Gorsaf Ofod Ryngwladol
| Enghraifft o: | gorsaf ofod, space laboratory, lloeren artiffisial o'r Ddaear |
|---|---|
| Màs | 419,725 cilogram |
| Dechrau/Sefydlu | 20 Tachwedd 1998 |
| Lleoliad | low Earth orbit |
| Yn cynnwys | Zarya, Unity, Zvezda, Destiny, Canadarm2, Quest Joint Airlock, Pirs, Harmony, Columbus, Dextre, Kibo, Poisk, Tranquility, Cupola, Rassvet, Integrated Truss Structure, Leonardo, Bigelow Expandable Activity Module, Nauka, Prichal, Mobile Servicing System |
| Gweithredwr | NASA, Roscosmos State Corporation, Asiantaeth Ofod Ewropeaidd, Japan Aerospace Exploration Agency, Asiantaeth Ofod Canada |
| Rhagflaenydd | Space Station Freedom |
| Rhanbarth | Outer Space Treaty area |
| Hyd | 66.4 metr |
| Echreiddiad orbital | 0.0010107 |
| Gwefan | https://www.nasa.gov/international-space-station/ |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/03wky |
Gorsaf Ofod Ryngwladol (Saesneg: International Space Station, ISS, Rwsieg: Междунаро́дная косми́ческая ста́нция, МКС) yw enw'r unig orsaf ofod sydd yn y gofod heddiw. Lloeren artiffisial ydyw wedi'i llunio ar ffurf nifer o fodiwlau a gellir ei gweld yn y cyfnos gyda'r llygad noeth; dyma'r gwrthrych artiffisial mwyaf sy'n cylchu'r Ddaear. Mae llawer o wledydd wedi cyd-weithio er mwyn adeiladu'r orsaf, gan gynnwys Rwsia gyda'i roced Proton a Soyuz, yr Unol Daleithiau gyda'r wennol ofod, Siapan, Canada, a'r gwledydd sy'n aelodau o'r ESA (Sefydliad Gofod Ewropeaidd (European Space Agency).[1]
Lansiwyd y modiwl cyntaf yn 1998. Mae'r ISS, fel y caiff ei hadnabod, yn cynnwys elfen fechan o ddisgyrchiant a'i phwrpas yw caniatáu i ofodwyr oddi mewn iddi gynnal arbrofion mewn bioleg, bioleg dynol, ffiseg, seryddiaeth, meteroroleg a meysydd eraill.[2][3]
Profodd y gwaith ymchwil hyd yma fod effaith tymor hir byw mewn man heb ddisgyrchiant yn gwanhau cyrff y gofodwyr: atroffi'r cyhyrau a lleihau'r esgyrn er enghraifft. Bydd canlyniadau'r gwaith ymchwil a'r holl ddata'n cael eu defnyddio i benderfynu a yw byw ar roced heb ddisgyrchiant ar daith tymor hir (e.e. taith 6-mis i'r Blaned Mawrth) yn bosibl. Hyd yma, canfuwyd fod cryn risg i'r gofodwr gyda thorri esgyrn a chyfyngiadau o ran symud y corff yn debygol.[4][5]

Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ ["Central Research Institute for Machine Building (FGUP TSNIIMASH) Control of manned and unmanned space vehicles from Mission Control Centre Moscow". Asiantaeth Ffedral y Gofod, Rwsia. Adalwyd 5 Mawrth 2015
- ↑ "International Space Station Overview". ShuttlePressKit.com. 3 Mehefin 1999. Cyrchwyd 17 Chwefror 2009.
- ↑ "Fields of Research". NASA. 26 Mehefin 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Ionawr 2008. Cyrchwyd 5 Mawrth 2015.
- ↑ Jay Buckey (23 Chwefror 2006). Space Physiology. Oxford University Press USA. ISBN 978-0-19-513725-5.
- ↑ List Grossman (24 Gorffennaf 2009). "Ion engine could one day power 39-day trips to Mars". New Scientist. Cyrchwyd 8 Ionawr 2010.