Wicipedia:Pigion hŷn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Tywodfaen[golygu cod y dudalen]

Tywodfaen coch yn UDA

Carreg waddodiaidd yw tywodfaen. Cwarts a ffelspar sydd ynddo'n bennaf. Y rheswm am hyn yw bod cwarts yn fwyn cryf iawn sy'n aros ar ôl hyd yn oed pan mae mwynau eraill yn diflannu trwy erydiad.



Senedd Ewropeaidd[golygu cod y dudalen]

Delwedd:Senedd Ewropeaidd, yn Strasbourg

Senedd yr Undeb Ewropeaidd yw'r Senedd Ewropeaidd. Fe'i seiliwyd yn Strasbwrg o dan dermau protocol Cytundeb Amsterdam, ond mae ei phwyllgorau yn cwrdd ym Mrwsel gan fod Cyngor Gweinidogion Ewrop a'r Comisiwn Ewropeaidd yn y ddinas honno hefyd.



Tafod[golygu cod y dudalen]

Tafod dynol

Swp o gyhyrau yn y geg yw tafod. Ei swyddogaeth yw i drafod a blasu bwyd. Yn ogystal a hyn, fe'i ddefnyddir i siarad -- onibai am y tafod, ni fyddai modd ynganu bron unrhyw gytsain, nag ambell i lafariad chwaith.



David Lloyd George[golygu cod y dudalen]

Lloyd George

Roedd David Lloyd George, Iarll 1af Lloyd George o Ddwyfor (17 Ionawr 1863 - 26 Mawrth 1945), "y Dewin Cymreig", yn wleidydd Cymreig ac yn Brif Weinidog ar y Deyrnas Unedig. Ym Manceinion, Lloegr, y cafodd ei eni. Ym mlwyddyn olaf ei oes cafodd ei ddyrchafu i fod yn Iarll gan y Brenin Sior VI o'r Deyrnas Unedig.



Haul[golygu cod y dudalen]

Yr Haul

Yr Haul yw'r seren agosaf at y ddaear. Fe'i grëwyd tua 4,000,000,000 o flynyddoedd yn ôl, ac mae tua hanner ffordd trwy ei oes. Mae'r Haul yn mesur rhyw 865,000 milltir o begwn i begwn, a'i bellter o'r Ddaear yw 93,000,000 o filltiroedd ar gyfartaledd (mae hwn yn newid ±1,500,000 milltir mewn blwyddyn).



Gwiwer[golygu cod y dudalen]

Gwiwer

Anifail bach, rhyw 38-45cm o hyd, yw'r wiwer. Mae gwiwerod yn byw yn bennaf mewn coedwigoedd, ac yn bwyta cnau maent wedi casglu am y gaeaf. Yng Nghymru mae'r wiwer goch dal yn fyw, ond ym mwyafrif Prydain mae'r wiwer lwyd o Ogledd America wedi gyrru'r wiwer goch i ffwrdd. Mae gwiwerod i'w cael ym mhob cyfandir heblaw am Awstralia.



Cenhinen Bedr[golygu cod y dudalen]

Cennin Pedr

Mae'r cenhinen Bedr yn blanhigyn lluosflwydd o'r genws Narcissus. Blodau mawr melyn sydd gan y rhan fwyaf o'r planhigion. Tyfant o fylbiau er mwyn blodeuo yn y gwanwyn cynnar. Y genhinen Bedr yw blodyn cenedlaethol Cymru.



Iago VI/I[golygu cod y dudalen]

Iago I

Iago VI/I (19 Mehefin 1566 - 27 Mawrth 1625) oedd brenin yr Alban (Iago VI) ers 24 Gorffennaf 1567, a brenin Lloegr (Iago I) ers 24 Mawrth 1603. Iago oedd mab Mair I o'r Alban a'r Arglwydd Darnley. Ei wraig oedd Anne o Ddenmarc.