Soyuz

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Soyuz (Rwsieg: Союз, ynganu [sɐˈjus], "Undeb") yw enw'r rhaglen cerbyd gofod hynaf yn hanes dyn yn y gofod i fod yn gweithredu heddiw. Cafodd y cerbyd ei ddylunio yn y 1960au i gymryd lle Vostok fel cerbyd dynol yr Undeb Sofietaidd. Hedfanodd y capsiwl cyntaf, Soyuz 1, ar 23 Ebrill 1967, ond roedd yna nifer o namau difrifol yn ystod y daith, a bu farw'r peilot, Vladimir Komarov, yn ystod y daith yn ôl i'r ddaear. Ail-ddyluniwyd nifer o is-sustemau cyn i'r cerbyd ddechwelyd i'r gofod, ac ers hynny, mae'r cerbyd Soyuz wedi profi'n ffordd dibynadwy iawn o fynd i'r gofod - mae gofodwyr o fwy nac ugain o wledydd wedi cymryd rhan mewn teithiau yn y cerbyd, gan gynnwys gofodwyr NASA, a Helen Sharman, y person cyntaf o wledydd Prydain i fynd i'r gofod a Tim Peake, yr ail. Soyuz yw'r unig ffordd o gyrraedd yr Orsaf Ofod Ryngwladol (International Space Station) ar ôl i NASA lansio'r wennol ofod am y tro olaf yn 2010. Yn 2016 roedd NASA yn parhau i ddatblygu rocedi newydd i lansio pobl i'r gofod mewn partneriaeth a'r sector breifat.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Russia-Satellite.svg Eginyn erthygl sydd uchod am gerbyd gofod Rwsiaidd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
USSR-Satellite.svg Eginyn erthygl sydd uchod am gerbyd gofod Sofietaidd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.