Gwiwer
| Gwiwerod | |
|---|---|
| Gwiwer lwyd (Sciurus carolinensis) | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Inffradosbarth: | |
| Uwchurdd: | Euarchontoglires |
| Urdd: | Rodentia |
| Teulu: | Sciuridae Fischer de Waldheim, 1817 |
| Is-deuluoedd a llwythau | |
| |
Cnofil prendrig gyda chynffon drwchus iawn yw'r wiwer, sy'n perthyn i deulu'r Sciuridae, sy'n cynnwys aelodau eraill fel y wiwer resog, y wiwer hedegog a'r marmotiaid. Fe'i nodweddir gan gynffon hir wrychog a'i chwimdra wrth ddringo a neidio drwy ganghennau coed. Mae gwiwerod i'w cael ym mhob cyfandir heblaw am Awstralia ac Antarctica; cyflwynwyd nhw i Awstralia dros ganrif a hanner yn ôl.[1]
Mae gwiwerod yn byw yn bennaf mewn coedwigoedd, gan fwyta'r cnau maent wedi eu casglu ar gyfer y gaeaf. Yng ngwledydd Prydain, mae niferoedd y wiwer goch (Sciurus vulgaris) wedi gostwng yn sylweddol, ond mae hi'n dal i fyw mewn ambell i le yng Nghymru. Ym mwyafrif Ynysoedd Prydain mae'r wiwer lwyd (Sciurus carolinensis) a gyflwynwyd o Ogledd America wedi gyrru'r wiwer goch i ffwrdd. Amcangyfrifir bod 85% o wiwerod cochion Prydain yn byw yn yr Alban. Yn Lloegr, Ynys Wyth yw cadarnle'r wiwer goch.

Gwyddom fod y wiwer yn byw yn ystod yr oes Ëosen ac mae'n perthyn yn eithaf agos i Ddyfrgi'r mynydd a'r llyg.
Tarddiad y gair
[golygu | golygu cod]Perthyna'r gair i'r Lladin viverra (a olygai ‘ffured’) ac fe'i geir yn yr Hen Lydaweg fel guiufher. Cofnodir y gair am y tro cyntaf yn y Gymraeg yng Nghyfreithiau Hywel Dda: Tair cont cyfreithiawl y sydd: cont gast, a chont cath a chont gwiweir.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Seebeck, J. H. "Sciuridae" (PDF). Fauna of Australia. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2015-01-17. Cyrchwyd 2013-11-24.
- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru; Cyfrol II; tudalen 1673.
