Gŵydd lwyd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Gŵydd wyllt)
Gŵydd Wyllt
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Anseriformes
Teulu: Anatidae
Genws: Anser
Rhywogaeth: A. anser
Enw deuenwol
Anser anser
(Linnaeus, 1758)
Anser anser

Mae'r Ŵydd wyllt (Anser anser) a adnabyddid ers Mawrth 2018 fel Gŵydd lwyd yn un o'r gwyddau mwyaf cyffredin. Ceir yr ŵydd hon yn rhan fwyaf o wledydd Ewrop ac eithrio'r de-orllewin, a thrwy Asia cyn belled â Tsieina. Mae'n magu ei chywion ar dir gwlyb fel corsdiroedd, rhostiroedd neu'n agos at lyn.

Mae dwy is-rywogaeth o'r Ŵydd lwyd:

  • A. a. anser (Gŵydd lwyd y Gorllewin)
  • A. a. rubrirostris (Gŵydd lwyd y Dwyrain)

Mae'n ŵydd fawr, 74–84 cm o hyd a 149–168 cm ar draws yr adenydd. Mae'r plu yn llwyd. Gellir adnabod y rhywogaeth yma o blith y "gwyddau llwydion" eraill gan fod ei phig yn binc (yn y ffurf Asiaidd) neu'n binc-oren (yn y ffurf Ewropeaidd), a'i choesau'n binc. Pan mae'n hedfan mae darnau mawr o liw llawer goleuach ar yr adenydd na sydd ar adenydd gwyddau eraill.

O'r math yma o ŵydd y datblygwyd y gwyddau dof a welir yn Ewrop a Gogledd America. Mae gwyddau dof sydd wedi dianc yn aml yn ymuno â heidiau o Wyddau llwydion.

Aderyn mudol yw'r Ŵydd lwyd fel arfer, yn magu cywion yng ngogledd Ewrop ac Asia ac yn hedfan tua'r de dros y gaeaf. Mae'r rhan fwyaf o'r rhai a welir yng Nghymru yn ddisgynyddion adar a gafodd eu rhyddhau yn fwriadol, flynyddoedd yn ôl. Bellach, gwelir weithiau heidiau o hyd at fil o adar o gwmpas Ynys Môn a glannau'r Fenai, ac nid yw'r adar hyn yn mudo.

Bu'r naturiaethwr Konrad Lorenz yn astudio ymddygiad y rhywogaeth yma'n ddyfal. Pwrpas ei astudiaethau a'i arbrofion oedd archwilio cysyniad gwasgnodi mabol (filial imprinting). Yn ogystal ag ysgrifennu papurau gwyddonol, ysgrifennodd lyfr ar gyfer y werin ar y pwnc hwn.

Datblygwyd yr Ŵydd ddof yn Ewrop, Gogledd Affrica a gorllewin Asia o'r rhywogaeth yma.

Teulu[golygu | golygu cod]

Mae'r ŵydd lwyd yn perthyn i deulu'r Hwyaid (Lladin: Anatidae). Dyma aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Hwyaden Ddanheddog Mergus merganser
Hwyaden Frongoch Mergus serrator
Hwyaden gribog Brasil Mergus octosetaceus
Hwyaden gribog Tsieina Mergus squamatus
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.