Gŵydd lwyd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gŵydd Wyllt
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Anseriformes
Teulu: Anatidae
Genws: Anser
Rhywogaeth: A. anser
Enw deuenwol
Anser anser
(Linnaeus, 1758)

Mae'r Ŵydd Wyllt (Anser anser) a adnabyddid ers Mawrth 2018 fel Gŵydd lwyd yn un o'r gwyddau mwyaf cyffredin. Ceir yr ŵydd hon yn rhan fwyaf o wledydd Ewrop ac eithrio'r de-orllewin, a thrwy Asia cyn belled â Tsieina. Mae'n magu ei chywion ar dir gwlyb fel corsdiroedd, rhostiroedd neu'n agos at lyn.

Mae dwy is-rywogaeth o'r Ŵydd lwyd:

  • A. a. anser (Gŵydd lwyd y Gorllewin)
  • A. a. rubrirostris (Gŵydd lwyd y Dwyrain)

Mae'n ŵydd fawr, 74–84 cm o hyd a 149–168 cm ar draws yr adenydd. Mae'r plu yn llwyd. Gellir adnabod y rhywogaeth yma o blith y "gwyddau llwydion" eraill gan fod ei phig yn binc (yn y ffurf Asiaidd) neu'n binc-oren (yn y ffurf Ewropeaidd), a'i choesau'n binc. Pan mae'n hedfan mae darnau mawr o liw llawer goleuach ar yr adenydd na sydd ar adenydd gwyddau eraill.

O'r math yma o ŵydd y datblygwyd y gwyddau dof a welir yn Ewrop a Gogledd America. Mae gwyddau dof sydd wedi dianc yn aml yn ymuno â heidiau o Wyddau llwydion.

Aderyn mudol yw'r Ŵydd lwyd fel arfer, yn magu cywion yng ngogledd Ewrop ac Asia ac yn hedfan tua'r de dros y gaeaf. Mae'r rhan fwyaf o'r rhai a welir yng Nghymru yn ddisgynyddion adar a gafodd eu rhyddhau yn fwriadol, flynyddoedd yn ôl. Bellach, gwelir weithiau heidiau o hyd at fil o adar o gwmpas Ynys Môn a glannau'r Fenai, ac nid yw'r adar hyn yn mudo.

Bu'r naturiaethwr Konrad Lorenz yn astudio ymddygiad y rhywogaeth yma'n ddyfal. Pwrpas ei astudiaethau a'i arbrofion oedd archwilio cysyniad gwasgnodi mabol (filial imprinting). Yn ogystal ag ysgrifennu papurau gwyddonol, ysgrifennodd lyfr ar gyfer y werin ar y pwnc hwn.

Datblygwyd yr Ŵydd ddof yn Ewrop, Gogledd Affrica a gorllewin Asia o'r rhywogaeth yma.

Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r ŵydd lwyd yn perthyn i deulu'r Hwyaid (Lladin: Anatidae). Dyma aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:


rhywogaeth enw tacson delwedd
Alarchŵydd Anser cygnoides
Anser cygnoides-Beijing.jpg
Gŵydd benrhesog Anser indicus
Bar-headed Goose - St James's Park, London - Nov 2006.jpg
Gŵydd Dalcen-wen Anser albifrons
Anser albifrons albifrons Swallow Pond 2.jpg
Gŵydd dalcenwen fechan Anser erythropus
Anser erythropus.jpg
Gŵydd Droedbinc Anser brachyrhynchus
Anser brachyrhynchus.jpg
Gŵydd eira Anser caerulescens
Chen caerulescens 32498.JPG
Gŵydd frech Anser canagicus
Chen canagica Adak Island 1.jpg
Gŵydd lafur y twndra Anser fabalis
Bean.goose.600pix.jpg
Gŵydd Ross Anser rossii
Anser rossii -California, USA-8a.jpg
Gŵydd wyllt Anser anser
Graugans Anser Anser.jpg
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.