Diwrnod Pi (mathemateg)
Ers 1988 mae 14 Mawrth wedi cael ei ddynodi'n ddiwrnod rhyngwladol π sy'n ddathliad byd-eang. Deilliodd y syniad o gael diwrnod pai o San Francisco, Unol Daleithiau'r America, lle defnyddir y fformat 'mis/dydd/blwyddyn' ar gyfer dyddiadau; o ddilyn y patrwm hwn, mae 14 Mawrth yn cyfateb i dri digid cynta'r rhif (3.14).
Mae'r diwrnod hefyd yn gyfle i hyrwyddo mathemateg yn gyffredinol, yn enwedig pethau pob dydd fel gwiro arian cyfrifoedd banc.[1]
Bathwyd y term, neu'r lythyren Groegaidd π gan Gymro o'r enw William Jones o Lanfechell, yn ei lyfr A New Introduction to Mathematics ym 1706. Mae'r cysonyn mathemategol π (a sillefir hefyd fel 'pi' neu 'pai') yn rhif real, anghymarebol sydd yn fras yn hafal i 3.141592654 (i 9 lle degol).
Mae llechen ar fur ysgol gynradd Llanfechell, Ynys Môn, yn nodi hyn:
| “ | "I gydnabod y cysylltiad Cymreig dynodwyd 14 Mawrth yn Ddiwrnod Pai Cymru gan Lywodraeth Cymru yn 2015 i’w ddathlu yn flynyddol o hynny ymlaen." | ” |
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Y Cymro arlein; adalwyd 7 Mawrth 2017.