Craig-cefn-parc

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Craig Cefn Parc
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAbertawe Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7092°N 3.9156°W Edit this on Wikidata

Mae Craig Cefn Parc ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (neu Graig-cefn-parc) yn bentref yn agos i dre Clydach, yn ne Cymru. Mae'n rhan o gymuned Mawr yn Abertawe. Saif gwarchodfa natur Cwm Clydach yr RSPB yn ne'r pentref, yn agos i'r New Inn, ar y ffin rhwng Craig Cefn Parc a Clydach. Mae gan y pentref Swyddfa Bost a siop, tafarn o'r enw'r Rock & Fountain Inn a neuadd bentref. Ceir hefyd ysgol gynradd cyfrwng Saesneg yno.

Mae Craig Cefn Parc yn enwog am ei hanes lofaol. Yng nghalon Cwm Clydach mae ambell un o'r hen dai glo yn dal i sefyll. Gwelir tram glo yng nghanol y pentref fel cofeb i'r gwaith glo.

Ganwyd William Crwys Williams (Crwys), y bardd enwog o'r 20g yng Nghraig Cefn Parc, ac mae modd gweld 'border bach' chwedl ei gerdd ar ochr llethrau'r cwm. Bardd arall a gafodd ei fagu yng Nghraig Cefn Parc oedd nai Crwys, Gwilym Herber.