William Williams (Crwys)
| William Williams | |
|---|---|
Ffotograff y bardd o'i ail gyfrol, Cerddi Newydd Crwys (1924). | |
| Ffugenw | Crwys |
| Ganwyd | 4 Ionawr 1875 Craig-cefn-parc |
| Bu farw | 1968, 13 Ionawr 1968 |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | bardd, gweinidog yr Efengyl |
| Swydd | Archdderwydd |
Bardd Cymraeg o Gymru oedd William Williams (enw barddol: Crwys) (4 Ionawr 1875 – 13 Ionawr 1968). Roedd yn Archdderwydd Gorsedd y Beirdd rhwng 1939 a 1947. Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol deirgwaith a chyhoeddodd bedair cyfrol o gerddi yn ei oes.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Brodor o Graig Cefn Parc, ger Clydach, yn yr hen Sir Forgannwg oedd Crwys. Roedd yn fab i grydd, ac yn ei dŷ nid oedd llawer o lyfrau ond y Beibl ac ychydig o rai eraill. Ond roedd ewythr Crwys, Ap Llywelyn yn fardd ac yn un â'r gallu i englyna. Ef a fagodd ddiddordeb Crwys mewn barddoniaeth. Cynghaneddwr yn bennaf oedd Ap Llywelyn, ond ei waith crefyddol oedd yn dal sylw Crwys. Ganed mewn tŷ wrth ymyl Mynydd y Gwair yn 1875 , ond ni arhosodd yno drwy ei oes, yn hytrach, aeth i ffwrdd i'r gogledd am ychydig. [angen ffynhonnell]
Cymerodd ei enw Crwys o enw Capel yr Annibynwyr, 'Pant y Crwys' yn ei bentref.
Aeth i Ysgol Rhydaman lle roedd yn paratoi i ddod yn weinidog, byddai'n mynd ar hyd y ffordd i Landeilo yn aml iawn i'r ysgol, a mynd heibio i garreg filltir. Yr un yw hwn sydd yn ei gerdd enwog, "Y Garreg Filltir". Aeth o'r ysgol yn Rhydaman i Goleg Bangor lle y cyfarfu â'i wraig, Grace Harriet Jones.
Yna symudodd i Fryn-mawr i weinidogaethu, ond pregethai yn Saesneg gan amlaf, ac roedd ei blant hyd yn oed yn siarad Saesneg. Yn ei ôl ef, roedd gweld yr iaith Gymraeg yn marw yn yr ardal yn ei dristhau'n arw. Cymharodd ei ardal Nant-y-glo i Nant yr Eira a dywedodd nad oedd y Gymraeg yn medru byw yn y glo, nid fel oedd mewn eira.
Bu farw yn 93 oed a fe'i claddwyd ym mynwent Pant y Crwys.[1]
Gwaith llenyddol
[golygu | golygu cod]Roedd prif ddylanwadau Crwys yn cynnwys beirdd fel Watcyn Wyn, John Morris Jones a Ceiriog. Dechreuodd sylwi mwy ar y technegau a ffyrdd o ysgrifennu, ac fe ddaeth ei neges yn gliriach o farddoni mewn arddull delynegol. Un o'i delynegion mwyaf enwog yw "Melin Trefin".
Enillodd y goron dair gwaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, ym 1910 (ar "Ednyfed Fychan"), 1911 ("Gwerin Cymru") a 1919 ("Morgan Llwyd o Wynedd").
Mae Crwys yn adnabyddus am ganu telynegol a swynol, a meddai Cefin Campbell amdano: "Dewisiodd ganu'n syml a dirodres, yn uniongyrchol a di-ffrils."[2] Er gwaetha'r geiriau syml yn aml iawn mae ganddo neges bwysig. Mae treigl amser a dihoeni dyn yn bwnc a bwysodd lawer ar feddwl Crwys, ac mae rhai o'i gerddi enwocaf, "Melin Trefin", "Y Garreg Filltir", "Dysgub y Dail" a "Llythyr", yn ymdrin â'r thema hon.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Cyhoeddodd bedair cyfrol o gerddi:
- Cerddi Crwys (1920)
- Cerddi Newydd Crwys (1924)
- Trydydd Cerddi Crwys (1935)
- Cerddi Crwys: y pedwerydd llyfr (1944)
Ysgrifennodd hunangofiant yn ogystal:
- Mynd a Dod (1945)
Oriel
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Y Parchedig William Rhys Nicholas, "Williams, William ('Crwys 1875 - 1968)", Y Bywgraffiadur Cymreig. Adalwyd ar 7 Awst 2025.
- ↑ Robert Rhys (gol.), Y Patrwm Amryliw (Llandybïe: Cyhoeddiadau Barddas, 1997).