sistersiaid i Waverley yn 1128. Daeth y mynaich i Dyndyrn o dŷ cangen Cîteaux, L'Aumône, yn esgobaeth Blois, Ffrainc. mwy...


Y Ceffyl[golygu cod y dudalen]

Biandintz eta zaldiak - modified2.jpg

Mamal dof yw ceffyl sy'n perthyn i deulu'r equidae. Mae ceffylau wedi cael eu defnyddio gan bobl ers rhai miloedd o flynyddoedd ar gyfer marchogaeth a thynnu cerbydau neu gerbydau rhyfel yn ogystal ag ar gyfer aradu mewn amaethyddiaeth. Heddiw, mae rasio ceffylau yn parhau yn boblogaidd iawn. Megir ceffylau hefyd am eu cig ac er mwyn gwaith. Mae yfed llaeth caseg yn boblogaidd ym Mongolia. Yng Nghymru ceir Cymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig i warchod a bridio rhywogaeth sy'n unigryw i Gymru.

mwy...



Dewi Sant[golygu cod y dudalen]

Dewi Sant (yng nghapel Coleg yr Iesu yn Rhydychen)

Dewi Sant yw nawddsant Cymru. Yn y Llawysgrif "Buchedd Dewi" ysgrifennodd mynach o'r enw Rhigyfarch fod Dewi'n fab i Non. Credir iddo farw tua'r flwyddyn 589. Caiff ei ddisgrifio gan fardd o'r 9fed ganrif fel "y dyfrwr", gan mai dŵr yn unig a yfai ac mewn llawysgrif Wyddelig o'r un ganrif sonir am bwysigrwydd y 1af o Fawrth a'i enwi'n Ddydd Gŵyl Dewi.

Yn ôl traddodiad cafodd ei eni yn Henfynyw ger Aberaeron, ond mae traddodiad arall yn cyfeirio at Capel Non, gerllaw Eglwys Gadeiriol Tyddewi heddiw. Ei fam oedd y santes Non a'i dad oedd Sandde brenin Ceredigion.

Mae'n eithaf sicr iddo sefydlu ei abaty yn Nhyddewi (yr hen enw oedd Mynyw: Menevia) ac mae cyfeiriad at fynachlog yno mewn llawysgrif Wyddelig o tua'r flwyddyn 800. Enw arall ar y lle yw Glyn Rhosyn, sy'n gamgyfieithiad o'r Lladin vallis rosina sydd, o'i gyfieithu'n gywir, yn golygu cwm corsiog. mwy...


Yr Orsaf Ofod Ryngwladol[golygu cod y dudalen]

Y gofodwr Tracy Caldwell Dyson yn Cupola ISS

Yr Orsaf Ofod Ryngwladol (Saesneg: International Space Station) yw'r unig orsaf ofod sy'n y gofod heddiw. Lloeren artiffisial ydyw a gellir ei gweld yn y cyfnos gyda'r llygad noeth; dyma'r gwrthrych artiffisial mwyaf sy'n cylchu'r Ddaear. Mae llawer o wledydd wedi cyd-weithio er mwyn adeiladu'r orsaf, gan gynnwys Rwsia gyda'i roced Proton a Soyuz, yr Unol Daleithiau gyda'r wennol ofod, Siapan, Canada, a'r gwledydd sy'n aelodau o'r ESA (Sefydliad Gofod Ewropeaidd (European Space Agency).


Lansiwyd y modiwl cyntaf yn 1998. Mae'r ISS, fel y caiff ei hadnabod yn cynnwys elfen fechan o ddisgyrchiant a'i phwrpas yw caniatáu i ofodwyr oddi mewn iddi gynnal arbrofion mewn bioleg, bioleg dynol, ffiseg, seryddiaeth, meteroroleg a meysydd eraill. mwy...


Owain Glyndŵr[golygu cod y dudalen]

Llun enwog A.C. Michael yn dangos Owain yn arwain ei fyddin i'r gad.

Yn ddisgynydd i dywysogion Powys, Owain Glyn Dŵr neu Owain ap Gruffudd (1354-c.1416) oedd y Cymro olaf i gael ei alw'n Dywysog Cymru. Ymddangosodd comed yn ystod misoedd Chwefror a Mawrth 1402, a ystyrid gan lawer yn argoel o fuddugoliaeth Owain ac felly, rhoddwyd iddo'r llysenw Y Mab Darogan.

Etifeddodd arglwyddiaethau Glyndyfrdwy a Chynllaith gyda'i brif ganolfan yn Sycharth, ger Llansilin, Powys. Astudiodd y gyfraith yn Llundain, a gwasanaethodd gyda lluoedd Henry Bolingbroke, gwrthwynebwr Rhisiart II, brenin Lloegr, a adnabyddwyd yn ddiweddarach fel Harri IV, brenin Lloegr.

Ym mis Medi 1400, flwyddyn ar ôl i Harri feddiannu gorsedd Lloegr, daeth ffrae rhwng Glyndŵr a'i gymydog Reginald Grey, 3ydd Barwn Grey de Ruthyn i'w anterth, a ddatblygodd yn gyflym i fod yn wrthryfel dros annibyniaeth Cymru. mwy...


Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru[golygu cod y dudalen]

Cymru yn erbyn yr Eidel, Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, 2008. Cymru 47, Yr Eidel 8.

Mae tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru yn cynrychioli Cymru mewn gemau rhyngwladol. Dyma'r tîm sy'n cynrychioli Cymru ym mhencampwriaeth y chwe gwlad ac hefyd yng nghystadleuaeth Cwpan Rygbi'r Byd a gynhelir bob pedair blynedd. Dewisir aelodau o'r tîm hefyd i chwarae gyda'r Llewod Prydeinig a Gwyddelig.

Enillodd Cymru'r bencampwriaeth am y tro cyntaf yn 1893, gan ennill y Goron Driphlyg hefyd. Enillwyd y bencampwriaeth eto yn 1900, gan ddechrau "oes aur" gyntaf rygbi Cymru, oedd i barhau hyd 1911. Wedi cyfnod llai llewyrchus, cafwyd blynyddoedd llwyddiannus eto yn hanner cyntaf y 1950au. Cafwyd trydydd "oes aur" rhwng 1969 a 1982. Yn 1971, cyflawnodd Cymru'r Gamp Lawn am y tro cyntaf ers 1952. mwy...


Y Mathemategydd William Jones[golygu cod y dudalen]

Pi-unrolled-720.gif

Mae'r cysonyn mathemategol π a sillafir hefyd fel Pi yn rhif real, anghymarebol sydd yn fras yn hafal i 3.141592654 (i 9 lle degol). Cafodd ei enwi gan William Jones, mathemategydd o Gymro.

Dyma fformwla Leibniz:

Mae gan π nifer o ddefnyddiau mewn mathemateg, ffiseg a pheirianeg. Enwau arall am π yw Cysonyn Archimedes a Rhif Ludolph. mwy...


Diwydiant copr Cymru[golygu cod y dudalen]

Mynydd Parys

Gellir olrhain diwydiant copr Cymru yn ôl i Oes yr Efydd. Copr yw'r prif fetel mewn efydd, gydag ychydig o dun wedi ei ychwanegu i'w galedu. Mae olion cloddfeydd copr o'r cyfnod yma wedi eu darganfod yng Nghwmystwyth, Mynydd Sygun, Mynydd Parys ar Ynys Môn ac yn arbennig ar Ben y Gogarth ger Llandudno, lle roedd siafftiau hyd at ddyfnder o 70 medr. Dechreuwyd mwyngloddio copr ar Ben y Gogarth tua 4000 o flynyddoedd yn ôl, a chafodd mwy na phedair milltir o dwneli ac ogofâu eu cloddio yn ystod Oes yr Efydd, pan ddefnyddiwyd cerrig igneaidd yn ogystal ag esgyrn gwartheg, defaid, geifr ac ati fel offer cloddio. Mae'n bosibl fod copr wedi cael ei allforio o Ben y Gogarth i gyfandir Ewrop yn ystod yr Oes Efydd.

Bu'r Rhufeiniaid hefyd yn cloddio am gopr ar Fynydd Parys a Phen y Gogarth. Dechreuodd mwyngloddio ar raddfa fawr ym Mynydd Parys yn 1768, pan ddarganfuwyd gwythïen gyfoethog o gopr yno. mwy...


9 / 11[golygu cod y dudalen]

Dyn Tân yn gofyn am gymorth; 14 Medi.

Cyfres o bedair cyrch terfysgol ar yr Unol Daleithiau oedd ymosodiadau 11 Medi, 2001. Ar fore Dydd Mawrth, 11 Medi 2001, meddiannodd 19 o aelodau al-Qaeda bedair awyren fasnachol – trawodd dwy ohonynt Ganolfan Masnach y Byd a'r Pentagon a syrthiodd y llall ar gae yn Swydd Somerset, Pennsylvania, er i'r teithwyr geisio adennill rheolaeth ar yr awyren yn dilyn ei meddiannu gan yr herwgipwyr. Bu farw tua 3000 o bobl yn yr ymosodiadau, gan gynnwys yr herwgipwyr.

Ymateb yr Unol Daleithiau oedd dechrau "Rhyfel ar Derfysgaeth" gan oresgyn Afghanistan i geisio diorseddu y Taliban a oedd wedi rhoi lloches i derfysgwyr al-Qaeda... mwy...


Glyn Ceiriog[golygu cod y dudalen]

Glyn Ceiriog

Hen bentref chwareli llechi yw Glyn Ceiriog (Llansantffraid Glyn Ceiriog yn llawn), yn Mwrdeistref Sirol Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru. Gorwedd y pentref ar lan afon Ceiriog a'r ffordd B4500, 6.5 milltir (10 km) i'r gorllewin o'r Waun a 3.5 milltir (5.5 km) i'r de o Langollen. Yn wleidyddol mae'n rhan o ward Dyffryn Ceiriog, yn etholaeth cynulliad De Clwyd a'r etholaeth seneddol o'r un enw. Roedd chwareli llechi estynedig yno ac adeiladwyd Ffordd Tramiau Dyffryn Glyn i gymryd y llechi i lanfa ar Gamlas Undeb Swydd Amwythig ac yn nes ymlaen i gyfnewid traciau gyda rheilffordd y Great Western Railway o Gaer i Amwythig. mwy...


Trydan[golygu cod y dudalen]

Trydan

Trydan yw'r nodwedd a welir mewn gronynnau is-atomig (electronau a phrotonau) a'r atyniad sydd rhyngddynt. Mae trydan yn fath o ynni; mewn ffiseg, mae disgyrchiant yn tynnu gwrthrychau o fan uchel i fan isel. Llifa dŵr o ardal uchel yn y wlad i'r môr sydd yn is. Dyma'r hyn sy'n digwydd gyda cerrynt trydanol hefyd - mae ynni'n symud o fan uchel i fan isel. Math arall o atyniad ydy trydan, fel disgyrchiant, ond yn anhebyg i ddisgyrchiant, dim ond ar sylweddau neu fater eraill sydd hefyd â gwefr drydanol mae trydan yn cael effaith. Os yw wedi'i wefru, fe symudith tuag at wrthrych arall sydd â pholaredd i'r gwrthwyneb neu i ffwrdd o rywbeth sydd â'r un polaredd. Mae'r polareddau hyn yn rhai positif (+) a negatif (-). mwy...


Paris[golygu cod y dudalen]

Paris a'r afon Seine

Prifddinas a dinas fwyaf Ffrainc yw Paris. Mae hi ar un o ddolenni Afon Seine, ac felly wedi ei rhannu yn ddwy: y lan dde i'r gogledd a'r lan chwith i'r de o'r afon. Mae'r afon yn enwog am ei quais (llwybrau gyda choed ar hyd y glannau), bythod llyfrau awyr agored a hen bontydd dros yr afon. Mae'n enwog hefyd am ei rhodfeydd, er enghraifft y Champs-Élysées, a llu o adeiladau hanesyddol eraill.

Mae tua 2 filiwn o bobl yn byw yn y ddinas (1999: 2,147,857 o drigolion), ond mae tua 11 miliwn o bobl yn byw yn Ardal y Brifddinas (aire urbaine de Paris yn Ffrangeg; 1999: 11,174,743 o drigolion), sy'n llenwi tua 90% o arwynebedd rhanbarth Île-de-France. Yn ogystal mae Paris yn un o départements Ffrainc. mwy...


Tom Pryce[golygu cod y dudalen]

Tom Pryce, Rhuthun

Gyrrwr Fformiwla Un o Gymru oedd Thomas Maldwyn Pryce (11 Mehefin, 19495 Mawrth, 1977). Enillodd Pryce y "Brands Hatch Race of Champions" yn 1975 ac ef yw'r unig Gymro i arwain mewn Grand Prix Fformiwla Un: dwy lap o Grand Prix Prydain 1975.

Dechreuodd Pryce ei yrfa Fformiwla 1 gyda'r tîm bychan Token, gan ddechrau un ras gyda nhw yn Grand Prix Gwlad Belg 1974. Ar ôl perfformiad da mewn ras Fformiwla Tri yn Monaco yn yr un flwyddyn, ymunodd Pryce â thîm Shadow ac enillodd ei bwyntiau cyntaf ar ôl pedair ras. Ei ganlyniadau gorau oedd trydydd safle mewn dwy ras. Ystyrid Pryce yn yrrwr talentog iawn ar drac gwlyb gan ei dîm. Yn ystod sesiwn ymarfer ar gyfer Grand Prix De Affrica 1977, a hi'n bwrw glaw yn drwm, Pryce oedd y cyflymaf o bawb, gan gynnwys dau bencampwr byd, sef Niki Lauda a James Hunt. Yn ystod ei drydydd tymor llawn gyda'r tîm Shadow, lladdwyd Pryce yn ystod Grand Prix De Affrica 1977, wrth iddo daro swyddog a oedd yn croesi'r trac i ddelio gyda phroblem car arall. mwy...


Sadwrn[golygu cod y dudalen]

Sadwrn

Sadwrn yw planed ail fwyaf Cysawd yr Haul. Mae'n blaned o nwy yn hytrach nag o graig. Sadwrn yw'r chweched blaned oddi wrth yr Haul.

Enwyd y blaned ar ôl duw amaeth ym mytholeg Rhufeinig. Roedd y duw Groegaidd cysylltiedig, Cronos, yn fab i Wranws a Gaia ac yn dad i Zews (Iau) a Poseidon (neu Neifion mewn chwedloniaeth Geltaidd). Mae'r duw hwn hefyd yn gysylltiedig ag amser a henaint. Gwybyddir am Sadwrn ers amserau cynhanesyddol. Galileo oedd y cyntaf i edrych arni gyda thelesgop ym 1610. Cafodd arsylwadau cynnar eu cymhlethu gan y ffaith bod y Ddaear weithiau'n pasio trwy blaenau modrwyau Sadwrn wrth i Sadwrn droi yn ei chylchdro. Cafodd geometreg modrwyau Sadwrn ei hegluro gan Christian Huygens ym 1659. mwy...



Y Wladfa[golygu cod y dudalen]

Y traeth yn Puerto Madryn, Chubut

Ardal yn nhalaith Chubut, Patagonia, yr Ariannin lle ymfudodd llawer o Gymry yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw'r Wladfa (neu Gwladfa Patagonia). Mae cymunedau Cymreig mewn gwledydd eraill hefyd, megis Pennsylvania ac ardaloedd eraill yr UDA neu Awstralia, ond mae'r diwylliant a'r iaith Gymraeg yn amlycaf yn y Wladfa.

Craidd y Wladfa yw Dyffryn Camwy, tua 60 km i'r de o Borth Madryn. Afon Camwy (Río Chubut) yw prif ffynhonnell dŵr yr ardal. Ystyr yr enw gwreiddiol Chupat yn iaith y Tehuelches brodorol yw 'Tryloyw'. Y prif drefi yw Rawson, prifddinas y dalaith ers 1884, Gaiman, y dref fwyaf Cymreig yn yr ardal, Dolavon a Threlew yn y dwyrain ac Esquel a Threvelin tua 500 milltir i'r gorllewin, yng Nghwm Hyfryd, wrth draed yr Andes.

Heddiw, mae tua 150,000 o bobl yn byw yn yr ardal a thua 20,000 ohonynt yn ddisgynyddion i'r Cymry. Mae tua 5,000 ohonynt yn siarad Cymraeg a channoedd yn dysgu'r iaith. Mwy...


Uchelwydd[golygu cod y dudalen]

Uchelwydd yn tyfu ar Fedwen Arian

Uchelwydd yw'r enw cyffredin am grŵp o blanhigion lled-barasitig sy'n tyfu ar goeden neu brysgwydd. Esblygodd barasitiaeth naw gwaith yn unig ym myd planhigion; o'r naw hynny, mae'r uchelwydd parasitig wedi esblygu'n annibynnol bump gwaith: Misodendraceae, Loranthaceae, Santalaceae (a ystyriwyd yn flaenorol o deulu gwahanol yr Eremolepidaceae), a Santalaceae (a arferai gael ei ystyried fel rhan o deulu'r Viscaceae).

Mae uchelwydd yn blanhigyn gwenwynig sy'n achosi problemau gastro-berfeddol difrifol gan gynnwys poen yn y stumog a dolur rhydd ynghyd a phwls isel. mwy...


Comic Relief[golygu cod y dudalen]

Logo'r elusen

Elusen Prydeinig yw Comic Relief. Fe'i sefydlwyd yn 1985 gan ysgrifennydd sgript comig Richard Curtis mewn ymateb i'r newyn yn Ethiopia. Cychwynodd gwaith yr elusen gydag adroddiad yn fyw o wersyll ffoaduriaid yn Sudan ar BBC 1 ym 1985. Syniad y gweithiwr elusennol Jane Tewson oedd Comic Relief a'r 'diwrnod trwyn coch'. Mae'r elusen yn codi llawer o arian drwy ddarlledu rhaglenni doniol sy'n cynnwys nifer o bobl enwog sy'n creu hwyl, mewn ymgais i godi arian ar gyfer elusennau Gwledydd Prydain ac yn bennaf elusennau Affrica sy'n helpu diddymu clefydau megis HIV, AIDS a Malaria.