James Hunt
Gwedd
| James Hunt | |
|---|---|
| Ganwyd | James Simon Wallis Hunt 29 Awst 1947 Belmont |
| Bu farw | 15 Mehefin 1993 Wimbledon |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | gyrrwr Fformiwla Un, gyrrwr ceir cyflym, darlledwr |
| Tad | Wallis Hunt |
| Mam | Sue |
| Priod | Suzy Miller |
| Chwaraeon | |
| Tîm/au | Hesketh Racing, McLaren, Wolf Racing Cars |
| Gwlad chwaraeon | y Deyrnas Unedig |
Gyrrwr rasio Fformiwla Un o Loegr oedd James Simon Wallis Hunt (29 Awst 1947 – 15 Mehefin 1993). Enillodd bencampwriaeth y byd yn 1976.
Ganed ef i deulu cefnog yn Belmont, Sutton, Llundain. Dechreuodd rasio yn Fformiwla Un yn 1973, yn gyrru car March 731 i dîm Hesketh Racing. Yn 1975 ymunodd â thîm McLaren, ac yn ei flwyddyn gyntaf o yrru iddynt, enillodd bencampwriaeth y byd wedi i Niki Lauda, oedd yn arwain y bencampwriaeth, gael damwain ddifrifol hanner ffordd trwy'r tymor. Ymddeolodd o rasio yn 1979, a daeth yn sylwebydd i'r BBC.