Mawr

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Mawr
Math Cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlad Baner Cymru Cymru
Arwynebedd 57.81 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 51.709°N 3.984°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Rebecca Evans (Llafur)
AS/au Tonia Antoniazzi (Llafur)

Cymuned yn sir Abertawe yw Mawr. Saif ar dir bryniog i'r gogledd o Langyfelach. Cafodd ei enw gan mai'r tir yma oedd y darn mwyaf o dir yn hen blwyf Llangyfelach.

Mae'r gymuned yn cynnwys Craig-cefn-parc, Felindre a Penlle'r Castell. (Felindre ydy prif bentref y gymuned.) Roedd poblogaeth y gymuned yn 1,800 yn 2001, gyda 56.27% ohonynt yn medru rhywfaint o Gymraeg, y ganran uchaf yn sir Abertawe.

Defnyddir yr enw hefyd fel enw'r ward etholiadol.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Rebecca Evans (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Tonia Antoniazzi (Llafur).[1][2]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Mawr (pob oed) (1,850)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Mawr) (686)
  
38.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Mawr) (1504)
  
81.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Mawr) (253)
  
33%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013