Vostok

Oddi ar Wicipedia
Vostok
Enghraifft o'r canlynolrhaglen danfon pobl i'r gofod, Soviet space program Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1961 Edit this on Wikidata
Daeth i ben1963 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysVostok 1, Vostok 2, Vostok 3, Vostok 4, Vostok 5, Fostoc 6 Edit this on Wikidata
GwladwriaethYr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Yuri Gagarin a Vostok 1 ar stamp Sofietaidd a gyhoeddwyd yn 1961

Vostok ("dwyrain") oedd enw'r rhaglen gyntaf i roi dyn yn y gofod, a oedd yn weithredol o 1961 i 1965 gan yr Undeb Sofietaidd. Dyluniwyd y llongau gofod Vostok gan dîm o beiriannwyr Rwsaidd dan arweiniaeth Sergei Korolev.

Yn nhermau eu dyluniad, roedd y cerbydau Vostok yn gapsiylau cymharol elfennol, gyda modiwl ar gyfer cosmonaut, a modiwl arall yn cynnwys sustemau cyfathrebu ayyb.

Llwyddodd Yuri Gagarin i fynd i'r gofod ar 12 Ebrill 1961 yn Vostok 1.

Voskhod[golygu | golygu cod]

Cafodd dyluniad y capsiwl ei newid yn 1964 i gynnwys criw o dri gofodwr; ail-enwyd y cerbyd Voskhod ("codiad"), a hedfanodd dau ohonynt yn 1964 a 1965. Ar yr ail daith Voskhod yn 1965, gwnaeth Alexei Leonov adael y cerbyd i gerdded yn y gofod - y dyn cyntaf i wneud hyn. Llwyddodd yr Unol Daleithiau i efelychu'r gamp wythnosau wedyn. Gwelwyd y gamp fel buddugoliaeth fawr i'r Undeb Sofietaidd yn ystod y Rhyfel Oer.

Gwnaeth y cerbyd Soyuz ("undeb") gymryd lle Voskhod yn y 1960au hwyr fel cerbyd gofod dynol yr Undeb Sofietaidd.

Eginyn erthygl sydd uchod am gerbyd gofod Sofietaidd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.