Yr Antarctig

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Antarctica)
Jump to navigation Jump to search
Yr Antarctig
Antarctica 6400px from Blue Marble.jpg
Delwedd loeren gyfansawdd o'r Antarctig
Map o'r byd yn dangos yr Antarctig
Arwynebedd 14 000 000 km² (280 000 km² di-rew, 13 720 000 km² rhewedig)
Poblogaeth ~1000 (ychydig dros gant yn arhosol)
Llywodraeth yn cael ei reoli gan Gytundeb yr Antarctig
Ceisiadau Tiriogaethol Rhannol Baner Yr Ariannin Yr Ariannin
Baner Awstralia Awstralia
Baner Tsile Tsile
Baner Y Deyrnas Unedig Y Deyrnas Unedig
Baner Ffrainc Ffrainc
Baner Norwy Norwy
Baner Seland Newydd Seland Newydd
Côd ISO .aq
Côd ffôn +672

Yr Antarctig yw cyfandir mwyaf deheuol y Ddaear, ac mae'n cynnwys Pegwn y De daearyddol. Fe'i lleolir, felly, yn Hemisffer y De - i'r de o Gylch yr Antartig, gyda Chefnfor y De yn ei amgylchynu. Caiff ei reoli dan amodau Cytundeb yr Antarctig. Ceir dros 98% ohono a hwnnw'n 1.9 km (1.2 mi; 6,200 tr) o drwch, ar gyfartaledd.[1] ceir ychydig o dir yn y rhan gogleddol eithaf.

Mae ei arwynebedd yn 14,000,000 kilometr sgwâr (5,400,000 milltir sgwâr), a'r cyfandir hwn yw'r 5ed mwyaf: ar ôl Asia, Affrica, gogledd America a De America. Mewn cymhariaeth mae Antartica oddeutu dwywaith yn fwy nag Awstralia.

Ar gyfartaledd yrAntartig yw'r cyfandir oeraf, sychaf a mwyaf gwyntog. Mae cyfartaledd ei uchter (uwch y môr) yn uwch nag unrhyw gyfandir arall.[2] Gellir diffion Antarctig yn "ddiffeithwch", gyda glawiad o ddim ond 200 mm (8 mod) ar yr arfordir a llai nahynny i fewn i'r tir mawr.[3] Mae'r tymheredd yn amrywio: gostyngodd i −89.2 °C (−128.6 °F) ychydig yn ôl, ond mae'r tymheredd fel arfer rhwng yn y trydych chwarter (y chwarter oeraf o'r flwyddyn) yn −63 °C (−81 °F).

Yn 2016 roedd 135 o bobl yn byw yno'n barhaol, ond ceir rhwng 1,000 a 5,000 yn byw yno'n achlysurol: y rhan fwyaf yn y gorsafoedd ymchwil. mae'r rhan fwyaf yn wyddonwyr sy'n astudio algae, bacteria, ffwng, planhigion, protista, ac anifeiliaid fel chwain, nematodeau, pengwiniaid, morloi a tardigradau.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Globe stub.svg Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  1. British Antarctic Survey. "Bedmap2: improved ice bed, surface and thickness datasets for Antarctica" (PDF). The Cryosphere journal: 390. http://www.the-cryosphere.net/7/375/2013/tc-7-375-2013.pdf. Adalwyd 6 Ionawr 2014.
  2. National Satellite, Data, and Information Service. "National Geophysical Data Center". Government of the United States. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Mehefin 2006. http://www.ngdc.noaa.gov/mgg/image/2minrelief.html. Adalwyd 9 Mehefin 2006.
  3. Joyce, C. Alan (18 January 2007). "The World at a Glance: Surprising Facts". The World Almanac. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Mawrth 2009. http://www.worldalmanac.com/blog/2007/01/the_world_at_a_glance_surprisi.html. Adalwyd 7 February 2009.